Darlithydd Mewn Gwneud Printiau a Thecstilau
6 days ago
**Darlithydd mewn Gwneud Printiau a Thecstilau**
**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
**Y rôl**:
Mae cyfle wedi codi i ymarferydd profiadol mewn creu printiau a thecstilau ymuno ag Adran Celfyddydau Creadigol ar sail hyblyg ar Gampws egnïol Llwyn y Bryn, Coleg Gwyr Abertawe. Byddwch yn meddu ar ystod o sgiliau mewn creu printiau, gan gynnwys printiau sgrin a thecstilau/patrymau ar yr wyneb.
- ** £17.53 -34.51 yr awr (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad)**:
- ** Byddwch yn cael eich talu mewn ôl-daliadau e.e. byddwch yn derbyn tâl am yr oriau a weithiwyd ym mis Mai ym mis Mehefin, ac yn y blaen.**:
- ** Oriau: Newidyn**:
- ** Campws Llwyn y Bryn, Abertawe**
**Cyfrifoldebau Allweddol**:
- Cynllunio, paratoi ac addysgu ar draws amrywiaeth o gyrsiau gan sicrhau bod cynlluniau/cofnodion gwaith ac amserlenni aseiniadau yn briodol i gynnwys y maes llafur a safonau'r corff dyfarnu.
- Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau addysgu yn cael eu cynllunio a gwneud yn siwr eu bod yn hygyrch, er mwyn diwallu anghenion amrywiol yr holl ddysgwyr.
- Defnyddio offer/atebion digidol ar gyfer cyflwyno ac asesu ar-lein, gan ddefnyddio platfformau digidol sydd wedi eu cymeradwyo gan y Coleg.
- Addysgu, asesu a monitro cynnydd dysgwyr, gan gynnwys gosod targedau, cadw a chynnal cofnodion gwaith a chyflawniad yn unol ag amserlenni/meini prawf allanol a thargedau’r coleg.
- Cadw i fyny â datblygiadau cwricwlwm
**Amdanoch chi**:
- Meddu ar radd berthnasol a chymhwyster addysgu neu fod yn barod i weithio tuag ato.
- Gallu dangos diddordeb angerddol yn y pwnc.
- Cyfathrebwr hyderus iawn ac unigolyn ymroddedig sy’n gallu ysbrydoli ac ennyn diddordeb dysgwyr o bob gallu.
- Chwaraewr tîm â sgiliau trefnu ardderchog.
- Gallu gweithio’n hyblyg i ateb anghenion dysgwyr.
**Buddion**:
- Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 23% ar gyfartaledd (2023)
- 2 ddiwrnod lles i staff
- Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
- Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
- Disgownt ar gyfer aelodaeth Campfa Chwaraeon - £60 y flwyddyn
**Angen cymorth gyda’ch cais?**Cliciwch ein tudalen canllaw.**
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar. _
Llawn Amser Cyfatebol Cyflog: £25,371 - £49,934 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.
-
Darlithydd Ffasiwn a Thecstilau
1 week ago
Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full timeRydym yn croesawu ceisiadau gan arbenigwr ffasiwn mewn torri patrymau ac adeiladu dillad i addysgu ar ystod o lefelau gan gynnwys ein darpariaeth dysgu seiliedig ar waith. Mae profiad perthnasol yn y diwydiant yn hanfodol ar gyfer y rôl hon ac yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster PGCE neu'n barod i weithio tuag at un. Mae ein Canolfan Ffasiwn a...
-
Darlithydd Mewn Peirianneg Fecanyddol
1 week ago
Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full timeMae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn profiadol, dawnus a brwdfrydig addysgu Peirianneg Fecanyddol, lefel 2-6. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol radd, gradd uwch a phrofiad o addysgu ystod eang o bynciau’n ymwneud â Pheirianneg a Mathemateg mewn amgylchedd ôl-16. Mae meddu ar wybodaeth am MATLAB a CAD yn fuddiol. Byddai meddu ar gymhwyster addysgu yn...
-
Swansea, United Kingdom Swansea University Full time**Y Broses**_ Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth ar gyfer y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth recriwtio.- Mae'r swydd hon ar lwybr Addysgu ar lefel uwch (Darlithydd i Uwch-ddarlithydd)._ _Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y...
-
Darlithydd Plymwaith
6 days ago
Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full timeMae cyfle wedi codi i unigolyn profiadol, dawnus a brwdfrydig ymuno â’r tîm Amgylchedd Adeiledig. Mae’r adran Amgylchedd Adeiledig yn uchelgeisiol ac mae gennym weledigaeth glir ar gyfer darparu ac ysbrydoli. Taith addysgol y myfyriwr yw’r peth pwysicaf i ni. Fel adran, rydym yn addasu’n barhaus i gadw i fyny â diwydiant sy’n esblygu ac yn...
-
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu
25 minutes ago
Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full timeByddwch yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth addysgol a phersonol i fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu a/neu gorfforol gan sicrhau bod eu hanghenion cefnogi mewn cyd-destun yn cael eu diwallu’n llwyr. Byddwch yn darparu cefnogaeth un i un neu gefnogaeth grwp o dan gyfarwyddyd y Darlithydd yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein, ac yn helpu gyda datblygu sgiliau...
-
0.8 Darlithydd Gyfraith
2 weeks ago
Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full timeMae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y coleg i Ddarlithydd y Gyfraith ddysgu ar Lefel 3 Mynediad i’r Gyfraith (rhan o Ddiplomâu Mynediad i’r Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol Agored), Gradd Sylfaen mewn Cyfiawnder Troseddol a hefyd lefel A yn y Gyfraith. Bydd gennych wybodaeth gyfoes o’r Gyfraith, yn enwedig yr agweddau Seicolegol a...
-
Darlithydd Garddwriaeth
2 weeks ago
Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time**Byddem yn ystyried ymgeiswyr sy'n eisiau cael contractau cyflogaeth 0.5 (rhan-amser).** Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi twf ysgol Tirlunio’r Coleg. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac angerddol i addysgu Garddwriaeth/Tirlunio a sgiliau Eco Adeiladu fel rhan o’n darpariaeth ôl 16 a’n Rhaglen ysgolion. Mae’r Coleg yn cynnig...
-
Darlithydd Mewn Blodeuwriaeth
6 days ago
Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time**Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...
-
Banc Cynorthwyydd Cymorth Dysgu
1 week ago
Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full timeByddwch yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth addysgol a phersonol i fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu a/neu gorfforol gan sicrhau bod eu hanghenion cefnogi mewn cyd-destun yn cael eu diwallu’n llwyr. Byddwch yn darparu cefnogaeth un i un neu gefnogaeth grwp o dan gyfarwyddyd y Darlithydd yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein, ac yn helpu gyda datblygu sgiliau...
-
Banc Cynorthwyydd Cymorth Dysgu
1 week ago
Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full timeByddwch yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth addysgol a phersonol i fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu a/neu gorfforol gan sicrhau bod eu hanghenion cefnogi mewn cyd-destun yn cael eu diwallu’n llwyr. Byddwch yn darparu cefnogaeth un i un neu gefnogaeth grwp o dan gyfarwyddyd y Darlithydd yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein, ac yn helpu gyda datblygu sgiliau...