Temporary Senior Surveyor

3 weeks ago


Pwllheli, United Kingdom YGC - Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy Full time

**Hysbyseb llawn a ffurflen gais ar gael yma: -**

**Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais ar wefan Cyngor Gwynedd, neu'r ffurflenni cais y gofynnir amdanynt gan y Gwasanaeth Cefnogol. Ni fydd unrhyw geisiadau neu CVs a gyflwynir trwy Indeed yn cael eu hasesu.**

.............

**AMDANOM NI**

Rydym yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu wrth ymgymryd â’r holl waith, ac wedi teilwra ein gwasanaethau i gwrdd ag anghenion ein cwsmeriaid.

Rydym wedi ein lleoli yng Ngwynedd, yng ngogledd Cymru dros dri lleoliad, sef ein prif swyddfa yng Nghaernarfon a swyddfeydd ym Mhwllheli a Dolgellau.

Ar ôl datblygu perthynas waith agos â nifer o gleientiaid ledled Cymru, rydym yn ymfalchïo yn ein dull cydweithredol o weithio’n rhanbarthol er mwyn darparu’n lleol.

Mae ein timau amlddisgyblaeth sy’n cynnwys peirianwyr, penseiri, syrfewyr, arbenigwyr llifogydd ac amgylcheddol yn ymroddedig i ddod o hyd i’r atebion mwyaf arloesol a phriodol i ddiwallu anghenion ein cleient.

...............

**About Us**

We ensure that the environment is protected at all times during construction and have tailored our services to meet customer demand.

We are based in Gwynedd in north Wales over three locations - our main office in Caernarfon and offices at Pwllheli and Dolgellau.

Having developed a close working relationship with a number of clients across Wales, we pride ourselves on our collaborative approach of working regionally in order to deliver locally.

Our multidisciplinary teams that include engineers, architects, surveyors, flooding and environmental specialists are dedicated to finding the most innovative and appropriate solutions to meet our client’s needs.

............

Pwrpas y swydd
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
- Rheoli prosiectau, yn unol â chyfarwyddyd y Prif Beiriannydd / Rheolwr yr Uned, er mwyn sicrhau bod gofynion penodol y briff, a ddarperir gan y Cleient o ran costau, amser ac ansawdd, yn cael eu cyflwyno’n llwyddiannus.
- Bod yn weithredol yn natblygiad a gweithrediad technegau a systemau rheoli prosiect (e.e. Gweithdrefn Rheoli Prosiect YGC, PRINCE2, Llawlyfr Rheoli Prosiect y Cyngor ac ati) i sicrhau bod YGC yn ymrwymo’n llawn i fodloni anghenion Cleientiaid i ddarparu gwerth am arian gan weithredu ar sail fasnachol ac addasu’i hun i gystadlu’n effeithiol.
- Bod yn gyfrifol am reoli timau prosiect hyblyg, o fewn yr Uned a’r Gwasanaeth yn gyffredinol, a rhoi arweiniad i aelodau’r tîm.
- Rhoi sylw i’r holl ofynion yng nghyd-destun rheolaeth ariannol prosiectau a rhoi adborth ariannol i'r Prif Beiriannydd / Rheolwyr yr Unedau ar faterion prosiect a llwyth gwaith yn rheolaidd.
- Perfformio ymrwymiadau'r contract ar brosiectau adeiladu.
- Datrys materion cytundebol gyda sefydliadau megis contractwyr ac ymgynghorwyr.
- Adolygu a datblygu gweithdrefnau newydd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor, ynghyd â datblygiadau cenedlaethol.
- Ymdrin â phob menter wella Genedlaethol a'r UE.
- Cyflawni gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
- Datblygu a chynnal y sgiliau a'r wybodaeth dechnegol sydd ei hangen i gynnal a chyflawni gwasanaethau craidd YGC.
- Datblygu rôl Syrfëwr Meintiau o fewn yr Adran
- Darparu rôl arbenigol Syrfeo Meintiau i weddill adrannau YGC.
- Cynnal safonau yr arbenigedd a gweithredu i safonau perthnasol a phroffesiynol.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
- Canfod a chynnal y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â:

- dull caffael ar gyfer prosiectau isadeiledd-safonau a datblygiadau technegol (gan gynnwys technoleg gyfredol)
- cyfrifoldebau proffesiynol a statudol (yn cynnwys e.e. y rhai dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, Deddf Adeiladu 1984, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1982, Rheoliadau Cynefinoedd 1994 a Rheoliadau addas e.e. rheoliadau CDM) a’u cymhwysiad i’r gwaith a’r swyddogaethau sy’n cael eu gweithredu.
- Rheoli staff eilaidd.
- Dirprwyo i’r rheolwr.
- Sicrhau bod YGC yn ateb gofynion y Cyngor.
- Cymryd cyfrifoldeb llawn am reolaeth ariannol eu prosiectau.
- Sicrhau y caiff holl daflenni amser a chymeradwyaeth staff eu cwblhau yn unol â gweithdrefnau YGC.
- Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch a chydweithredu â chynrychiolydd Iechyd a Diogelwch YGC.

Prif ddyletswyddau
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadar