Prif Swyddog Cynllunio a Gwella

3 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sylweddol sy'n cefnogi'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'n gyfrifol am gefnogi'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol drwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol a monitro cynnydd yr amcanion hyn gan ganolbwyntio ar gyflawni effeithiol, dadansoddi perfformiad a rhoi cipolwg ar sut y gall y Cyngor wella.

Wedi'i leoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Pobl a Chymunedau, bydd hwn yn gyfle i weithio fel rhan o dîm talentog ac ymroddedig ar amrywiaeth o faterion polisi cyhoeddus.

**Am Y Swydd**
Mae hon yn rôl gynllunio a gwella gyffrous o fewn y Tîm Perfformiad a Mewnwelediad.

Byddwch yn gweithio gydag arweinyddiaeth wleidyddol a rheolaethol y sefydliad i gefnogi'r gwaith o ddatblygu dogfennau strategol allweddol, ac i sicrhau bod fframwaith perfformiad corfforaethol effeithiol yn cael ei gyflawni.

Byddwch yn rhan o dîm hynod frwdfrydig, ymroddedig a chefnogol, gydag ymrwymiad i wneud gwaith o safon uchel a chefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y Cyngor, a'r gwasanaeth cyhoeddus ehangach, ar amrywiaeth o faterion sy'n cynnig cyfleoedd a phrofiadau gwych.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â gwybodaeth ragorol am Lywodraeth Leol, amgylchedd Polisi Cymru, a chynllunio strategol.

Mae'n rhaid bod gennych hanes o weithio'n llwyddiannus gydag uwch reolwyr a sefydliadau partner, tra'n ymwybodol o'r amgylchedd gwleidyddol y mae'r Cyngor yn gweithredu ynddo.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu rhagorol, a byddwch yn gallu cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn effeithiol ar gyfer amrywiaeth o wahanol gynulleidfaoedd.

Bydd gennych brofiad o wneud gwaith ymchwil a dadansoddi yn annibynnol ac fel rhan o dîm, a bydd gennych ddawn i ddatrys problemau, gallu nodi materion ac argymell opsiynau ar gyfer gwella.

Byddwch yn drefnus ac yn gallu rheoli eich tasgau eich hun yn effeithlon, a thasgau eraill, gan flaenoriaethu ac amserlennu gwaith yn ôl yr angen. Bydd gennych brofiad o reoli newid, a bydd gennych y gallu i gefnogi ac arwain prosiectau gwella.

Bydd lefel dda o gymhwysedd TGCh yn rhagofyniad, a byddai ymgyfarwyddo â meddalwedd mwy arbenigol ym maes dadansoddi data a delweddu data, gan gynnwys Microsoft Power BI, yn fanteisiol.

Yn bwysicaf oll, rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sy'n frwd dros wella gwasanaethau cyhoeddus ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm effeithiol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae hon yn swydd barhaol.

Fel rhan o'r broses ymgeisio, sicrhewch eich bod yn defnyddio unrhyw brofiad addysgol, proffesiynol neu waith perthnasol i ddangos eich bod yn bodloni'r proffil ymgeisydd a nodir yn y Fanyleb Person amgaeedig.

**Oherwydd ein trefniadau gwaith diogel yn ystod cyfyngiadau Covid, ni allwn anfon pecynnau recriwtio drwy'r post. Ni allwn ychwaith dderbyn ffurflenni cais trwy'r post.**

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO01937


  • Prif Swyddog Craffu

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf ac yn un o’r dinasoedd mwyaf medrus ym Mhrydain. Rydym am i Gaerdydd gael ei hadnabod fel un o’r Cynghorau a reolir orau yn y DU. Mae’r Pwyllgorau Craffu’n cyfrannu at benderfyniadau’r Cyngor trwy gynrychioli buddiannau dinasyddion a rhanddeiliaid yng Nghaerdydd a thrwy...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio 4 Gweithiwr Cymdeithasol profiadol a pharhaol i ymuno â'n tîm newydd ac arloesol a fydd yn adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth yn annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.** Byddwch yn ymuno â Hyb Adolygu gwell a diwygiedig, yn eistedd ochr yn ochr â Chadeiryddion Cynadleddau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio 2 Gweithiwr Cymdeithasol profiadol a pharhaol i ymuno â'n tîm newydd ac arloesol a fydd yn adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth yn annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.** Byddwch yn ymuno â Hyb Adolygu gwell a diwygiedig, yn eistedd ochr yn ochr â Chadeiryddion Cynadleddau...


  • Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time

    **Swyddog Cynllunio'r Gweithlu** Caerdydd neu Lanelwy (gweithio hybrid) **Amdanom ni** Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...

  • Swyddog Cynllunio

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf ac yn un o’r dinasoedd mwyaf medrus ym Mhrydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn cynnwys tri Thîm: Polisi Cynllunio; Rheoli Datblygu Strategol a Chreu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaeth Swyddogion Iechyd a Diogelwch Ysgolion yn cynnig gwasanaeth cymorth proffesiynol i Benaethiaid i helpu i reoli iechyd a diogelwch yn eu hysgolion. **Am Y Swydd** Mae angen Swyddogion Iechyd a Diogelwch profiadol a deinamig i ymuno â’r tîm. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhoi cyngor a chymorth Iechyd a Diogelwch...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Gofal Plant...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Swyddog Cyngor Digartrefedd yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai. Mae'r Gwasanaeth Dewisiadau Tai yn rhoi cyngor a chymorth i bobl ag anghenion tai yng Nghaerdydd. **Ynglŷn â’r Swydd** Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd hon gyflawni nifer o swyddi o fewn y gwasanaeth gan gynnwys cynorthwyo â gwaith y Swyddogion Tai gan roi cyngor...

  • Swyddog

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi ar gyfer** **Swyddog, yn gweithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu.** **Am Y Swydd** Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae’n allweddol o ran cynllunio a chyflawni prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth technegol ac AutoCad mewn...