Prif Swyddog

2 months ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae’r Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd yn chwarae rhan bwysig yn rheoli twf cyflym Caerdydd ac yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Ar hyn o bryd rydym yn bwrw ymlaen ag ystod o brosiectau sydd â’r nod o weddnewid system drafnidiaeth Caerdydd, cynyddu teithio cynaliadwy, sicrhau aer glanach a gwella iechyd a lles trigolion Caerdydd.

**Am Y Swydd**
Mae’r swydd hon yn gyfle cyffrous i chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ail-siapio’r ddinas a chyflawni agenda deithio gynaliadwy a llesol.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio gydag ysgolion wrth iddynt weithredu Cynlluniau Teithio Llesol Ysgolion i helpu i gynyddu teithiau cynaliadwy a llesol i'r ysgol fel dewis arall yn lle teithio i’r ysgol mewn ceir. Bydd hyn yn gofyn am ymgysylltu'n uniongyrchol ag ysgolion Caerdydd i'w cefnogi i hyrwyddo teithio cynaliadwy a llesol i'r ysgol trwy ddysgu ffurfiol ac anffurfiol sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm a chyfathrebu â chymuned ehangach yr ysgol. Mae gweithio i integreiddio ac ymgorffori teithio llesol o fewn diwylliant ysgolion unigol yn elfen allweddol o'r rôl a fydd yn cynnwys dylunio ac adolygu/diweddaru adnoddau addysgu/dysgu ar thema teithio llesol sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cefnogi gweithredu seilwaith ffisegol (gan gynnwys rheoli priffyrdd) o fewn safleoedd ysgolion ac ar draws lleoliad cymdogaeth ehangach yr ysgolion.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hollol ymrwymedig i deithio llesol a chynaliadwy. Drwy fod â chymhwyster, hyfforddiant perthnasol a/neu brofiad blaenorol cyfwerth, bydd yn gallu rheoli pob agwedd ar gyflawni cynlluniau seilwaith o’r cychwyn i’r diwedd prosiectau yn effeithiol mewn amgylchedd amlddisgyblaethol. Mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol a’r gallu i ymgysylltu a chydweithio’n effeithiol gyda chydweithwyr, Aelodau’r Cyngor a phartneriaid a rhanddeiliaid allanol yn rhan hanfodol o’r rôl hon.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00310

  • Swyddog Gweinyddol

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi i ymuno â'r tîm yng Nghastell Caerdydd fel swyddog gweinyddol. Mae Castell Caerdydd, sy’n croesawu miloedd o bobl bob blwyddyn, yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Gweinyddol yn cynnig gwasanaeth cymorth busnes a gweinyddol effeithiol...

  • Swyddog Gweinyddol

    2 days ago

  • Swyddog RHestr Aros

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod Cyngor Caerdydd yw darparu Uned Dyraniadau ac Ailgartrefu hygyrch o ansawdd uchel. Mae gan y Gwasanaeth swydd wag ar gyfer un Swyddog Rhestr Aros dros dro llawn amser ar hyn o bryd. **Am Y Swydd** Prif swyddogaethau’r swydd fydd cynorthwyo â gweinyddu’r Rhestr Aros Gyffredin ar gyfer tai cymdeithasol, gan fewnbynnu ac asesu...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau TG rhagorol i ymuno â'r Tîm Trawsnewid Digidol fel Swyddog Cymorth Systemau yn y gwasanaeth Oedolion, Tai a Chymunedau. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Cymorth Systemau yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu systemau TG yn effeithiol ac am ddarparu gwybodaeth ystadegol...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn cefnogi unigolion sy'n chwilio am waith neu sydd am uwchsgilio. Mae'r tîm wedi'i wasgaru ar draws y ddinas yn cefnogi cwsmeriaid sydd angen cymorth un i un wedi’i bersonoli, ym maes cyflogaeth, hyfforddiant, dysgu neu...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm deinamig. Yn gweithio yn y Tîm Datblygu a Gwella Gwasanaeth yn yr adran Tai a Chymunedau, mae’r Swyddog Strategaeth Tai (Polisi) yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a monitro Polisïau a Strategaethau Tai a Chynlluniau Gweithredu cysylltiedig **Am Y Swydd** Byddwch...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolion ymroddgar i weithio yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai i helpu cleientiaid sydd mewn perygl o ddigartrefedd. Y prif amcan fydd atal digartrefedd a chefnogi unigolion a theuluoedd i sicrhau llety. **Am Y Swydd** - Gweithio gyda landlordiaid y sector preifat ac asiantau gosod i adeiladu...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Amserlennu Opti-Time llawn-amser (37 awr yr wythnos) gyda’r Uned Cynnal a Chadw Ymatebol **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnig rheolaeth amserlennu effeithiol ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau a phroblemau. **Beth...

  • Swyddog Llety

    1 week ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â thîm o Swyddogion Llety sy'n helpu cleientiaid y mae angen Llety Dros Dro ac â Chymorth arnynt. Mae hwn yn wasanaeth heriol a chyflym - mae'r tîm yn ymdrin â heriau dyddiol i sicrhau y darperir llety i gleientiaid sy'n agored i niwed. Mae'r Tîm Llety yn cynnwys...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y tîm Gorfodi Traffig sy’n Symud ar gyfer swyddog Gorfodi Traffig sy’n Symud. **Am Y Swydd** Prif swyddogaeth y swydd yw gweithredu offer camerâu gorfodi, monitro a chofnodi yn y swyddfa parcio a cherbydau gorfodi symudol, er mwyn gorfodi rheoliadau parcio a thraffig perthnasol, i wneud...

  • Swyddog Tenantiaeth

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm Rheoli Tenantiaeth ar sail contract 2 flynedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bwrw ati i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu les, yn cynnig cyngor ac arweiniad i denantiaid a lesddeiliaid ac yn rhoi camau gorfodi ar waith...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...

  • Uwch Swyddog Hyb

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i berson ymrwymedig â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych ymuno â’n tîm Datrysiadau Tai yn yr Hybiau ar draws y ddinas. **Am Y Swydd** Bydd yr Uwch Swyddog Hyb yn gyfrifol am: Cefnogi cwsmeriaid yn yr Hybiau i ymuno â'r rhestr aros am dai cymdeithasol, cynnal cyfweliadau cofrestru ar gyfer cwsmeriaid...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom The Learned Society of Wales Full time

    Cymraeg:Rydym yn Cyflogi: Swyddog GweithrediadauMae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol wrth symud Cymdeithas Ddysgedig Cymru ymlaen: a sicrhau ein bod ni'n gweithredu ar ein gorau - fel sefydliad effeithiol, proffesiynol, sydd wedi'i lywodraethu'n dda - fel y gallwn gyflawni ein strategaeth pum mlynedd uchelgeisiol newydd er budd Cymru. Mae ein...

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm Rheoli Tenantiaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bwrw ati i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu les, yn cynnig cyngor ac arweiniad i denantiaid a lesddeiliaid ac yn rhoi camau gorfodi ar waith pan fo angen. **Am Y...

  • Swyddog Iechyd a Lles

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymroddedig, gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i ymuno â'n Tîm Ymgysylltu Iechyd a Lles. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydlynu ac yn helpu i ddarparu rhaglenni gwaith iechyd a lles e.e. Dementia, Gofalwyr Di-dâl, HIV, dinas Sy'n Dda i Bobl Hŷn ac ati. Byddwch...

  • Swyddog Atebion Llety

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol i ymuno â'n gwasanaeth Pwynt Cyswllt Cyntaf rhyddhau o’r Ysbyty, o fewn Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, fel swyddog atebion llety. **Am Y Swydd** Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw...