Dadansoddwr Busnes
2 weeks ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd.
Mae Tîm ystadegau Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor yn cynnig cyfle i ymuno â nhw fel Rheolwr Dadansoddi Busnes gyda’r Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Mae'r Tîm Ystadegau a Chymorth yn darparu ystadegau ar gyfer pob maes o fewn y timau gwasanaethau cwsmer a digidol, yn amrywio o brif ganolfan gyswllt Cyngor Caerdydd (C2C) i'r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu rydym yn ei redeg ar hyn o bryd ar ran Llywodraeth Cymru.
Ni yw'r arbenigwyr blaenllaw ar Microsoft PowerBI o fewn y Cyngor a rhoddir hyfforddiant llawn ar y pecyn Microsoft newydd hwn. Gellir ennill achrediad PowerBI wrth weithio yn y tîm, sy'n sgil gwerthfawr iawn yn y sector ystadegau a delweddu data.
**Am Y Swydd**
Yn y rôl hon fel Dadansoddwr Busnes byddwch yn dod i ddeall ein gwasanaeth ac yn dysgu datblygu ystod eang o sgiliau a phrofiad yn y gweithle, yn ogystal â meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o’r gwaith a’r cyfrifoldebau sy’n rhan o weithio mewn Llywodraeth Leol yng Nghaerdydd. Byddwch yn ennill profiad amhrisiadwy yn y meysydd canlynol:
- Gweithio fel aelod o dîm
- Defnyddio pecynnau Microsoft Office
- Creu a chynnal Modelau Data cymhleth o fewn Power BI
- Cynhyrchu ystadegau i fesur perfformiad
- Defnyddio meddalwedd blaengar rhyngweithiol Microsoft Power BI.
- Hyfforddiant llawn ar becynnau meddalwedd y gellid ei ddefnyddio yn ddiweddarach mewn swyddi eraill.
- Llinell gyntaf cymorth TG ar gyfer canolfan gyswllt brysur.
- Sgiliau dadansoddi data, rhagweld a dulliau cyflwyno.
- Cyfleoedd rhwydweithio trwy weithgorau a chyfarfodydd.
Bydd y tîm ysgolion yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a byddwch yn cael eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Byddwch yn cael goruchwyliaeth ac hyfforddiant wrth weithio gan y Rheolwr Gweithredu a Chyflenwi a bydd gennych gefnogaeth i ddarparu adroddiadau a dadansoddiad ystyrlon mewn modd cadarnhaol, sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
Rydym yn dîm sy’n gweithio gartref a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi hyn. Pan fydd angen gweithio gartref, byddwch yn cael yr offer angenrheidiol, ond bydd angen i chi drefnu eich cysylltiad eich hun â’r rhyngrwyd.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o ddarparu Dadansoddiadau Busnes a Data o fewn lleoliad gwasanaeth Cwsmeriaid sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar y ddarpariaeth gwasanaethau ac ar gwsmeriaid. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu da gyda'r gallu i greu a rhannu dadansoddiadau a delweddu data ar gyfer cynulleidfa eang ac amrywiol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cynllunio da gyda phrofiad o flaenoriaethu gwaith a’r gallu i weithio i derfynau amser tynn.
Bydd y rôl hon hefyd yn gyfrifol am reoli adroddiadau Power BI presennol a grëwyd gan y tîm a sicrhau bod adborth yn cael ei gasglu gan ddefnyddwyr a newidiadau’n cael eu rhoi ar waith ar sail y rhain.
Bydd dealltwriaeth sylfaenol o strwythurau ac egwyddorion prosiectau yn helpu'r ymgeisydd i lwyddo, a bydd dull gweithio trefnus a’r gallu i gadw dogfennau’n daclus yn sgil allweddol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: RES01016
-
Uwch Ddadansoddwr Busnes
1 day ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle ar gael o fewn Tîm Perfformiad a Mewnwelediad y Cyngor ar gyfer Dadansoddwr Busnes sydd â diddordeb mewn bod wrth galon agenda perfformiad a gwella'r Cyngor. Mae dwy swydd wag ar gael yn bresennol. Mae un yn swydd barhaol o fewn y tîm a bydd yn cefnogi gwaith parhaus sy'n dod i mewn ar draws amrywiaeth o ffrydiau gwaith a...
-
Disgrifiad Swydd
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle ar gael o fewn Tîm Perfformiad a Mewnwelediad y Cyngor ar gyfer dadansoddwr busnes sydd â diddordeb mewn bod wrth galon agenda perfformiad a gwella'r Cyngor. Mae’r Tîm Perfformiad a Mewnwelediad yn cynnwys dadansoddwyr ac arbenigwyr perfformiad ac mae'n gyfrifol am ddatblygu rhai o brosiectau gwybodaeth busnes craidd y...
-
Mid Term Planning
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Women in Tech Full timeOverviewJoin to apply for the Mid Term Planning & Forecasting Manager role at Women in Tech4 hours ago Be among the first 25 applicantsGet AI-powered advice on this job and more exclusive features.About Starling: At Starling, we are on a mission to provide people with a fairer, smarter, and more human alternative to traditional banks. We are building a...