Rheolwr Tîm
5 days ago
**Amdanom ni**
Ydych chi'n rheolwr gwaith cymdeithasol sydd wedi cael llond bol ar orfod mynd drwy’r felin i gael yr help cywir i blant a theuluoedd? Ydych chi wedi cael llond bol ar ofyn i'ch tîm atgyfeirio teuluoedd at wasanaethau eraill i gael cymorth? Eisiau bod yn rhan o rywbeth newydd?
Ymunwch ag Awdurdod sydd:
- 'yn gadael i chi fod yn chi eich hun'
- yn cynnwys 'rheolwyr agos-atoch ar bob lefel' ac
- 'yn poeni am bobl'
Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth.
Rydym bellach yn adolygu ac yn datblygu ein gwasanaethau cymorth i blant a theuluoedd sy'n defnyddio ein gwasanaethau ac yn chwilio am Reolwr Tîm sy'n ddeinamig, yn greadigol ac yn poeni am helpu teuluoedd i gyflawni eu canlyniadau. Byddwch yn gweithio fel rhan o'n Tîm Rheoli Adrannol i ddatblygu ac arwain ein Canolfan Ymyriadau.
Bydd y Ganolfan hon yn helpu i ddarparu'r cymorth iawn ar yr adeg iawn, a bydd yn troi'r naratif o ba wasanaethau sydd ar gael, i'r hyn sydd ei angen ar y teulu hwn i gyflawni ei botensial.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Gradd 11 PCG 40 - 43 £48,474 - £51,515 y flwyddyn
Bydd cyflog ar benodi yn dibynnu ar gymhwyster a phrofiad fel y penderfynir gan y swyddog penodi.
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 (gyda rota ar-alw ar y penwythnos)
Prif Weithle: Y Barri
Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Dd/b
**Disgrifiad**:
Y weledigaeth yw y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu datblygiad, arweinyddiaeth a rheolaeth ar gyfer gwasanaeth sy'n ehangu a fydd yn cynnig ymyriadau’n seiliedig ar berthnasoedd i blant a theuluoedd sy'n hysbys i wasanaethau statudol (gan gynnwys cymorth Ar Ffiniau Gofal a chymorth Argyfwng). Bydd staff yn cael cynnig cymorth yn ôl yr angen, felly bydd angen cymryd rhan mewn rota ar-alw.
Byddwch yn gyfrifol am sefydlu'r Ganolfan Ymyriadau a fydd yn cynnwys gweithio gyda chydweithwyr i ddod â’n casgliad ehangach o wasanaethau i deuluoedd yn y Fro ynghyd gan sicrhau bod teuluoedd yn cael mynediad hawdd at gymorth pwrpasol, ystyrlon sy'n eu helpu i adeiladu ar eu cryfderau, waeth ble maen nhw yn y system.
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
Dealltwriaeth drylwyr o anghenion plant sydd angen gofal a chymorth a phrofiad o oruchwylio eraill, ochr yn ochr ag ymrwymiad i ymarfer sy'n seiliedig ar berthnasoedd gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
I fod yn llwyddiannus, byddwch yn:
- Gwybod beth yw arfer da.
- Profiadol wrth gyflawni canlyniadau ardderchog i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
- Gallu rheoli risg yn hyderus, defnyddio dull gweithredu sy’n seiliedig ar gryfderau a hyrwyddo partneriaethau cryf ar draws amrywiaeth o bartneriaid amlasiantaethol.
- Dangos ymrwymiad i ymarfer sy'n seiliedig ar berthnasoedd.
Yn gyfnewid, wrth ymuno â'n gwasanaeth estynedig, gallwch ddisgwyl:
- Bod yn rhan o Awdurdod sy'n ddyfeisgar ac yn wydn, wedi ymrwymo i wella ac yn awyddus i groesawu syniadau newydd.
- Cael eich cefnogi gan dîm medrus ac ymrwymedig sydd â gallu amlwg i ddarparu gwasanaeth da.
- Cefnogaeth, cynhesrwydd a chyfleoedd i ddatblygu.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
I **wneud cais **neu ddysgu mwy am ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol, rhowch eich manylion yma:
Yna byddwn yn cysylltu â chi am sgwrs anffurfiol i weld a allen ni fod yn dda i’n gilydd. Mae perthnasoedd yn ganolog i'n gwaith, ac rydym wedi newid ein proses recriwtio i adlewyrchu hyn. Os ydym yn credu y byddwn yn cyd-fynd yn dda ar ôl sgwrs, byddwn yn trefnu cyfweliad ac yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer.
Os ydym yn credu y byddwn yn cyd-fynd yn dda ar ôl sgwrs, byddwn yn trefnu cyfweliad ac yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer.
Oes angen gwiriad GDG: Manwl
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person ynghlwm i gael mwy o wybodaeth.
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.
Job Reference: SS00846
-
Rheolwr Tîm Ailalluogi
2 weeks ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous yn bodoli i ymuno â'n tîm yng Ngwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro. Rydym yn chwilio am reolwr brwdfrydig a llawn cymhelliant i arwain ein tîm Ailalluogi. Mae Gwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro yn wasanaeth integredig a gaiff ei gynnal gan Gyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd y Brifysgol Caerdydd ar Fro. Rydym yn...
-
Rheolwr Ymarferydd 14 Plus Tîm
5 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc? Edrychwch dim pellach! Ymunwch ag Awdurdod sy'n: - 'Gadael i ti fod yn ti dy hun' - Bod â 'rheolwyr y gellir mynd atynt ar bob lefel' a - 'Gofal am bobl' Mae ein Tîm Fourteen Plus ym Mro Morgannwg yn chwilio am Reolwr Ymarferydd. Mae ein Tîm Fourteen Plus yn...
-
Rheolwr Gweithredol
5 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** **_ Yng Nghyngor Bro Morgannwg, rydym wedi ymrwymo i greu gweithle sy'n ymgorffori ein gwerthoedd craidd: Bod yn Agored, Agosatrwydd, Balchder ac Uchelgais. Rydym ar daith i wella ein gwasanaethau ar gyfer y gymuned amrywiol rydym yn ei gwasanaethu. Rydym yn gwahodd arweinwyr deinamig sydd ag angerdd am ragoriaeth gyfreithiol ac ymrwymiad i...
-
Rheolwr Cyfleusterau
5 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae'r tîm Rheoli Cyfleusterau yn gyfrifol am weithredu prif Swyddfeydd a Depos y Cyngor yn ddiogel ac yn sicrhau eu bod yn rhedeg yn effeithlon ac yn cydymffurfio â'r Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gyfredol **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Cyflog: Gradd 9, PCG 31 - 35, £35,336 - £39,571 pro rata Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr, dydd...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
5 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** **Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfder wrth wneud Gwaith Cymdeithasol?** **Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru?** **Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg.** Mae gennym gyfle i Weithwyr Cymdeithasol yn y Tîm Pontio Anableddau Dysgu, a byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi...
-
Rheolwr Cymorth Busnes Diogelu
5 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae’r Tîm Diogelu ac Adolygu yn croesawu ceisiadau am swydd Uwch Gynorthwyydd Cymorth Busnes. Mae hon yn rôl bwysig yn cefnogi gweithgarwch a swyddogaethau'r Tîm Diogelu Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r tîm yn un sydd wedi hen ennill ei blwyf gydag ystod eang o swyddogaethau. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Cyflog: Gradd 7, £26,446 -...
-
Gweinyddwr Atal a Phartneriaethau
5 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Byddai'r rôl yn golygu gweithio o fewn y tîm Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc i gefnogi pob aelod o staff gyda dyletswyddau gweinyddol a chymorth. Fel Gweinyddwr Atal a Phartneriaethau byddwch yn rhan o dîm aml-sgiliau, gan gefnogi nifer o brosiectau/mentrau presennol a datblygol. Wedi'i leoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau mae'r...
-
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion yn darparu llety tymor byr a thymor hir i oedolion yr aseswyd bod angen gofal a chymorth arnynt ar draws Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae pobl yn byw mewn amgylchedd teuluol a ddarperir gan Letywyr Lleoli Oedolion cymeradwy. Arolygiaeth Gofal Cymru ydy rheoleiddiwr y gwasanaeth. Mae'r gwasanaeth yn...
-
Swyddog Cymorth Technegol
5 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae'r swyddi uchod ar gael o fewn Adran Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth Bro Morgannwg sy'n cynnwys gwasanaethau cydgysylltiedig Gweithrediadau Gwasanaethau Cymdogaeth, Peirianneg a Thrafnidiaeth. Mae'r holl wasanaethau hyn yn cynnwys gweithrediadau rheng flaen sylweddol a blaenllaw sy'n cyflawni swyddogaethau amrywiol yn uniongyrchol i...
-
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Dyma gyfle cyffrous i ymuno â theulu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Gwenfo. Rydym am benodi aelod o staff hŷn i ymuno â’n tîm clwb brecwast. Bydd eich rôl yn cynnwys paratoi a gweini brecwast a chlirio ar ddiwedd y sesiwn. Byddwch hefyd yn cefnogi'r disgyblion y tu mewn neu'r tu allan gyda gweithgareddau chwarae ar ôl iddynt...