Disgrifiad Swydd

5 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle ar gael o fewn Tîm Perfformiad a Mewnwelediad y Cyngor ar gyfer dadansoddwr busnes sydd â diddordeb mewn bod wrth galon agenda perfformiad a gwella'r Cyngor.

Mae’r Tîm Perfformiad a Mewnwelediad yn cynnwys dadansoddwyr ac arbenigwyr perfformiad ac mae'n gyfrifol am ddatblygu rhai o brosiectau gwybodaeth busnes craidd y Cyngor.

Mae gwaith y Tîm yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau strategol y sefydliad a'n partneriaid yn y gwasanaeth cyhoeddus, yn gweithio'n agos gyda holl wasanaethau'r Cyngor i'w helpu i wella eu perfformiad, a chyflawni prosiectau trawsbynciol allweddol.

**Am Y Swydd** PWYSIG: Darllenwch yr adran gwybodaeth ychwanegol i gael arweiniad ar sut i wneud cais am y rôl hon er mwyn sicrhau bod eich datganiad ategol yn cael ei gyflwyno yn y fformat cywir**

Rôl Uwch Ddadansoddwr Busnes yw hon, a fydd yn rhan o'r Tîm Perfformiad a Mewnwelediad.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi rhaglen o brosiectau gwybodaeth busnes drwy ddadansoddi setiau data, prosesau mapio, a diffinio gofynion.

Mae llawer o'n prosiectau'n cynnwys gweithio gyda data perfformiad cymhleth, felly mae lefel dda o lythrennedd data yn hanfodol.

Byddwch yn rhan o dîm hynod frwdfrydig, ymroddedig a chefnogol, gydag ymrwymiad i wneud gwaith o safon uchel a chefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd digon o gyfle ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, gan gynnwys hyfforddiant perthnasol i'r rôl.

Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu arferion gwaith hybrid sy'n berthnasol i'r rôl hon, sy'n golygu y gellir gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith naill ai yn y swyddfa, gartref, neu mewn lleoliad addas arall. Bydd yn dal yn ofynnol ymweld â'r swyddfa yn achlysurol ar gyfer rhai cyfarfodydd yn ôl yr angen.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â sgiliau dadansoddi cryf, y gallu i asesu problem yn gyfannol o sawl ongl, sy'n gyfforddus yn gweithio gyda data cymhleth, ac sydd â diddordeb mewn newid a gwelliant.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu rhagorol, a byddwch yn gallu paratoi adroddiadau a chyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn effeithiol ar gyfer amrywiaeth o wahanol gynulleidfaoedd, o uwch reolwyr i ddefnyddwyr.

Bydd gennych brofiad o wneud gwaith ymchwil a dadansoddi yn annibynnol ac fel rhan o dîm, a bydd gennych ddawn i ddatrys problemau, gallu nodi problemau ac argymell opsiynau ar gyfer gwella.

Bydd lefel dda o gymhwysedd TGCh yn rhagofyniad, bod yn gyfarwydd, yn benodol, â Microsoft Office. Byddai profiad o offer mwy arbenigol, fel Microsoft Visio, Microsoft Project, neu Microsoft Power BI hefyd yn fanteisiol.

Yn bwysicaf oll, rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sy'n frwd dros wella gwasanaethau cyhoeddus ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm effeithiol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Mae hon yn swydd barhaol.

**Yn adran ‘Gwybodaeth ategol’ eich cais, atebwch y cwestiynau canlynol, hyd at uchafswm o 500 o eiriau fesul cwestiwn**:
***
- **Disgrifiwch eich profiad blaenorol o wneud gwaith ymchwil a dadansoddi, a'r offer a'r technegau rydych chi wedi'u defnyddio.**
- **Disgrifiwch eich profiad blaenorol o ddeall gofynion rhanddeiliaid a rheoli blaenoriaethau sy'n gwrthdaro.**
- **Rhowch enghraifft o adeg pan ydych wedi defnyddio sgiliau dadansoddi i adnabod, diffinio a datrys problem.**
- **Rhowch enghraifft o adeg pan ydych wedi cefnogi'r gwaith o gyflawni prosiect sydd wedi arwain at welliannau cadarnhaol mesuradwy.**

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siartr Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO01939



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** **Am Y Swydd** Bydd Swyddogion Atal yn cwblhau asesiadau digartrefedd ac yn helpu cleientiaid i aros yn eu cartrefi neu’n eu helpu i ddod o hyd i a symud i lety newydd trwy atebion arloesol. Bydd deiliad y swydd yn cynnig gwasanaeth gweithiwr achos personol i gleientiaid gan weithio gyda nhw i ddeall sut ddigwyddodd eu problem tai a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae'r Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae'r Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae'r Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac mae’n ymrwymedig i'r cymunedau y mae'n eu...

  • Kitchen Manager

    5 days ago


    Cardiff, United Kingdom National Museum of Wales Full time

    Overview Rheolwr Ceginau, Sain Ffagan : Amgueddfa Werin Cymru Math o swydd wag: Parhaol / Llawn Amser Categori: Arlwyo (Arlwyo) Ystod cyflog: Gradd D £28,895.78 - £35,598.34 Oriau: 37 awr yr wythnos Gofyniad lefel iaith Gymraeg: Dymunol Qualifications Gofyniad lefel iaith Gymraeg: Dymunol Responsibilities Gohiriedig yn y disgrifiad gwreiddiol; does dim...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Allanol/ Mewnol** **Ref**:11846 **Teitl y Swydd**:Technegydd mewn Peirianneg Fodurol **Contract**:Parhaol, llawn amser **Oriau**:37 awr yr wythnos **Cyflog **£19,979 - £21,399 y flwyddyn Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Technegydd parhaol, yn ystod y tymor yn unig, yn yr Adran Beirianneg Fodurol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd yr...

  • Swyddog Cydymffurfio

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae'r Gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac mae’n ymrwymedig i'r...

  • Project Coordinator

    5 days ago


    Cardiff, United Kingdom Sport Wales Full time

    Project CoordinatorDepartment Sport System Institute ServicesSalary £37,129.00 - £39,975.01 (Grade 6)Working Hours £37 hours (consideration will be given to job sharing / reduced hours in line with our flexible working policy)Contract Type Fixed Term 12 MonthsLocation Sport Wales National Centre, Sophia Gardens, CardiffClosing Date 08/12/2025...

  • Daily Active Officer

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Sport Wales Full time

    Daily Active OfficerDepartment Service and Partner DevelopmentSalary ?Grade 7 £41,574.01 - £44,535.11Working Hours 37 hours per week (Consideration will be given to job sharing / reduced hours in line with our flexible working policy)Contract Type - Fixed-term 18 monthsLocation ?Sport Wales National Centre, Cardiff (with regular travel across Wales)Closing...

  • Swyddog Cyllid

    3 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth hygyrch o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd, mae gan y gwasanaeth 2 swydd wag amser llawn, dros dro hyd nes 31.3.23 ar gyfer swyddogion cyllid o fewn y tîm cyllid. **Am Y Swydd** Prif swyddogaeth y swydd yw bod yn gyfrifol am adennill ôl-ddyledion rhent ardal yn y ddinas a chymryd pob cam adfer...