Gofal Parhaus Gweithiwr Cymdeithasol

10 hours ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn awyddus i dderbyn ceisiadau ar gyfer ei Dîm Iechyd ac Anabledd Plant yn ei Adran Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc.

Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwydnwch ar draws ein timau. Yn weithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg bydd gennych lwyth gwaith hawdd ei reoli, cewch gymorth rhagorol a chewch amser i'w dreulio gyda phlant a phobl ifanc.

Gallwch ddisgwyl cynhesrwydd a lefelau uchel o gymorth gan weithlu ymroddedig ac Awdurdod lle mae lles a datblygiad yn ganolog i'n gwaith.

Dyma gyfle arbennig i ymgartrefu mewn Awdurdod sydd â hanes llwyddiannus o wneud gwahaniaeth a pherfformio’n rhagorol. Mae perthnasau’n ganolog i'n gwaith, ac rydym yn hyrwyddo arfer sy'n seiliedig ar gryfder ym mhopeth a wnawn.

Ewch i’n tudalen Swyddi Gwasanaethau Plant bwrpasol i ddarllen am y Weledigaeth, y Timau a'r Manteision i Weithwyr.

**Rhowch eich manylion cyswllt yma i ni gysylltu.** Unwaith y byddwn wedi trafod y rolau sydd ar gael ac wedi ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer a symud eich cais ymlaen.**

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion am gyflog: Gradd 8, PCG 26 - 30 £32, 909 - £36, 298 y.f. / Gradd 9, PCG 31 - 35 £37, 261 - £41, 496 y.f.

Cyflog wrth benodi’n dibynnu ar gymwysterau a phrofiad fel y penderfynir gan y swyddog penodi. Nid oes cynnydd awtomatig o Radd 8 i Radd 9

Oriau Gwaith: 37 awr / Llawn amser

Prif Waith: Swyddfa’r Dociau, Y Barri

Angen Gwiriad DBS: Manwl

**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Gradd/diploma cydnabyddedig neu gymhwyster cyfatebol mewn Gwaith Cymdeithasol e.e. Gradd, Diploma Gwaith Cymdeithasol, CQSW ac ati.
- Wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
- Profiad o Waith Cymdeithasol gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd / gofalwyr.
- Profiad o weithio amlasiantaethol
- Gwybodaeth am egwyddorion y Ddeddf Plant, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), canllawiau a safonau cenedlaethol.

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael mwy o wybodaeth.

Mwy o wybodaeth am y timau:
Mae gweithwyr cymdeithasol yn ein Tîm Iechyd ac Anabledd Plant yn darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd ag anabledd dysgu difrifol neu arwyddocaol, anabledd corfforol, nam ar y synhwyrau, neu nam cyfathrebu dwys. Mae ganddynt gysylltiadau aml-asiantaeth cryf, yn enwedig gyda Iechyd. Byddwch yn chwarae rhan wrth ymateb i atgyfeiriadau newydd i'r tîm ac wrth sicrhau ein bod yn darparu ymateb cychwynnol effeithiol a byddwn yn datblygu perthnasoedd tymor hwy gyda theuluoedd i'w helpu i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Bydd y gwaith yn bwrpasol a bydd risgiau'n cael eu rheoli'n hyderus. Mae digon o adnoddau gan y Tîm i alluogi gweithwyr i weithredu mewn ffordd amserol ond hefyd gydag amser i fyfyrio.

Ym mhob un o'r timau, gall gweithwyr fod yn garedig ac yn gyson a gallant ganolbwyntio ar eu gwaith gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd / gofalwyr. Mae rheolwyr ar gael yn rhwydd ac mae lles y staff yn flaenoriaeth.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth Alison Woolcock, Rheolwr Tîm, 01446 725202

**Rhowch eich manylion cyswllt yma i ni gysylltu.** Unwaith y byddwn wedi trafod y rolau sydd ar gael ac wedi ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer a symud eich cais ymlaen.**

Job Reference: SS00615



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Gofal Hirdymor Bro Morgannwg yn asesu ac yn cefnogi pobl a’u gofalwyr sydd ag anghenion hirdymor am ofal a chymorth. Mae’r tîm yn ymateb i unigolion y mae eu hanghenion o bosibl yn gymhleth neu’n gofyn am fonitro a chymorth parhaus er mwyn cyflawni eu canlyniadau lles. Mae’r tîm yn cefnogi pobl lle nad yw gwasanaethau...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Gofal HIrdymor Bro Morgannwg yn asesu ac yn cefnogi pobl a’u gofalwyr sydd ag anghenion hirdymor am ofal a chymorth. Mae’r tîm yn ymateb i unigolion y mae eu hanghenion o bosibl yn gymhleth neu’n gofyn am fonitro a chymorth parhaus er mwyn cyflawni eu canlyniadau lles. Mae’r tîm yn cefnogi pobl lle nad yw gwasanaethau...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau ar gyfer ei Dîm Fourteen Plus. Yn dilyn buddsoddiad sylweddol i Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwytnwch ar draws ein timau. Fel Gweithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg, bydd gennych lwyth gwaith hylaw, cefnogaeth ragorol ac amser i'w...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle wedi codi i unigolyn/unigolion brwdfrydig sy'n gweithio'n galed fod yn rhan o Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol Integredig deinamig. Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda dinasyddion sy'n profi anawsterau iechyd meddwl difrifol a pharhaus ac sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd o dan Fesur Iechyd Meddwl...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau ar gyfer y Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal. Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwydnwch ar draws ein timau. Yn weithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg bydd gennych lwyth gwaith hawdd ei reoli, cewch gymorth...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Gwnewch newid na fyddwch yn difaru; dod yn Weithiwr Cymdeithasol yn y lle hapusaf yng Nghymru Rhowch eich manylion cyswllt yma i ni gysylltu. Unwaith y byddwn wedi trafod y rôl sydd ar gael ac wedi ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer a symud eich cais ymlaen. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol i'n Tîm Derbyn, a'n Timau Cymorth i Deuluoedd, rydym yn ceisio ychwanegu capasiti ac adeiladu gwytnwch a sefydlogrwydd. Fel Gweithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg, bydd gennych lwyth gwaith hylaw, cefnogaeth ragorol ac amser i'w dreulio gyda phlant a phobl ifanc. Rydym hefyd yn datblygu ein gwasanaethau i...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** **Oes gennych chi ymagwedd sy'n seiliedig ar gryfder tuag at Waith Cymdeithasol?** **Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru?** **Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg.** Mae gennym nifer o gyfleoedd gwaith cymdeithasol ar draws y gwasanaeth a byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi ymrwymo i...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Swyddog Gofal Cymdeithasol/Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol profiadol ac ysgogol ymuno â'n tîm yn llawn amser, yn barhaol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am weithio ochr yn ochr â'r Uwch Therapydd Galwedigaethol fel rhan o brosiect newydd arloesol i becynnau gofal maint cywir ar gyfer y bobl rydym yn eu...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** **Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfder wrth wneud Gwaith Cymdeithasol?** **Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru?** **Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg.** Mae gennym gyfle i Weithwyr Cymdeithasol yn y Tîm Pontio Anableddau Dysgu, a byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi...