Cyfieithydd
2 weeks ago
**Details**:
**Reference number**:
- 223405**Salary**:
- £27,650 - £29,728- Dylai ymgeiswyr sylwi mai’r cyflog cychwynnol ar gyfer y rhai y cynigir swydd iddynt yw’r isafswm cyflog ar gyfer y raddfa hon.**Grade**:
- Executive Officer**Contract type**:
- Permanent**Business area**:
- HMRC - CDIO - Other - CDIO Corfforaethau, Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid - Uned Gymraeg**Type of role**:
- Digital
- Information Technology**Working pattern**:
- Flexible working, Full-time, Job share, Part-time**Number of posts**:
- 1Contents
Location
About the job
**Benefits**:
Things you need to know
Location
- Canolfan Iaith Gymraeg CThEM, Ystafell B1.22, Ty William Morgan, 6 Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1EPAbout the job
**Summary**:
- Yn CThEM rydym wedi ymrwymo i greu lle gwych i weithio i’n holl gyflogeion; amgylchedd cynhwysol a pharchus sy’n adlewyrchu amrywiaeth y gymdeithas rydym yn ei gwasanaethu.
- Rydym eisiau helpu pawb sy’n dewis gweithio i ni i gyflawni eu holl botensial, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o batrymau gwaith hyblyg yn ogystal â chymorth er mwyn i chi gael gyrfa sy’n rhoi boddhad i chi yn CThEM.
- Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.
- Mae’r Uned Gymraeg yn rhan o adran ehangach y Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol sy’n gweithio, ar hyn o bryd, tuag at y gweddnewid digidol mwyaf yn hanes y llywodraeth. Dyna pam mae hi’n amser gwych i ymuno â CThEM.
- Yr hyn sy’n ein gwneud yn wahanol i bawb arall yw ein hymroddiad i roi gwasanaeth o’r radd flaenaf, yn ogystal ag ymgysylltu â’n gweithlu a’i wella ar hyd y ffordd. Byddwch yn cael hyfforddiant llawn, a byddwn yn eich cynorthwyo ar hyd llwybr eich gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil.**Job description**:
- Rydym am recriwtio unigolyn brwdfrydig a chryf ei gymhelliad i ymuno â’r Uned Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o dîm croesawgar, ac i ddefnyddio’ch sgiliau a’ch profiad presennol i arwain wrth gynhyrchu cyfieithiadau o’r radd flaenaf ac wrth ddatblygu gwasanaethau Cymraeg i CThEM.**The Role**
Mae dyletswyddau’r rôl yn cynnwys defnyddio pecynnau meddalwedd modern i gyfieithu dogfennau amrywiol mewn sawl fformat electronig gwahanol, yn ogystal â thrafod terminoleg ac arddull ysgrifennu newydd a phenderfynu arnyn nhw. Bydd cyfleoedd rheolaidd hefyd i gymryd rhan mewn nifer o brosiectau cyfieithu gwahanol. Bydd hyn yn ehangu’ch profiad o reoli cwsmeriaid a’r hyn y maent yn galw amdano, yn gloywi’ch sgiliau mewn perthynas â meddalwedd cyfieithu a therminoleg cyfieithu, ac yn egluro sut rydym yn darparu ein gwasanaethau Cymraeg. Byddwch yn dilyn rhaglen hyfforddi gynhwysfawr, strwythuredig, a fydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o’r sgiliau hyn.
- I helpu gyda hyn, bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, gallu cynhyrchu cyfieithiadau o’r radd flaenaf, a bod yn flaengar gan ddangos agwedd bositif a pharodrwydd i ddysgu.**Responsibilities**:
- Bydd y rhain yn cynnwys y canlynol:
- Cyfieithu deunydd CThEM - mewn modd sy'n bodloni safonau o'r radd flaenaf a dyddiadau cau y cytunir arnynt - gan gynnwys gohebiaeth, ffurflenni, taflenni, cynnwys ar y we a gwasanaethau ar-lein, yn ogystal â gwybodaeth i weinidogion..
- Prawf-ddarllen cyfieithiadau cydweithwyr, a rhai eich hun, yn brydlon - gan bob amser ystyried yr holl ddyddiadau cau.
- Gwneud defnydd llawn a phriodol o’n meddalwedd cof cyfieithu - Trados - gan sicrhau ei bod yn cael ei llenwi â chyfieithiadau o safon (byddwch yn cael hyfforddiant).
- Cynorthwyo wrth ymchwilio i derminoleg a ddefnyddir mewn ystod eang o bynciau a’i hamgyffred, gan ddiweddaru a gwella eich gwybodaeth ieithyddol a thechnegol yn ôl y gofyn.
- Chwilio am gyfleoedd i roi’r gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid, a’r Adran, drwy fod yn hyblyg wrth ymdrin â blaenoriaethau gwaith newydd a newidiol, a thrwy gynhyrchu cyfieithiadau yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol.
- Ymdrechu i wella safon ein gwasanaethau - gan ddilyn yr egwyddor o ystyried y cwsmer yn gyntaf ar bob achlysur - a gan bwysleisio pwysigrwydd profiad y cwsmer wrth ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg CThEM.
**Meini Prawf Hanfodol**
Bydd gennych:
- Sgiliau iaith rhagorol (Cymraeg a Saesneg).
- Gradd yn y Gymraeg neu gymhwyster Cymraeg cyfatebol neu brofiad o gyfieithu i’r Gymraeg.
Dylech hefyd fod â gwybodaeth gadarn a phrofiad o’r canlynol:
- Prosesau, meddalwedd ac adnoddau cyfieithu Cymraeg (ar bapur ac ar-lein).
- Blaenoriaethu llwythi gwaith a chyfathrebu’n effeithiol.
- Gofynion cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.
**Meini Prawf Dymunol**
- Bod yn aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (Saesneg i’r Gymraeg).
- Gwybodaeth gadarn am y gwahanol fformatau y mae angen cyfieithiadau Cymraeg (e.e. Word, Excel, PDF, HTML, ac ati).
**Languages**:
- Mae’n rhaid i’r ymg
-
Welsh Language Translator Cyfieithydd Cymraeg
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom TNL Community Fund Full timeAn exciting opportunity has arisen for an enthusiastic motivated individual who has a flexible attitude to lead on our translation service within the Fund.The Fund is a truly bilingual organisation. Our principle is to treat the Welsh and English languages equally by offering a bilingual service to our customers and grant holders on a day-to-day basis.You...
-
Student Recruitment
3 days ago
Cardiff, United Kingdom The Open University Full timeStudent Recruitment & Support Adviser (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP) Salary: £ Newid eich gyrfa, newid bywydau Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy...