Seicolegydd Addysg
7 months ago
**Amdanom ni**
Mae gennym gyfle cyffrous i seicolegydd addysg ymuno â'n gwasanaeth creadigol a chefnogol. Mae ein tîm yn cynnwys unigolion sy'n rhannu angerdd dros roi perthnasoedd wrth wraidd ein dull gweithredu. Mae cyfleoedd gwych i ddatblygu’r hyn sydd o ddiddordeb i chi a chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth seicolegol i ysgolion ar draws yr awdurdod. Ein nod yw bod yn wasanaeth myfyriol sy'n gweithio i wella lles staff, gan ganolbwyntio ar ddatblygu arferion goruchwylio a mentora.
Ar hyn o bryd mae ein gwasanaeth yn addasu model newydd o weithio sydd â seicoleg a datblygiad wrth ei wraidd gan adlewyrchu rôl newidiol Seicolegwyr Addysg yn ogystal ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a diwygio'r cwricwlwm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu Bro Morgannwg i adeiladu ar ei bartneriaethau cryf ar draws gwasanaethau addysg, iechyd a gofal cymdeithasol wrth iddo gyfrannu at wella lles a chyrhaeddiad. Cewch gyfle i fod yn rhan o dîm cyfeillgar a blaengar.
Manteision gweithio yn ein tîm:
- Diwylliant tîm cyfeillgar a chefnogol.
- Anogaeth i fod yn greadigol ac yn arloesol.
- Amser a chyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus.
- Cyfleoedd i arwain ar feysydd diddordeb a gwaith prosiect amrywiol.
- Goruchwyliaeth reolaidd, goruchwyliaeth cyfoedion a chyfarfodydd un i un.
- Offer (gliniadur a ffôn symudol) a mynediad at gymorth TG a gweinyddol.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion y Cyflog: Soulbury A 2-7 a hyd at 3 phwynt SPA £44,474 - £54,609 (hyd at 3 phwynt SPA). Bydd pwyntiau SPA presennol yn cael eu hanrhydeddu yn ogystal â'r codiad cyflog Soulbury diweddaraf.
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr yr wythnos (yn seiliedig ar amser llawn). Croesawir ymgeiswyr rhan-amser hefyd.
- Hybu cyfle cyfartal i bob plentyn waeth beth fo’i ryw, cyflawniad, ethnigrwydd, ADY neu hyfedredd yn y Gymraeg a/neu’r Saesneg.
- Hyrwyddo'r defnydd o seicoleg gymhwysol i wella deilliannau, cynhwysiant a chyflawniadau plant a phobl ifanc gan gynnwys oed cyn ysgol ac ôl-16 gan ddefnyddio'r dulliau canlynol:. Ymgynghori â staff, rhieni a gofalwyr.. Ymyriadau therapiwtig. Darparu cyngor seicolegol fel cyfrannwr i'r broses statudol. Ymgymryd â gwaith prosiect a hyfforddiant gan gynnwys ysgol gyfan ac awdurdod lleol. Cyfrannu at fonitro a gwerthuso darpariaeth a pholisïau’r sir
- Sicrhau bod data'n cael ei gasglu, ei ddadansoddi a'i gyfathrebu'n effeithiol yn unol â'r protocolau gwasanaeth
- Cyfrannu at y gwaith o gynllunio a datblygu’r Gwasanaeth Seicoleg Addysg a’r gwasanaeth addysg ehangach yn gyffredinol.
- Cadw’n gyfredol ag ymarfer ac ymchwil ym maes seicoleg addysg, er mwyn cynnal ymrwymiad i raglen o ddatblygiad proffesiynol parhaus gan gynnal safonau aelodaeth i'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Cymhwyster ôl-raddedig mewn Seicoleg Addysgol ac wedi'ch cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- Gwybodaeth am anghenion seicolegol ac addysgol plant a phobl ifanc.
- Gwybodaeth am amrywiaeth eang o ymyriadau seicoleg i blant ag ADY ynghyd â'r gallu i'w defnyddio.
- Y gallu i reoli'r pwysau sy’n gysylltiedig â thargedau a gofynion niferus.
- Y gallu i weithio fel aelod o dîm a hyrwyddo cydlyniant
- Y gallu i ddangos synnwyr cyffredin cadarn a gwneud penderfyniadau ynghyd â hyblygrwydd
- Y gallu i deithio Byddem yn croesawu ymgeiswyr profiadol a byddwn yn anrhydeddu'r trefniadau cyflog presennol. Byddem hefyd yn croesawu'r rhai sydd newydd gymhwyso neu'n hyfforddi. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r DU. ddol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Job Reference: LS00323
-
Pennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Ydych chi'n angerddol am drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol? Mae Cyngor Bro Morgannwg yn chwilio am arweinydd ymroddedig a gweledigaethol i fod yn Bennaeth nesaf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles. Yn y rôl ganolog hon, byddwch yn arwain ein hymdrechion i ddarparu gwasanaethau addysg a chymorth cynhwysol...