Athro Ymgynghorol Dechrau’n Deg

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Dechrau'n Deg yw rhaglen Blynyddoedd Cynnar dargedig Llywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd â phlant dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae elfennau craidd y rhaglen wedi’u cymryd o amrywiaeth o opsiynau y profwyd eu bod yn dylanwadu’n gadarnhaol ar ganlyniadau i blant a'u teuluoedd. Mae’r rhain yn cynnwys:

- Gofal plant rhan amser o safon uchel wedi’i ariannu i blant 2-3 oed
- Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd estynedig
- Mynediad at Raglenni Rhianta
- Datblygiad Iaith Cynnar

**Am Y Swydd**
Mae'r swydd hon o fewn y Tîm Ymgynghorol Dechrau'n Deg ac fe'i rheolir gan y Swyddog Gwella Addysg y Blynyddoedd Cynnar.

Bydd deiliad y swydd yn canolbwyntio'n bennaf ar yr agwedd gofal plant ar y Rhaglen Dechrau'n Deg ond bydd yn gweithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol o'r 3 elfen graidd arall.

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi darparwyr gofal plant Dechrau'n Deg wrth ddatblygu a chynnal darpariaeth addysg a gofal o safon uchel, ac ar yr un pryd sicrhau eu bod yn cynnal gofynion eu contract Dechrau'n Deg. Bydd angen i ddeiliad y swydd gefnogi a herio arferion a gweithredu fel “cyfaill beirniadol”.

Mae llawer o'n timau wedi symud i weithio hybrid - mae hyn yn golygu gweithio ar-lein a gweithio gartref, ymweld â lleoliadau Gofal Plant Dechrau’n Deg yn ogystal â gweithio mewn swyddfa. Pan fydd angen gweithio gartref, byddwch yn cael yr offer angenrheidiol, ond bydd angen i chi drefnu eich cysylltiad eich hun â’r rhyngrwyd.

Mae’r swydd hon yn cynnwys gweithio 4 diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor. Cytunir ar ddiwrnodau gwaith adeg penodi.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am athro cymwys gyda gwybodaeth gadarn am arferion y Blynyddoedd Cynnar a chofnod profedig o brofiad o’r Blynyddoedd Cynnar. Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu gweithio'n dda mewn tîm sy'n tyfu. Rydym yn chwilio am rywun sy'n gweithio'n dda gyda phobl eraill, sy’n gallu sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith cadarnhaol ac sy’n gallu gweithredu fel "cyfaill beirniadol" i sicrhau bod darparwyr Dechrau'n Deg yn darparu addysg a gofal o safon uchel i blant Dechrau'n Deg. Bydd deiliad y swydd yn drefnus, yn gweithio â ffocws ac yn gallu delio â llawer o ofynion ar yr un pryd i sicrhau bod y gwasanaeth yn cyflawni’r canlyniadau gorau i blant Dechrau’n Deg. Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o hyfforddi ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar, rhywun sy'n hyblyg ac yn addasadwy ac sy'n gallu gweithio'n gyfforddus gyda newid. Bydd deiliad y swydd yn gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office gan gynnwys e-byst, taenlenni, adroddiadau a chyflwyniadau.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Mae’r swydd hon:

- yn gofyn am hyblygrwydd
- yn gofyn am deithio ar draws y rhanbarth
- yn gofyn am GDG manwl
- yn gofyn am drwydded yrru lawn y DU a char i'w ddefnyddio

Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl drwy roi enghreifftiau yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o nodau - gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond **peidiwch â chyflwyno CV** gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth wneud cais am y swydd uchod.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Dylai ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw’n is nag RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVau. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Gwneud cais am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymdd


  • Arolygydd Gwersi

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf Full time

    Rydym yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig i swydd llawn amser yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Dyma gyfle arbennig i weithio mewn tîm o staff sy’n gweithio’n broffesiynol gan sicrhau y safonau addysgol gorau posibl. Nod y Swydd: - I sicrhau arolygaeth o dasgau sydd wedi’u trefnu / paratoi eisoes mewn dosbarthiadau ble mae’r athro arferol yn...