Cynorthwy-ydd Gweinyddol

12 hours ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr ymuno â ni yn un o'n timau ffyniannus.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig sy’n meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i ymuno â’n timau Hyb/Llyfrgell ledled Caerdydd.

Mae ein tîm yn cefnogi cwsmeriaid sy'n defnyddio ein Hybiau a’n Llyfrgelloedd, gan geisio ateb ymholiadau Llyfrgelloedd.

Mae'r rôl hon yn gofyn am ymddygiad proffesiynol gan mai chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau cyffredinol dros y ffôn neu drwy e-bost, gan geisio datrys ar y pwynt cyfathrebu cyntaf lle bynnag y bo modd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i ddarparu gwasanaeth Llyfrgell llawn, ynghyd â chyflawni dyletswyddau swyddfa cyffredinol gan gynnwys defnyddio systemau cymorth digidol a Llyfrgell

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Darparu gwasanaeth gweinyddu Llyfrgell proffesiynol o safon uchel, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Datrys ymholiadau lle bynnag y bo modd ar gyswllt cyntaf y cwsmer. Lle nad yw hyn yn bosibl, cyfeirio at swyddogion neu adrannau eraill, yn dilyn prosesau atgyfeirio y cytunwyd arnynt.

Denu aelodau newydd a chynnig gwasanaeth Llyfrgell gwybodus sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Annog cynhwysiant ariannol a digidol drwy roi cymorth a chyngor ymarferol.

Trefnu apwyntiadau i gwsmeriaid yn ôl yr angen ac i weithredu fel eiriolwr cwsmeriaid, gan gymryd perchnogaeth o ymholiadau a sicrhau y caiff cwynion eu datrys cyn gynted ag y bo modd.

Bod yn weithgar yn yr Hybiau/Llyfrgelloedd, gan sicrhau bod aelodau’r tîm yn cyfathrebu’n dda gyda’i gilydd, a chyfrannu at waith y tîm yn gyffredinol.

Cyflenwi ar gyfer Swyddogion eraill, a newid lleoliad ar fyr rybudd, pan fo

angen

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, o fantais.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02812



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd rôl allweddol o ran prynu gwasanaethau a rheoli a monitro'n gyffredinol y gwasanaethau hyn i gefnogi oedolion a phlant sy'n agored i niwed, ar draws holl swyddogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu gwerth tua £140 miliwn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous a heriol ar gyfer unigolyn brwdfrydig, ymroddgar ag agwedd gadarnhaol i ymuno â thîm Rheoli Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd. **Am Y Swydd** Bydd y swydd yn ymuno â’r Tim Gweinyddol presennol i gynnig cymorth gweinyddol, ariannol ac archebu dibynadwy ac effeithiol i Ganolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd **Beth...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod y Gwasanaethau Plant yw sicrhau bod plant a theuluoedd Caerdydd yn cael y gwasanaeth a'r cymorth gorau. Mae Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn 'Ddinas sy’n Dda i Blant’ sy’n rhoi hawliau plant ar flaen y gad o ran datblygu polisi a strategaeth. **Am Y Swydd** Mae cyfle Parhaol cyffrous wedi codi yn nhîm Cyllid Gwasanaethau Plant...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer gweinyddwr proffesiynol gyda sgiliau cefnogi busnes cryf i gefnogi ein Tîm Grant Cymorth Tai Er mwyn cefnogi darpariaeth lwyddiannus, rydym yn ceisio tyfu’r tîm ac mae angen Gweinyddiaeth llawn cymhelliant i gyfrannu at ddarpariaeth ein tîm o Dai â Chymorth. An exciting opportunity has arisen...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Hyb Diogelu Amlasiantaethol yn un o’r drysau ffrynt i Wasanaethau Plant Caerdydd. Yma rydym yn prosesu atgyfeiriadau ac adroddiadau gan yr heddlu sy’n nodi pryderon am blant yng Nghaerdydd. Mae'r Hyb hefyd yn ymdrin â galwadau gan aelodau o'r cyhoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol, o athrawon i swyddogion prawf sy'n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Yr Hyb Diogelu Amlasiantaethol (y MASH) yw'r pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un a allai fod yn poeni am les plentyn yng Nghaerdydd. Mae'r MASH yn ymateb i aelodau'r cyhoedd, ac i weithwyr proffesiynol a allai fod angen cyngor neu sydd eisiau adrodd am bryderon. Mae ansawdd ac amseroldeb y wybodaeth a gesglir ac a gofnodir yn helpu i lunio...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bryn y Deryn a Chanolfan Carnegie yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) CA4 ar gyfer 90 o ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol, cymdeithasol ac iechyd meddwl. Rydym yn edrych i benodi Swyddog Cymorth Gweinyddol i'n tîm positif presennol. **Am Y Swydd** Trefnu a goruchwylio systemau gweinyddol yn yr ysgol. Cyfrannu at...

  • Marketing Assistant

    3 days ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Wales Millennium Centre Full time

    We are Wales Millennium Centre - Fire for the ImaginationRole Title: Marketing AssistantSalary: 23,296 paHours of Work: 35 hours per weekType of Contract: Fixed Term 6-month contractWales Millennium Centre is a home for the arts in Wales, and a cauldron of creativity for the nation. We fire imaginations by curating world-class, critically acclaimed touring...