Cynorthwyydd / Assistant Cylch Meithrin Llanllyfni

2 weeks ago


Caernarfon, Gwynedd, United Kingdom Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Llanllyfni Full time
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant bach Cymru?

Dewch i ymuno â theulu Mudiad Meithrin - rydyn ni'n angerddol am roi'r dechrau gorau i blant.

**Y Mudiad**: Ry'n ni'n angerddol am roi'r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu drwy'r Gymraeg, a'n nod yw gweld siaradwyr Cymraeg newydd yn ffynnu. Gwnawn hyn trwy ymgyrchu dros ofal ac addysg Gymraeg, cefnogi ein haelodau a chynllunio'n strategol i greu darpariaethau (Cylchoedd a Meithrinfeydd) newydd. Mae'n holl Gylchoedd a'n Meithrinfeydd Dydd yn cynnig gweithgareddau llawn hwyl i tua 22,000 o blant ifanc bob wythnos. Ry'n ni hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda rhieni a gofalwyr er mwyn rhoi cefnogaeth a gwybodaeth iddynt ar ddewis addysg Gymraeg, rhoi'r Gymraeg i'w plant a lle i ddechrau dysgu Cymraeg.

Mae bron i 300 o staff yn rhan o deulu Mudiad Meithrin gyda 2,000 yn gweithio yn lleol yn y Cylchoedd a'r Meithrinfeydd dydd. Ry'n ni eisiau i'r Mudiad fod yn gyflogwr sy'n denu grŵp amrywiol o unigolion talentog i weithio iddo, gan aros a'n hargymell fel cyflogwr da. Rydym yn rhoi ein ffydd yn ein staff ac yn rhoi'r grym a chefnogaeth iddynt wneud eu gorau er lles ein haelodau, ein pobl a'u hunain. Mae adlewyrchu'r cymunedau ry'n ni'n cefnogi yn bwysig i ni felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob cefndir.

**Gwerthoedd Gwaith Mudiad Meithrin**

Dyma'r gwerthoedd sydd yn llywio gwaith a gweithgarwch staff Mudiad Meithrin

Caredig a chyfrifol - dangos parch at ein hunain, at waith ein gilydd, at bob un sydd yn dod i gysylltiad ȃ ni yn ein gwaith ac at ein cynefin a'n byd

Tryloyw ac anrhydeddus - trwy dryloywder a gonestrwydd, bod yn atebol am ein penderfyniadau, bod yn barod i gyfaddawdu ac i ddysgu o'n camgymeriadau

Proffesiynol ac adeiladol - gwneud ein gorau o hyd gan anelu at greu gwaith o safon uchel, bod yn arloesi a mentro gan roi bri ar ddatblygu'n hunain

Cynhwysol a chroesawgar - gweithredu'r egwyddor fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ei fod yn gyfrwng i'n huno a'i bod yn sylfaenol i bob agwedd o'n gwaith

**Y Cylch**:Mae'r cylch yn darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd i blant rhwng 2-4 mlwydd oed hyd at oed ysgol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig. Caiff pob plentyn gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy'n hybu pob agwedd o'i ddatblygiad. Mae'r cylch wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn cael ei reoli gan is gwmni Mudiad Meithrin, sef Meithrinfeydd Cymru Cyf.

**Lleoliad**:Cylch Meithrin Llanllyfni, Neuadd Goffa Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6SG

**Dyletswyddau'r Swydd**:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy'r Rheolwr/Arweinydd y cylch ac yn gyfrifol am gyflawni'r dyletswyddau canlynol:

- Sicrhau bod pob plentyn yn derbyn gofal o'r safon uchaf ac yn derbyn sylw gofalgar, prydlon a chynhwysol.
- Dilyn holl bolisïau a gweithdrefnau'r cylch.
- Sicrhau bod trefniadau amser bwyd/snac yn cael eu gweithredu yn briodol.
- Sicrhau bod amserau bwyd yn cynnig profiadau cymdeithasol a phleserus i'r plant.
- Gweithredu rhaglen o weithgareddau creadigol ar gyfer plant er mwyn cwrdd â'i anghenion unigol.
- Meithrin datblygiad, hyder ac annibyniaeth pob plentyn gan gwrdd â'u hanghenion cymdeithasol ac emosiynol.
- Defnyddio'r dull Trochi gan sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd.
- Sicrhau y darperir gweithgareddau chwarae yn yr awyr agored.
- Arddangos gwaith y plant.
- Cydweithio yn effeithiol ac effeithlon fel rhan o'r tîm a sicrhau mewnbwn i drefniadau'r dydd.
- Cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn ôl yr angen a rhieni.
- Cydymffurfio a safonau Gofynnol a Rheoliadau AGC.
- Dilyn gweithdrefnau Hylendid ac Iechyd a Diogelwch.
- Sicrhau bod yr offer ac adnoddau yn ddiogel ac yn addas at ystod oedran.
- Sicrhau bod yr ystafell a'r cyfleusterau yn ddiogel, yn lan, yn ddeniadol ac yn groesawgar.
- Gweithio mewn partneriaeth gyda'r plant a'u rhieni mewn ffordd gynhwysol.
- Mynychu hyfforddiant perthnasol fel bo angen.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n berthnasol i'r swydd yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr/Arweinydd a'r Dirprwy Rheolwr Talaith.

Gwneud Cais: Bydd disgwyl i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais ar gyfer y swydd. Ni dderbynnir CV yn lle ffurflen gais. Bydd disgwyl i'r ymgeiswyr nodi sut y maent yn ateb y gofynion hanfodol, a dymunol os yn berthnasol, fel y nodir yn y fanyleb person.

**Job Types**: Part-time, Temporary

Pay: £11.44 per hour

Expected hours: No less than 16 per week

Schedule:

- Day shift
- Monday to Friday

School type:

- Preschool

Ability to commute/relocate:

- Caernarfon, LL54 6SG: reliably commute or plan to relocate before starting work (required)

**Language**:

- Cymraeg / Welsh (required)

Work Location: In person

Application deadline: 30/04/2024
  • Accounts Assistant

    2 weeks ago


    Caernarfon, Gwynedd, United Kingdom Pero (Foods) Ltd Full time

    Cynorthwyydd CyfrifonWedi'i sefydlu ym 1985, mae Pero yn gwmni teuluol sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid anwes o safon uchel o'n fferm ar odre Parc Cenedlaethol Eryri.Mae gennym flynyddoedd lawer o brofiad yn creu ryseitiau holl-naturiol o'r ansawdd gorau, gydag wyth rysáit craidd Pero, a dros 100 o wahanol ryseitiau a chyfuniadau trwy Signature, sy'n...


  • Caernarfon, United Kingdom Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Llanllyfni Full time

    Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant bach Cymru? Dewch i ymuno â theulu Mudiad Meithrin - rydyn ni’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant. **Y Mudiad**: Ry’n ni’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu drwy’r Gymraeg, a’n nod yw gweld siaradwyr Cymraeg newydd yn ffynnu. Gwnawn hyn trwy ymgyrchu dros...


  • Caernarfon, United Kingdom Snowdonia National Park Authority Full time

    **Cynorthwyydd Maes Parcio** Maes Parcio Pen y Pass, Parc Cenedlaethol Eryri (gyda theithio ar draws y Parc Cenedlaethol) **Amdanom ni** Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o...

  • Car Park Attendant

    2 weeks ago


    Caernarfon, United Kingdom Snowdonia National Park Authority Full time

    **Cynorthwyydd Maes Parcio** Maes Parcio Pen y Pass, Parc Cenedlaethol Eryri (gyda theithio ar draws y Parc Cenedlaethol) **Amdanom ni** Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o...

  • Car Park Attendant

    1 week ago


    Caernarfon, United Kingdom Snowdonia National Park Authority Full time

    **Cynorthwyydd Maes Parcio** Maes Parcio Pen y Pass, Parc Cenedlaethol Eryri (gyda theithio ar draws y Parc Cenedlaethol) **Amdanom ni** Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o...


  • Caernarfon, United Kingdom Snowdon Mountain Railway Full time

    **Retail & Catering Assistants 2023 (Indeed etc)** Are you looking for a one-of-a-kind and exciting opportunity in 2023? Join the Snowdon Mountain Railway team as a Catering & Retail Assistant at Llanberis Station. Full-time seasonal positions are available in our Station Buffet, Platform Grill, and Station Shop. You will be interacting with customers on a...

  • Accounts Assistant

    4 weeks ago


    Caernarfon, United Kingdom Pero (Foods) Ltd Full time

    **Cynorthwyydd Cyfrifon** Wedi’i sefydlu ym 1985, mae Pero yn gwmni teuluol sy’n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid anwes o safon uchel o’n fferm ar odre Parc Cenedlaethol Eryri. Mae gennym flynyddoedd lawer o brofiad yn creu ryseitiau holl-naturiol o'r ansawdd gorau, gydag wyth rysáit craidd Pero, a dros 100 o wahanol ryseitiau a chyfuniadau trwy...


  • Caernarfon, United Kingdom National Trust Full time

    We are looking for a Holiday Cottage Cleaner to prepare our stunning holiday cottages at Craflwyn, Beddgelert. **Hours**:10 hours per week. The main changeover days are Monday and Fridays, however, on rare occasions the changeover days can also fall on other days of the week, and you would have the opportunity to work other, additional hours if you are able...