Hyfforddai Corfforaethol Cyngor Caerdydd
3 days ago
**Am Y Gwasanaeth**
Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr), neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.** Bydd yr ychwanegiad yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i wneud unrhyw newidiadau i, neu ddileu, yr ychwanegiad Cyflog Byw.***
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol, masnachol neu gymorth, maen nhw’n ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ledled Caerdydd.
Mae ein Tîm Llinell Gynghori yn awyddus i gyflogi **Hyfforddai Corfforaethol** wedi'i leoli yn Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, CF10 4UW i gyfrannu at ein Gwasanaeth gan ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth ffôn i ddinasyddion Caerdydd. Mae'r Llinell Gynghori yn bwynt cyswllt cyntaf i drigolion Caerdydd ar gyfer y rhan fwyaf o wasanaethau'r Cyngor megis: cyngor ariannol, ymholiadau'r cyngor, cyngor ar dai, addysg oedolion, prydau ysgol am ddim, i mewn i waith, gwasanaethau maethu, taliadau cymorth hunan-ynysu, cynlluniau a grantiau Llywodraeth Cymru a llawer mwy. Mae'r gwasanaeth yn brysur iawn ac yn gweithredu’n gyflym gyda thua 5,000 o alwadau y mis.
Gallai'r rôl hon gynnwys gweithio gartref a darperir offer os bydd angen gwneud hynny.
**Am Y Swydd**
Yn y rôl **Hyfforddai Corfforaethol** hon byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth a byddwch yn dysgu sut i:
weithio’n rhan o dîm i ddarparu gwasanaeth o’r safon orau. Byddwch yn datblygu sgiliau cwsmeriaid rhagorol, sgiliau gweinyddu busnes cyffredinol, er enghraifft defnyddio Word ac Excel, ateb y ffôn, defnyddio TG bob dydd a helpu cwsmeriaid dros y ffôn gyda’u hymholiadau a datblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a gweinyddu busnes mewn swyddfa brysur sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Byddwch hefyd yn cefnogi cwsmeriaid dros y ffôn i hawlio budd-dal lles ar-lein a chefnogi cwsmeriaid i hunan-wasanaethu’n ddigidol lle y bo’n bosibl.
Caiff hyfforddiant llawn ei roi gan ein tîm a fydd yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a byddwch yn cael eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Mae'r Cynllun Prentisiaethau a Hyfforddeion Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.
Mae llawer o'n timau wedi symud i weithio ar-lein a gweithio gartref, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu'r sgiliau er mwyn cefnogi hyn. Pan fo angen gweithio gartref, bydd yr offer angenrheidiol yn cael ei roi i chi. Fodd bynnag, bydd angen i chi drefnu eich cysylltedd rhyngrwyd eich hun (efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i helpu gyda hyn).
Mae’r Llinell Gynghori ar agor o 9am i 6pm o ddydd Llun i ddydd Mercher a dydd Gwener, 10am i 7pm ar ddydd Iau a 9am i 5.30pm ar ddydd Sadwrn. Bydd gofyn i chi weithio yn ôl rota a bydd hyn yn cynnwys rhywfaint o waith gyda’r nos ac ar y penwythnos.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.
Mae ein **Hyfforddeion** Corfforaethol yn ennill profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch ag Elisha Nicholls 02920871071
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-drose
-
Hyfforddai Corfforaethol Cyngor Caerdydd
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn yn y rôl Prentis hwn gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol Mae Tîm Canolfan Ieuenctid Butetown y Gwasanaeth Ieuenctid yn gobeithio cyflogi **Hyfforddai Corfforaethol**: - Gweithiwr Ieuenctid i weithio yng Nghanolfan Ieuenctid Butetown Pavilion, Dumballs Road, Butetown, CF10 5FE, i gyfrannu...
-
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu...
-
Prentis Corfforaethol Lefel 2
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol, masnachol...
-
Prentis Corfforaethol
3 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Prentis hon gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae ein Gwasanaeth Dydd Anghenion Cymhleth Anableddau Dysgu yn awyddus i gyflogi **Prentis Corfforaethol** **(Lefel 2) **wedi'i leoli yng Ngwasanaeth Dydd Caerdydd, Heol Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2RR er mwyn cyfrannu...
-
Director Children’s Services
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom CARDIFF COUNTY COUNCIL Full timeThis is an exciting opportunity to work in a vibrant and diverse city and to be part of a dynamic senior management team of a leading public sector organisation with 15,000 employees delivering over 700 individual services to over 362,000 residents. A recent independent peer review found that Cardiff Council is a ‘good and ambitious Council’ with a...
-
Director, Children’s Services
7 days ago
Cardiff, United Kingdom Connected Local Government Full timeAbout The Service This is an exciting opportunity to work in a vibrant and diverse city and to be part of a dynamic senior management team of a leading public sector organisation with 15,000 employees delivering over 700 individual services to over 362,000 residents. A recent independent peer review found that Cardiff Council is a ‘good and ambitious...
-
Hyfforddai Tai
3 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Caiff yr Hyfforddai Tai ei hyfforddi a’i fentora yn rôl y Swyddog Tenantiaeth Byddwch yn ennill profiad yn y gwaith rhagweithiol a wneir yn y tîm i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu brydles, rhoi cyngor a chanllawiau yn ôl yr angen i gasglu tystiolaeth a gweithredu’n briodol o ran...
-
Cardiff, United Kingdom Guardian Jobs Full timeDirector Children’s Services, CARDIFF COUNTY COUNCILThis is an exciting opportunity to work in a vibrant and diverse city and to be part of a dynamic senior management team of a leading public sector organisation with 15,000 employees delivering over 700 individual services to over 362,000 residents. A recent independent peer review found that Cardiff...
-
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full timeAbout The Service This is an exciting opportunity to work in a vibrant and diverse city and to be part of a dynamic senior management team of a leading public sector organisation with 15,000 employees delivering over 700 individual services to over 362,000 residents. A recent independent peer review found that Cardiff Council is a ‘good and ambitious...
-
Cardiff, United Kingdom New Start Full timeMae hwn yn gyfle cyffrous i weithio mewn dinas fywiog ac amrywiol a bod yn rhan o uwch dîm rheoli dinas cyhoeddus arweiniol sydd â 15,000 o gyflogeion, yn darparu dros 700 o wasanaethau unigol i dros 362,000 o breswylwyr. Canfu adolygiad annibynnol gan gymheiriaid yn ddiweddar fod Cyngor Caerdydd yn “Gyngor da ac uchelgeisiol” gyda diwylliant...