Arolygydd Gwersi

2 months ago


Cardiff, United Kingdom Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf Full time

Rydym yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig i swydd llawn amser yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Dyma gyfle arbennig i weithio mewn tîm o staff sy’n gweithio’n broffesiynol gan sicrhau y safonau addysgol gorau posibl.

Nod y Swydd:

- I sicrhau arolygaeth o dasgau sydd wedi’u trefnu / paratoi eisoes mewn dosbarthiadau ble mae’r athro arferol yn absennol.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:

- Arolygu gwaith disgyblion fel oedolyn cyfrifol ar eich pen eich hun mewn dosbarthiadau o blant o oedrannau rhwng 11 a 17 mlwydd oed.
- Sicrhau fod disgyblion yn gallu parhau i ddysgu mewn awyrgylch dda tra mae’r athro arferol yn absennol.
- Ymateb yn gadarnhaol i ddisgyblion wrth drafod y gwaith a osodir.
- Delio â sefyllfaoedd allai godi yn briodol, gan ddilyn trefn a strwythurau ysgol gyfan.
- Casglu gwaith gorffenedig a’i drosglwyddo i’r athro / arweinydd adran priodol.
- Gwahaniaethu tasgau yn briodol i sicrhau ei fod o fewn cyrraedd i ddisgyblion y dosbarth.
- Arolygu arholiadau pan fo gofyn
- Yn ystod amser pan na fydd angen arolygu, gweithio gydag adrannau neu gyda staff gweinyddol i gwblhau gwaith sy’n ymwneud â’r ysgol.
- I ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant angenrheidiol

Cymhwysterau a phrofiad:

- Sgiliau rhyngbersonol ardderchog
- Sgiliau rheolaeth dosbarth da
- Dealltwriaeth am strategaethau i drin â phobl ifanc a phlant yn deg, broffesiynol a chyson i sicrhau amgylchedd ddiogel a threfnus o fewn yr ystafell ddosbarth ac mewn sefyllfaoedd un i un.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael brwdfrydedd ac awydd clir i weithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w datblygiad a’u cynnydd o fewn yr ysgol. Byddwn yn edrych am unigolyn dynamig sydd yn gweithio yn dda fel rhan o dîm ac sydd â’r gweledigaeth fod addysg yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd plant.

Byddwn yn hapus iawn i ddarparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy’n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous. Byddai’r swydd yn ddelfrydol ar gyfer athro newydd gymhwyso i ymgymryd â swydd llawn amser o fewn ysgol.

Gan fod Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ymrwymedig i les a diogelwch pob plentyn, mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad manwl diogelu plant a dau eirda llwyddiannus. Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Matthew Evans yn yr ysgol.

Proses Ymgeisio

Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd.

Gradd 5 pro rata
null