Gwithiwr Cymdeithasol
6 months ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol.
Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cofrestredig i ymuno ag un o’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd yn y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn Hamadryad yn Butetown, Caerdydd.
Mae gweithio yn y Gwasanaethau i Oedolion mewn tîm iechyd meddwl cymunedol integredig amlddisgyblaethol yn cynnig amgylchedd gwaith prysur a diddorol fel y byddech yn ei ddisgwyl mewn prifddinas. Byddwch yn gweithio fel aelod o dîm sy'n cynnal asesiadau lles gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau o ran eich ymarfer, gan weithio gyda phobl i hyrwyddo a gwneud y mwyaf o fyw'n annibynnol.
**Am Y Swydd**
Bydd angen gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gyfwerth arnoch. Mae dealltwriaeth gynhwysfawr o’r ddeddfwriaeth berthnasol yn hanfodol. Yn ddelfrydol byddwch yn Weithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (AMHP) y mae taliad AMHP yn daladwy ar ei gyfer, neu’n fodlon cyflawni hyfforddiant yn y maes. Mae profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad iechyd meddwl hefyd yn ofynnol.
Bydd angen profiad o asesu anghenion dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 arnoch a phrofiad o gynllunio Gofal a Thriniaeth mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl. At hynny, mae angen profiad o gynnal asesiadau risg a datblygu cynlluniau gofal a chynlluniau rheoli risg cysylltiedig arnoch. Byddwch yn fodlon dilyn hyfforddiant priodol ac yn gallu gweithio dan bwysau.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn awyddus i recriwtio gweithiwr cymdeithasol profiadol. Rydym yn chwilio am bobl sydd wedi ymrwymo i roi ein dinasyddion wrth wraidd y gwaith a wnawn ac sydd am weithio mewn maes gwaith cyflym, deinamig ac amrywiol.
- Byddwch yn weithiwr cymdeithasol cymwys a phrofiadol ac wedi'ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Bydd gennych wybodaeth gadarn am y fframwaith deddfwriaethol sydd ar waith.
- Byddwch wedi ymrwymo i ddarparu sesiynau goruchwylio rheolaidd i aelodau'r tîm, gan gymryd rôl arweiniol mewn grwpiau mentora a chynnal archwiliadau o ansawdd.
- Byddwch yn ymrwymedig i ymgymryd â chyfleoedd hyfforddiant, mynychu sesiynau cymorth cymheiriaid a goruchwylio.
- Byddwch yn gallu ymarfer o safbwynt sy'n seiliedig ar gryfder.
- Byddwch am weithio ym mhrifddinas Cymru lle rydym yn cefnogi ein gilydd ac yn gweithio gyda'n gilydd â chydweithwyr, gweithwyr proffesiynol a Sefydliadau eraill.
- Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Bydd angen trwydded yrru ddilys lawn arnoch a char y gallwch ei ddefnyddio yn ystod oriau gwaith. Telir lwfans priodol.
Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ar ôl cael y disgrifiad swydd a’r fanyleb person cysylltwch â Catherine [Kay] Morgan, Rheolwr y Tîm Gwaith Cymdeithasol yn TIMC Hamadryad - (029) 20463488.
Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac yn addas ar gyfer rhannu swydd.
Mae diogelu oedolion ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor a'n nod yw cefnogi plant ac oedolion i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y cyngor a’r holl ysgolion.
Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch ag un o’r Rheolwyr Tîm uchod i drafod hynny.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO03767