Gweithiwr Cymdeithasol

1 week ago

Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time
**Am Y Gwasanaeth**
Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.

Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd.

Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion mewn tîm iechyd meddwl cymunedol integredig amlddisgyblaethol yn cynnig gwaith amrywiol, cyflym a diddorol i ymarferwyr fel y byddech yn ei ddisgwyl mewn prifddinas. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm blaengar sy'n cynnal asesiadau llesiant gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau i'ch ymarfer, gan weithio gyda phobl i hybu a byw'n annibynnol i'r eithaf.
**Am Y Swydd**
Mae hon yn swydd barhaol am 18.5 awr yr wythnos yn CMHT Pendine.

Bydd angen Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol. Mae dealltwriaeth gynhwysfawr o'r ddeddfwriaeth berthnasol yn hanfodol. Yn ddelfrydol byddwch yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) y mae taliad AMHP yn daladwy ar ei gyfer neu byddwch yn fodlon dilyn hyfforddiant fel ar gyfer rôl AMHP. Mae angen profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad iechyd meddwl.

Bydd angen i chi feddu ar brofiad o asesu anghenion o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 a phrofiad o gynllunio Gofal a Thriniaeth mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl. Yn ogystal, mae angen i chi feddu ar brofiad o gynnal asesiadau risg a datblygu cynlluniau gofal a chynlluniau rheoli risg cysylltiedig. Dylech fod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant priodol a gallu gweithio dan bwysau.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn awyddus i recriwtio gweithiwr cymdeithasol profiadol. Rydym yn chwilio am bobl sydd wedi ymrwymo i roi ein dinasyddion wrth galon y gwaith a wnawn ac sydd am weithio mewn maes gwaith cyflym, deinamig ac amrywiol.
- Byddwch yn weithiwr cymdeithasol cymwys a phrofiadol ac wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Bydd gennych wybodaeth gadarn o'r fframwaith deddfwriaethol sydd ar waith.
- Byddwch wedi ymrwymo i ddarparu sesiynau goruchwylio rheolaidd i aelodau'r tîm, cymryd rôl arweiniol mewn grwpiau mentora a chynnal archwiliadau ansawdd.
- Byddwch wedi ymrwymo i ymgymryd â chyfleoedd hyfforddi, mynychu sesiynau cymorth cyfoedion a goruchwyliaeth.
- Byddwch yn gallu ymarfer o safbwynt cryfder.
- Byddwch eisiau gweithio ym mhrifddinas Cymru mewn Gwasanaethau lle rydym yn cefnogi ein gilydd ac yn gweithio gyda chydweithwyr, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau eraill.

Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae angen trwydded yrru ddilys lawn a defnydd car yn ystod oriau gwaith a thelir lwfans priodol ar ei chyfer.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'r swydd yn addas ar gyfer rhannu swydd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion bregus i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad pob plentyn ac oedolyn agored i niwed, a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu llesiant, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith interim presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _Caroline Brown, Rheolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol yn TIMC Pentywyn

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03965

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.**Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o'r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth,...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir.Ynglŷn â'r GwasanaethMae Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd yn rhan o'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. Mae'r Tîm yn cydweithio â nifer o asiantaethau camddefnyddio sylweddau partner yn y Ddinas yn y sector statudol a'r trydydd sector.-...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru.Mae Caerdydd yn cynnig y cyfle i...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol.Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    Am Y GwasanaethMae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol.Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd ar...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth***Mae atodiad marchnad o £3000 yn daladwy yn ychwanegol at y cyflog a restrir*Mae ein gwasanaeth Pobl Hŷn a Nam Corfforol yn rhan o'r Gwasanaethau Oedolion, o fewn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd.Fel Cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.- Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.- Mae ein...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Gabalfa, a leolir yng Ngogledd Orllewin Caerdydd. Rydym yn dîm mawr, deinamig sy'n delio ag unigolion sy'n cyflwyno ystod eang o gyflyrau iechyd meddwl, eu gofalwyr a'u teuluoedd â dalgylchoedd gwahanol. Mae gennym un...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol cymwys i ymuno â'r Tîm Asesiadau Perthynas. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy'n Awdurdod ar daith weithredu drwy ddefnyddio'r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein plant.**Manteision a gynigir**Mae Caerdydd yn aml ar frig...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol, lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro-rata) a lwfansau sifftiau oriau anghymdeithasol.Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Dyletswydd Argyfwng (TDA) fel Prif Weithiwr...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Brif Weithiwr Cymdeithasol i weithio yn bennaf mewn rôl oruchwyliwr, ynghyd â rheoli achosion o lwyth gwaith cymhleth bach, o fewn un o'n Timau Ardal. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gefnogi gan ei Reolwr Tîm a'r Rheolwr Gweithredol. Byddai'n gweithio o fewn tîm o weithwyr cymdeithasol,...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous yn ein Hyb Ymyriadau. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol profiadol i arwain ar brosiect newydd yn cefnogi timau statudol sy'n gweithio gydag achosion lle mae trais domestig yn bresennol.**Amdanom NI**Y manteision a gynigirMae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd...

  • Gweithiwr Cymorth

    1 week ago

    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae cyfle wedi codi i ymuno â'r Tîm Byw â Chymorth Caerdydd. Rydym yn chwilio am weithwyr cymorth i roi cymorth i unigolion ag anabledd dysgu. Rydym yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth o safon uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion yn cynnig gwaith prysur a diddorol y byddech yn ei ddisgwyl mewn...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom British Red Cross Full time

    **Gweithiwr Cymorth Gwasanaeth Achlysurol - Adran Achosion Brys****Lleoliad: Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd****Math o gontract: Achlysurol****Oriau'r wythnos: Mae'r swydd ar gyfer gwyliau blynyddol a salwch. Nid oes unrhyw oriau dan gontract nac isafswm oriau. Mae hwn yn sero awr.****Cyflog: £10.90 yr awr****Gofyniad Gyrru: Trwydded Yrru Lawn y DU â...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog, amrywiol a chyffrous i bawb. Nid nepell o lan y môr, y cymoedd a'r mynyddoedd, siopa penigamp a bywyd nos neu leoliadau pentrefol llonydd.Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy'n Awdurdod ar daith weithredu drwy ddefnyddio'r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein plant....

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r Gwasanaethau Plant wedi creu tîm newydd i ganolbwyntio ar ehangu a chryfhau'r gweithlu presennol a gweithlu'r dyfodol.**Am Y Swydd**Bydd deiliad y swydd yn dylunio ac yn darparu amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi gan gynnwys platfformau E-Ddysgu sy'n diwallu anghenion hyfforddi a datblygu timau'r Gwasanaethau Plant.Bydd yn...