Darlithydd Garddwriaeth

2 weeks ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

**Byddem yn ystyried ymgeiswyr sy'n eisiau cael contractau cyflogaeth 0.5 (rhan-amser).**

Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi twf ysgol Tirlunio’r Coleg. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac angerddol i addysgu Garddwriaeth/Tirlunio a sgiliau Eco Adeiladu fel rhan o’n darpariaeth ôl 16 a’n Rhaglen ysgolion.

Mae’r Coleg yn cynnig cymhwyster C&G Lefel 1 a 2 mewn Garddwriaeth ac rydym yn awyddus i ddatblygu’r maes Eco Adeiladu ar gyfer dysgwyr ôl 16.

Rydym hefyd yn cynnig Rhaglen ysgolion i ddysgwyr 14-16 oed sy’n cael eu cyfeirio i’r Coleg o ysgolion uwchradd lleol. Mae gan rai o’r dysgwyr ymddygiad heriol a bydd rhai ohonynt wedi ymddieithrio rhag dysgu mewn lleoliadau traddodiadol. Yn ogystal, mae llawer o’r plant mewn perygl o ddod yn NEET.

Rydym yn chwilio am unigolion sydd â brwdfrydedd ac angerdd dros yr awyr agored / cynaliadwyedd Garddwriaeth / Tirlunio ac Eco Adeiladu. Byddwch yn meddu ar allu i rannu eich sgiliau a’ch profiadau gyda’r dysgwyr.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau rheoli dysgwyr gwych, ynghyd â dycnwch, amynedd ac ymrwymiad i ddelio ag ystod eang o ddysgwyr, llawer ohonynt ag ADY ac ymddygiad heriol. Darperir cymorth yn yr ystafell ddosbarth i’r myfyrwyr hyn. Bydd angen i chi ddatblygu profiadau addysgu creadigol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu, er mwyn ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr mewn ystod eang o leoliadau galwedigaethol.

Yn gydathrebwr clir a hyderus, bydd angen i chi greu amgylchedd dysgu positif i gefnogi potensial dysgwyr, beth bynnaf fo’u gallu cychwynnol.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar amrywiaeth o gynmwysterau sy’n gysylltiedig â’r diwydiant a phrofiad diweddar o weithio mewn rôl berhnasol. Bydd gofyn i chi addysgu ystod eang o gyrsiau gan amrywiaeth o gyrff arholi gwahanol, gan gynnwys BTEC, City & Guilds ac ati. Byddwch yn meddu ar/neu’n barod i weithio tuag at gymhwyster addysgu cydnabyddedig a byddwch yn medru addasu eich dull addysgu i ddiwallu anghenion dysgwyr ag amrywiaeth o alluoedd gwahanol.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (ar yr amod eich bod wedi cwblhau 6 mis o wasanaeth).