Arweinydd Tim Pensiynau

2 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), ac yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd. Mae gan y Gronfa 42 o gyflogwyr cyfranogol a thros 45,000 o aelodau cyfredol, gohiriedig a rhai sy’n bensiynwyr. Ein nod yw darparu gwasanaeth i'n haelodau sy’n gywir ac sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, o’r adeg y maen nhw’n ymuno â'r cynllun i'w hymddeoliad.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle wedi codi am Arweinydd Tîm llawn amser yng Nghronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg. Byddwch yn gyfrifol am bob agwedd ar weithrediadau gweinyddol o ddydd i ddydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) i sicrhau bod Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn darparu gwasanaeth effeithlon o safon uchel. Rydym yn chwilio am rywun sy'n llawn cymhelliant gyda'r gallu i reoli eu llwyth gwaith eu hunain ac i weithio i derfynau amser. Byddwch yn hunan-gymhellol, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu effeithiol, yn meddu ar sgiliau rhifedd cryf a sylw da i fanylion ac yn mwynhau'r her o weithio mewn amgylchedd heriol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Byddwch yn gyfrifol am ddeall a dehongli Rheoliadau cymhleth sy'n berthnasol i'r Cynllun, gan wirio a monitro'r allbwn a gynhyrchir gan aelodau'r tîm i sicrhau cywirdeb, gan sicrhau bod targedau perfformiad a chynlluniau gweithredu yn cael eu bodloni. Byddwch yn cynorthwyo gyda datblygu a monitro safonau ansawdd i fodloni gofynion statudol ac i yrru ymlaen welliannau parhaus. Byddwch yn dirprwyo ar ran y Prif Swyddog Pensiynau, yn ôl y galw. Rhaid i chi ddangos agwedd hyblyg tuag at waith a’r gallu i weithio’n effeithiol dan bwysau. Mae profiad o weithio mewn Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn hanfodol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES01075



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gofrestru a sicrhau trwydded neu gyflogi asiant trwyddedig ar eu rhan i gyflawni tasgau gosod a rheoli eiddo. Mae Cyngor Caerdydd wedi’i ddynodi fel yr awdurdod trwyddedu sengl i weinyddu’r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru. Sefydlwyd y gwasanaeth ym mis Tachwedd 2015. Mae’n...

  • Arweinydd Tim

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gofrestru a sicrhau trwydded neu gyflogi asiant trwyddedig ar eu rhan i gyflawni tasgau gosod a rheoli eiddo. Mae Cyngor Caerdydd wedi’i ddynodi fel yr awdurdod trwyddedu sengl i weinyddu’r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru. Sefydlwyd y gwasanaeth ym mis Tachwedd 2015. Mae’n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn wasanaeth o fewn Cyngor Caerdydd, er mwyn gweinyddu gofynion Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rheoleiddio tai sector rhent preifat yng Nghymru drwy ofyn i landlordiaid gofrestru ac un ai ddod yn drwyddedig eu hunain neu roi cyfarwyddyd i asiant trwyddedig i ymgymryd â thasgau gosod a rheoli eiddo. Sefydlwyd...

  • Dirprwy Arweinydd Tim

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn wasanaeth o fewn Cyngor Caerdydd, er mwyn gweinyddu gofynion Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rheoleiddio tai sector rhent preifat yng Nghymru drwy ofyn i landlordiaid gofrestru ac un ai ddod yn drwyddedig eu hunain neu roi cyfarwyddyd i asiant trwyddedig i ymgymryd â thasgau gosod a rheoli eiddo. Sefydlwyd...

  • Trainee Journalist

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom ITV Jobs Full time

    **Newyddiadurwr dan hyfforddiant** **(Rhaglenni Cymraeg)** **ITV Cymru Wales** **2 x cytundeb 12 mis** **Lleoliad : Caerdydd** **Cyflog : £23,477 - £27,909** **Mae eich gwaith yn bwysig** Mae siapio diwylliant yn rhan o DNA ITV. Nid yw’n syndod y byddwch yn dod o hyd i ni ym mhob cartref yn y DU, mae ein cynyrchiadau yn enwog ledled y byd ac rydym...