Student Recruitment
3 days ago
Student Recruitment & Support Adviser (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP) Salary: £ Newid eich gyrfa, newid bywydau Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube). Y Rôl Mae dros 16,000 o fyfyrwyr o gymunedau ledled Cymru yn astudio gyda’r Brifysgol Agored ar hyn o bryd, ac mae mwy na dwy ran o dair ohonynt mewn cyflogaeth wrth astudio. Mae’r Brifysgol Agored yn gweithio gyda busnesau, elusennau, undebau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i helpu i ddatblygu eu staff, ac i annog mwy o bobl i ddysgu gydol oes, waeth beth fo’u cefndir. Mae gan y Brifysgol fyfyrwyr ym mhob etholaeth yng Nghymru. Mae gennym ddwy cyfle cyffrous newydd i weithwyr gwasanaeth cwsmeriaid ymuno â’r tîm rheng flaen yn ein Canolfan Gyswllt Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr. Mae hon yn rôl brysur ac amrywiol, lle byddwch yn helpu ein myfyrwyr – a’r rhai sy’n ystyried astudio gyda ni – i wneud penderfyniadau am eu dysgu. Mae ein Cynghorwyr Myfyrwyr yn bwynt cyswllt cyntaf i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr sy’n chwilio am wybodaeth am astudio gyda’r Brifysgol Agored. Mae’r tîm yn cefnogi myfyrwyr drwy sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth sydd ei hangen i wneud y dewisiadau astudio cywir iddynt, ac i gofrestru a thalu drwy’r dull o’u dewis. Mae’r tîm yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i gefnogi myfyrwyr ac ymholwyr. Mae’r rôl yn cynnwys llawer o waith ffôn, galwadau mewnol ac allanol, i ddarparu cymorth i fyfyrwyr drwy eu taith astudio, yn ogystal ag e-byst, llythyrau, sgwrs we a dulliau eraill fel bo’n angenrheidiol. Bydd angen i chi fod yn hyderus wrth weithio gyda sawl system, gwybodaeth a chronfa ddata i gynnal manylion myfyrwyr ac ymholwyr. Byddwch yn sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei rhoi i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr, ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i ddarparu cymorth. Rydym yn cynnig gwasanaeth cymorth dwyieithog llawn i ymholwyr a myfyrwyr fel y gallant gyfathrebu â ni yn eu hiaith ddewisol. Mae’r cyfleoedd hyn ar gyfer gweithwyr gwasanaeth cwsmeriaid sy’n hyderus yn eu gallu i gyfathrebu yn Gymraeg neu Saesneg drwy bob sianel. Byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn ar gyfer y rôl gan Gynghorwyr profiadol presennol gan ddefnyddio deunyddiau o ansawdd uchel, ac yna cymorth, hyfforddiant a datblygiad rheolaidd gan eich Rheolwr Tîm a chyd-aelodau profiadol i adeiladu eich hyder a’ch gwybodaeth yn y rôl. Rydym yn sefydliad arloesol ac yn gweithio i ddatblygu’r cymorth a gynigiwn i’n cydweithwyr a dysgwyr Cymraeg. Fel rhan o’ch hyfforddiant, byddwch yn dysgu am y gwasanaeth dwyieithog a gynigiwn a sut y byddwch yn cymryd rhan yn cefnogi ein dysgwyr sy’n dewis cyfathrebu â ni yn Gymraeg. Mae rhwydwaith o gydweithwyr Cymraeg eu hiaith o fewn y Brifysgol, a byddwch yn cael eich cefnogi ac annog i ddefnyddio’r Gymraeg yn eich gwaith o ddydd i ddydd. Mae’r rôl hon yn llawn amser, 37 awr yr wythnos, a bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus weithio patrwm hyblyg rhwng yr oriau agor presennol sef 8.00am – 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Sylwch: bydd cyfyngiadau ar wyliau yn ystod y cyfnod hyfforddi cychwynnol, Awst, Medi, Hydref a Ionawr gan mai dyma’r cyfnod gweithredol prysuraf. Cyfrifoldebau Allweddol Darparwyr Gwasanaeth Aml-sianel Darparu gwybodaeth i ymholwyr a myfyrwyr gan ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg yn dibynnu ar ddewis y dysgwr, gan eu cefnogi gyda’r broses gofrestru, ymholiadau am gyllid, a gwybodaeth gyffredinol am y Brifysgol Agored drwy alwadau ffôn mewnol/allanol ac e-byst yn bennaf. Trosglwyddo galwadau’n rhagweithiol i dimau arbenigol am gyngor a chanllawiau pellach lle bo’n briodol fel rhan o fodel Gwybodaeth, Cyngor a Chanllawiau. Gan ddefnyddio eich profiad a’ch menter, byddwch yn llywio ac yn ymateb i faterion, gan ddehongli a chymhwyso gweithdrefnau a chanllawiau yn unol â pholisïau cytunedig. Prosesau Gweithredol a Safonau Cyflawni unrhyw dasgau gweinyddol neu brosesau sy’n gysylltiedig ag ymholiadau neu geisiadau myfyrwyr mewn modd amserol. Cofnodi cyswllt â myfyrwyr, adolygu a diweddaru cofnodion gan ddefnyddio systemau’r Brifysgol. Gweithio ar rota fel rhan o dîm i sicrhau bod yr holl weithgarwch yn cael ei drin yn brydlon ac yn effeithiol, ac o fewn y Lefelau Gwasanaeth a gytunwyd. Cwrdd â’r safonau gwasanaeth disgwyliedig ac ymdrechu i’w rhagori, gan ddarparu profiad cadarnhaol i bob myfyriwr ac ymholwr drwy eu rhoi wrth galon popeth a wnewch. Gwella ac Datblygu Parhaus Cofleidio ein diwylliant o welliant parhaus, er enghraifft drwy gymryd rhan mewn mentrau ansawdd a chyfrannu mewn cyfarfodydd tîm. Adnabod a dathlu llwyddiannau, tra’n cymryd cyfrifoldeb i weithredu ar adborth, gan wneud pethau’n well gyda brwdfrydedd ac ymrwymiad. Chwilio am gyfleoedd i’ch herio a’ch datblygu, gan siarad yn agored â’ch Rheolwr Tîm am eich perfformiad eich hun, ac ymdrechu i ddod yn arbenigwr yn eich maes. Mynychu digwyddiadau hyfforddi a sesiynau briffio i sicrhau bod gennych fynediad at wybodaeth weithredol gywir a chyfredol, fel eich bod yn gallu mabwysiadu arferion a gweithdrefnau busnes cywir a sy’n esblygu. Mynychu a chyfrannu’n weithgar mewn cyfarfodydd tîm, gan gynnig syniadau a mentrau i wella’r busnes a gwneud y ddarpariaeth gwasanaeth mor effeithlon â phosibl. Ymgysylltu’n gadarnhaol â chefnogi a datblygu aelodau newydd o’r tîm. Rhannu gwybodaeth ac arferion gorau ag eraill ar draws cyfadrannau ac adrannau. Amdanoch Chi Hanfodol Gallu cyfathrebu’n hyderus yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gyda agwedd “gallwn ni” ac mewn dull proffesiynol. Profiad o ymateb i ymholiadau amrywiol ac o weithredu arnynt, gan ddefnyddio ystod eang o ffynonellau gwybodaeth. Sgiliau cyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig e.e. technegau ffôn effeithiol, defnyddio Saesneg clir i egluro polisïau a gweithdrefnau ac i ysgrifennu’n glir, yn gryno ac yn gywir. Gallu delio â gwybodaeth a gweithdrefnau dogfennedig: defnyddio menter i ddatrys problemau, gan gydnabod ffiniau. Sgiliau TG profedig, gan gynnwys defnyddio pecynnau Microsoft Office. Profiad o weithio’n effeithiol mewn tîm, a gweithio i gyrraedd targedau personol, tîm ac sefydliadol. Sgiliau trefnu da gan gynnwys gallu i gwrdd â therfynau amser, gweithio’n gynhyrchiol ac yn gywir mewn amgylchedd dan bwysau. Hyblygrwydd gan gynnwys gallu i addasu i amgylchiadau newidiol (gweithio o gartref ac o’r swyddfa), dyletswyddau ac arferion gwaith. Tystiolaeth o ymrwymiad i ddatblygiad parhaus. Dealltwriaeth gadarn ac ymrwymiad i gyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth, ynghyd â dealltwriaeth ac empathi gyda gweithio mewn amgylchedd dwyieithog. Dymunol Profiad o weithio mewn model hybrid ac o gyfathrebu o bell. Profiad o weithio mewn amgylchedd addysg uwch. Profiad o weithio mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid cymhleth aml-sianel ac o ymdopi â nifer fawr o alwadau ffôn, e-byst a gohebiaeth. Profiad o weithio gyda system rheoli perthynas â chwsmeriaid (CRM). NVQ lefel 2 neu 3 mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid neu Wybodaeth, Cyngor a Chanllawiau. Cymorth gyda'ch cais Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio neu e-bostio gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb. Beth yw'r buddion i chi? Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd). Trefniadau Gweithio Hyblyg Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi. Camau nesaf yn y broses Recriwtio Bydd y rhestr fer yn cael ei chynnal yr wythnos yn dechrau 11 Ionawr 2026 Gellir cyflwyno eich cais yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Nodwch os hoffech ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfweliad neu unrhyw fath arall o asesiad. Byddwn yn darparu cyfieithydd ar y pryd os bydd angen un. Hysbysiad dyddiad cau cynnar Efallai y byddwn yn cau'r hysbyseb swydd hon yn gynharach na'r dyddiad cau a gyhoeddwyd os bydd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn foddhaol. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar. Sut i wneud cais I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol: CV Datganiad cefnogol o ddim mwy na 1000 o eiriau yn amlinellu sut rydych yn bodloni’r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl hon. Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.
-
Student Recruitment
2 weeks ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom The Open University UK Full time £24,685 - £26,707 per yearStudent Recruitment & Support Adviser (Welsh Speaking)Advert Reference Number: 1193Job Location: CardiffDepartment: OUiW Student ExperienceSalary: £24,685 to £26,707Closing Date: 19 November 2025Weekly Working Hours: 37Contract Type: PermanentFixed Term Contract: End Date: Not applicableWelsh Language: EssentialChange your career, change livesThe Open...
-
Student Recruitment and Support Adviser
2 days ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom The Open University UK Full timeStudent Recruitment and Support AdviserAdvert Reference Number: 1295Job Location: CardiffDepartment: OUiW Student ExperienceSalary: £24,685 to £26,707Closing Date: 11 January 2026Weekly Working Hours: 37Contract Type: PermanentFixed Term Contract: End Date:Welsh Language: EssentialChange your career, change livesThe Open University is the UK's largest...
-
Student Ambassador
3 days ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full timeStudent AmbassadorWe're looking for enthusiastic Cyncoed campus students to join our Ambassador Team in Marketing & External Relations. Student Ambassadors work at recruitment events such as Open Days, taster days, and UCAS fairs for Cardiff Metropolitan University.The role also involves working in schools and colleges across South Wales to support sessions...
-
Supervisor
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Vita Student Full timeSalary: £23,000 Contract: Permanent, 45 hours per week **Job Role** Vita Student seeks experienced, but above all passionate, people to uphold aspirations. In every changing environment you will be required to support the management team on site in the delivery of all service KPIS, H&S and operational policies and procedures. **Supervisor...
-
Student Recruitment and Support Adviser
3 days ago
Cardiff, United Kingdom The Open University Full timeStudent Recruitment and Support Adviser (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP) Salary: £ Change your career, change lives The Open University is the UK’s largest university, a world leader in flexible part-time education combining a mission to widen access to higher education with research excellence, transforming lives through education. Find out more about us and...
-
Student Mentor
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Hoop Professional Services Full timeHoop Recruitment are delighted to be working with an autism charity based in central Cardiff that’s built on values of compassion and understanding. We’re looking for a student mentor to support students on the autistic spectrum on a full-time, permanent basis. This is an ideal opportunity for graduates or people to use their pre-existing experience in a...
-
Welsh Speaking Cover Supervisor
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom SET Recruitment Full timeJob Description:Are you passionate about education and fluent in Welsh? We're seeking a dedicated Welsh-speaking Cover Supervisor to join our team. This is a fantastic opportunity to make a meaningful impact in the lives of students while utilising your language skills in a supportive and dynamic environment. SET Recruitment want someone like you! You’ll...
-
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff University Full timeKey Duties Working flexibly as part of a dedicated team, including some evening and weekend working, you will: Provide detailed professional advice and guidance on postgraduate recruitment best practice to internal and external customers, and guiding colleagues in recruitment best practice.Undertake postgraduate recruitment activities including the...
-
Cardiff, United Kingdom Tradewind Recruitment Full timeA regional recruitment agency is looking for passionate Supply Teachers to inspire students in Cardiff's secondary schools starting January 2026. Ideal candidates will hold Qualified Teacher Status and possess strong communication skills. This role emphasizes flexibility, allowing access to various teaching opportunities including daily, long-term, and...
-
Design & Technology Teacher
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom VES Recruitment Full timeJob: Supply Secondary Teacher for D&T Classes Salary range: £172.98 per dayLocation: Cardiff areaSector: Secondary Schools This is a fantastic opportunity to support the learning and development of students, while gaining valuable experience in a classroom environment. Please note, we are unable to provide visa sponsorship for this position. What is...