Cydlynydd Datblygu Gwasanaethau Pobl Ifanc Dwyfor
2 weeks ago
**DISGRIFIAD SWYDD**
**THIS IS A JOB WHERE THE ABILITY TO SPEAK AND WRITE WELSH**
**FLUENTLY IS ESSENTIAL**
**TEITL SWYDD **Cydlynydd Datblygu Gwasanaethau Pobl Ifanc Dwyfor
**LLEOLIAD **Dwyfor - Swyddfa Pwllheli
**ORIAU **Rhwng 15 ac 20 awr yr wythnos
**CYFLOG **B3.5: £23,022.63 - £25,947.01 pro rata
**CYTUNDEB **Rhagfyr 2024
**PRIF BWRPAS Y SWYDD**
Pwrpas y swydd ydy datblygu cysylltiadau a chyfleoedd newydd i ddatblygu gwasanaethau yn ardal Dwyfor, Gwynedd. Ein dymuniad ydy gwella’r hyn allwn gynnig I bobl ifanc digartref a bregus sydd ym byw yn Nwyfor.
**CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL**
- Datblygu Cynllun ardal GISDA i ardal Dwyfor, Gwynedd
- Datblygu Rhwydwaith o gysylltiadau presennol a newydd gyda sefydliadau ac unigolion sydd yn gweithredu yn ardal Dwyfor, Gwynedd
- Bod yn rhagweithiol wrth adnabod cyfleon am brosiectau newydd a all wneud gwahaniaeth ac a fydd o fudd i bobl ifanc.
- Hwyluso sgyrsiau a mynychu cyfarfodydd i drafod y bwlch am dai i bobl ifanc bregus yr ardal.
- Cydweithio gyda staff eraill GISDA i ymgyrchu ar godi ymwybyddiaeth am yr angen am dai fforddiadwy i bobl ifanc bregus lleol fyw.
- Cwblhau ceisiadau am arian i ddatblygu Cyfleon newydd I bobl ifanc yr ardal.
- Cyfarch pobl ifanc a’r cyhoedd yn Hwb Dwyfor, Pwllheli
- Hyrwyddo a marchnata gwasanaethau GISDA yn yr ardal.
- Codi ymwybyddiaeth o unrhyw ddatblygiadau newydd
- Cydweithio yn agos gyda Rheolwyr Prosiectau GISDA
- Mynychu cyfarfodydd a all fod o fudd i’r swydd ac i nod y prosiect
- Ymchwilio i enghreifftiau o ymarfer da mewn ardaloedd eraill a dysgu ganddynt.
**CYFRIFOLDEBAU CYFFREDINOL**
- Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau GISDA yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
- I weithio o fewn fframwaith PIE, yn unol a model therapiwtig GISDA.
- I adeiladu perthynas gref, iach ,a chyfeillgar gyda pobl ifanc gan roi y cyfle iddynt ymgysylltu/ a mynegi ei hunain mewn awyrgylch ffurfiol ac anffurfiol. disgrifiad swydd - Cydlynydd Datblygu Gwasanaethau Pobl Ifanc Dwyfor
- I greu awyrgylch di sefydliad, saff a chroesawgar sydd yn rhoi y cyfle i bobl ifanc drafod a mynegi ei teimladau /pryderon.
- I annog, ysgogi a credu mewn pobl ifanc.
- I gwblhau achrediadau Agored Cymru a cefnogi a hyrwyddo pob cyfle posib yn ymwneud a addysg/hyfforddiant/gwirfoddoli a’r byd gwaith.
- Cyfrannu tuag at hyfforddiant a datblygiad personol eich hun.
- Hyrwyddo agwedd gyfeillgar, gwrth-wahaniaethol ym mhob agwedd o’r gwaith tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth, cyd-weithwyr, aelodau o’r Bwrdd Rheoli, aelodau o’r cyhoedd ac asiantaethau eraill.
- Hyrwyddo gwerthoedd a diwylliant mewnol y Cwmni.
- Hyrwyddo nod ac amcanion y Cwmni.
- Ymgymryd ag unrhyw dasgau rhesymol yn ôl yr angen.
- Ymlynu at holl bolisïau a gweithdrefnau cyfredol y Cwmni.
- Cyfrannu at sesiynau arolygaeth.
- Cadw holl wybodaeth sy’n berthnasol i’r Cwmni, y staff a defnyddwyr gwasanaeth y
Cwmni yn gyfrinachol. disgrifiad swydd - Cydlynydd Datblygu Gwasanaethau Pobl Ifanc Dwyfor
**MANYLDEB PERSON**
**MEINI PRAWF HANFODOL DYMUNOL DULL ASESU**
**Addysg a ** Cymhwyster Addysg hyd Ffurflen Gais a
**Chymhwysterau **at lefel NVQ 3 neu Thystysgrifau gyfatebol.
**Profiad ac **Y gallu i adnabod risgiau Eirioli a chynrychioli Ffurflen Gais a
**Ymwybyddiaeth **a gweithredu fel yr eraill Chyfweliad
**Perthnasol i Swydd **angen.
Ymwybyddiaeth o Profiad o gynllunio Ffurflen Gais a anghenion a chyfleoedd gwaith / pecyn Chyfweliad plant / Pobl Ifanc. cefnogaeth
Gweithio yn y Sector Ffurflen Gais a
Wirfoddol Chyfweliad
**Sgiliau Perthnasol i **Diddordeb ac empathi Deallusrwydd o sgiliau Ffurflen Gais a
**Swydd **tuag at bobl ifanc gwrando.. Chyfweliad
Dealltwriaeth o, a’r Y gallu i nodi risg a Ffurflen Gais a gallu, i weithredu ffiniau gweithredu camau Chyfweliad clir. perthnasol.
Cyfathrebu mewn Ffurflen Gais a amrywiaeth o Chyfweliad sefyllfaoedd yn y
Gymraeg a’r Saesneg.
Sgiliau rhyngbersonol Ffurflen Gais a da. Chyfweliad
Cadw cofnodion ac Ffurflen Gais a ysgrifennu adroddiadau. Chyfweliad
Y gallu i weithio ar eich Ffurflen Gais a liwt eich hun. Chyfweliad
Y gallu i weithio fel aelod Ffurflen Gais a o dîm. Chyfweliad
Y gallu i ddefnyddio Ffurflen Gais a rhaglenni cyfrifiadurol Chyfweliad megis Word, Excel ag
Outlook.
Y gallu i ddelio gyda Ffurflen Gais a gwybodaeth sensitif a Chyfweliad chyfrinachol
Y gallu a’r hyder i herio Ffurflen Gais a penderfyniadau ar Chyfweliad hawliau Defnyddwyr
Gwasanaeth
Rheolaeth amser Ffurflen Gais a effeithiol a’r gallu i Chyfweliad gyrraedd targedau
**Arall **Trwydded yrru llawn a. Ffurflen Gais a
chyfredol. Chyfweliad
disgrifiad swydd - Cydlynydd Datblygu Gwasanaethau Pobl Ifanc Dwyfor
**JOB DESCRIPTION**
**JOB TITLE **Young People’s Services Development Coordinator Dwyfor
**LOCATION **Dwyfor - Pwllheli Office
**HOURS **15-20 hours per week
**SALARY **B3.5: £23022.63 - £25947.01 pro
-
Cydlynydd Cyfleon Pobl Ifanc Dwyfor
6 days ago
Pwllheli, United Kingdom GISDA Full time**THIS IS A JOB WHERE THE ABILITY TO WRITE AND SPEAK IN WELSH IS ESSENTIAL** **MAE'N RHAID I BAWB SYDD EISIAU YMGEISIO AM Y SWYDD HON GWBLHAU FFURFLEN GAIS GAIS GISDA - EWCH I WEFAN GISDA AM DDISGRIFIAD SWYDD LLAWN A FFURFLEN GAIS WWW.GISDA.ORG** Diben y swydd hon yw datblygu a chydlynu darpariaeth a chefnogaeth cyfleon i bobl ifanc Dwyfor. Cefnogi pobl...
-
Temporary Senior Surveyor
4 days ago
Pwllheli, United Kingdom YGC - Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy Full time**Hysbyseb llawn a ffurflen gais ar gael yma: -** **Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais ar wefan Cyngor Gwynedd, neu'r ffurflenni cais y gofynnir amdanynt gan y Gwasanaeth Cefnogol. Ni fydd unrhyw geisiadau neu CVs a gyflwynir trwy Indeed yn cael eu hasesu.** ............. **AMDANOM NI** Rydym yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu wrth...
-
Road Worker
6 days ago
Pwllheli, United Kingdom YGC - Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy Full time**Hysbyseb llawn a ffurflen gais ar gael yma: -** **Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais ar wefan Cyngor Gwynedd, neu'r ffurflenni cais y gofynnir amdanynt gan y Gwasanaeth Cefnogol. Ni fydd unrhyw geisiadau neu CVs a gyflwynir trwy Indeed yn cael eu hasesu.** ............. **AMDANOM NI** Rydym yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu wrth...