Uwch Therapydd Galwedigaethol
2 days ago
**Amdanom ni**
Mae'r Tîm Derbyn ac Asesu yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth gofal cymdeithasol rheng flaen i oedolion sy'n byw ym Mro Morgannwg. Mae'r tîm yn gweithio o fewn y 'Gwasanaeth Materion Lles' amlasiantaethol, i gyfeirio a chefnogi pobl i'r gwasanaeth cywir ar yr adeg iawn, ar draws y GIG, 3ydd sector, awdurdod lleol a'r gymuned leol. Y tîm yw'r pwynt mynediad ar gyfer Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion drwy gefnogi pobl drwy Asesiadau Lles ac ymateb i argyfyngau gan gynnwys Oedolion mewn Perygl**.**
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Grade 9 - scp 31-35 £37,261- £41,496 pro rata
Oriau gwaith: 27 awr
Patrwm Gwaith: i'w gytuno
Prif fan gwaith: Canoflan Tŷ Jenner
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda thîm i helpu i gwblhau asesiadau Therapi Galwedigaethol brys, i helpu i gefnogi pecynnau gofal a chynghori ar lefel gofal sydd ei angen gyda darparu offer ac addasiadau addas. Bydd y swydd hefyd yn cefnogi staff Gofal Cymdeithasol sy'n gwneud rôl Asesydd Dibynadwy yn y tîm ac yn rhagnodi offer mân ac addasiadau.
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch
- Cofrestriad cyfredol â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd
- Gradd neu ddiploma mewn Therapi Galwedigaethol
- Isafswm o dair blynedd o brofiad ôl-raddedig, lle y mae o leiaf dwy o’r tair blynedd hynny wedi bod yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol.
- Y gallu i gymhwyso deddfwriaeth a meini prawf lleol a gwybodaeth ymarferol am hynny
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
- Sgiliau cyfunol a chyfredol mewn cysylltiad ag ymyraethau, gwerthusiadau ac asesiadau codi a chario
- Gallu dangos tystiolaeth o sgiliau asesu, ymyrryd a gwerthuso o ran therapi galwedigaethol
- Gallu gweithio gyda theuluoedd mewn gofid mewn modd dibynadwy, doeth a sensitif
- Parodrwydd i ddysgu drwy ystyried arferion gwaith
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen Gwiriad GDG: Manwl
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Joanne Thomas 01446 725100
Gweler y disgrifiad swydd/ manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach
Job Reference: SS00614
-
Therapydd Galwedigaethol
1 week ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Uwch Therapydd Galwedigaethol profiadol a brwdfrydig ymuno â'n tîm yn llawn amser, yn barhaol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am oruchwylio a rheoli prosiect arloesol, a elwir yn 'Rhyddhau Amser i Ofal' sy'n canolbwyntio ar optimeiddio a theilwra pecynnau gofal ar gyfer y bobl rydym yn eu cefnogi yn y...
-
Swyddog Gofal Cymdeithasol
1 week ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Swyddog Gofal Cymdeithasol/Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol profiadol ac ysgogol ymuno â'n tîm yn llawn amser, yn barhaol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am weithio ochr yn ochr â'r Uwch Therapydd Galwedigaethol fel rhan o brosiect newydd arloesol i becynnau gofal maint cywir ar gyfer y bobl rydym yn eu...