Rheolwr Safleoedd a Cherbydau
2 weeks ago
Mae Grŵp Rondo Media am benodi RHEOLWR SAFLEOEDD A CHERBYDAU i gynnal eu safleoedd yn Llangefni, Porthaethwy a Chaernarfon yn ogystal â’u fflŷd o gerbydau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson brwdfrydig a gweithgar gyda pharch tuag at eiddo a threfn yn y gweithle.
Ymysg y cyfrifoldebau bydd:
- Sicrhau fod ein adeiladau yn daclus a diogel
- Gwneud arolygon cyson o’n safleoedd gan nodi a cheisio datrys unrhyw wallau
- Gwneud mân jobsys cynnal a chadw
- Delio gyda chontractwyr allanol ar gyfer unrhyw waith arbenigol
- Sicrhau fod ein systemau gwresogi, goleuo a larymu yn gweithio’n iawn
- Sicrhau bod ein adeiladau a’r cerbydau yn cyrraedd y safonau disgwyliedig o ran canllawiau iechyd a diogelwch a VOSA.
- Archebu tanwydd, deunyddiau glanhau, offer newydd a dodrefn yn ôl yr angen
- Sicrhau fod ein cerbydau wedi eu cynnal a’u trethu, gan ofalu eu bod yn cael eu cadw mewn cyflwr diogel, glân a thaclus
- Amserlennu y defnydd gorau o’n cerbydau o amgylch gofynion gwahanol gynyrchiadau
Byddwch:
- Yn berson ymarferol
- Â’r gallu i weithio’n annibynnol
- Â thrwydded yrru lawn
- Yn dda am drin pobol
- Yn drylwyr a rhoi sylw i fanylion
- Yn gallu cyfathrebu yn dda ar lafar
- Yn meddu ar wybodaeth am ddiogelwch y cyhoedd
- Yn gallu cyflawni tasgau sylfaenol ar gyfrifiadur neu ddyfais llaw
Yn ddymunol:
- Y gallu i siarad Cymraeg
- Ymwybyddiaeth o reolau iechyd a diogelwch
- Ymwybyddiaeth o reolau tân
- Cymwysterau perthnasol
**Job Type**: Fixed term contract
Contract length: 12 months
**Salary**: £25,000.00-£30,000.00 per year
Schedule:
- Monday to Friday
Work Location: One location
Application deadline: 20/03/2023
-
Recycling Site Worker X4
4 days ago
Caernarfon, United Kingdom YGC - Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy Full time**Hysbyseb llawn a ffurflen gais ar gael yma: -** **Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais ar wefan Cyngor Gwynedd, neu'r ffurflenni cais y gofynnir amdanynt gan y Gwasanaeth Cefnogol. Ni fydd unrhyw geisiadau neu CVs a gyflwynir trwy Indeed yn cael eu hasesu.** ............. **AMDANOM NI** Rydym yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu wrth...
-
Environmental Officer
4 days ago
Caernarfon, United Kingdom YGC - Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy Full time**Hysbyseb llawn a ffurflen gais ar gael yma: -** **Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais ar wefan Cyngor Gwynedd, neu'r ffurflenni cais y gofynnir amdanynt gan y Gwasanaeth Cefnogol. Ni fydd unrhyw geisiadau neu CVs a gyflwynir trwy Indeed yn cael eu hasesu.** ............. **AMDANOM NI** Rydym yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu wrth...
-
Technical Assistant
1 day ago
Caernarfon, United Kingdom YGC - Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy Full time**Hysbyseb llawn a ffurflen gais ar gael yma: -** **Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais ar wefan Cyngor Gwynedd, neu'r ffurflenni cais y gofynnir amdanynt gan y Gwasanaeth Cefnogol. Ni fydd unrhyw geisiadau neu CVs a gyflwynir trwy Indeed yn cael eu hasesu.** **........** ............. **AMDANOM NI** Rydym yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei...