Uwch Gynorthwy-ydd
2 weeks ago
**Amdanom ni**
Mae Llyfrgelloedd ym Mro Morgannwg yn cynnig ystod eang o wasanaethau i ddefnyddwyr llyfrgelloedd drwy weithgareddau, hyfforddiant a digwyddiadau, mynediad am ddim at y rhyngrwyd a gwybodaeth, llogi ystafelloedd, gweithio gyda phartneriaid, ystod o ddeunyddiau astudiaethau lleol ac wrth gwrs cyfle i fenthyg llyfrau, llyfrau llafar a eGylchgronau.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion am gyflog: Gradd 5, SCP 8 - 12, £24,702 - £26,421 p.a. pro rata
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 3 diwrnod, 17 awr yr wythnos
Prif Waith: Llyfrgell Llanilltud Fawr
**Disgrifiad**:
Cynorthwyo gyda rhoi gwasanaeth llyfrgell cyfeillgar a phroffesiynol i’r gymuned. Bydd hyn yn cynnwys ymdrin ag ymholiadau, helpu gyda gweithgareddau llyfrgell a rhoi cymorth i gwsmeriaid i fanteisio ar stoc, adnoddau a chyfleusterau’r llyfrgell.
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Agwedd hyderus a hawddgar gyda dull rhagweithiol o ran helpu cwsmeriaid
- Profiad o weithio gydag ystod o gwsmeriaid neu gleientiaid
- Profiad o ddefnyddio adnoddau gwybodaeth ar-lein
- ESDL neu brawf cyfwerth o’r gallu i ddefnyddio cyfrifiaduron
- O leiaf 5 TGAU gyda graddau A-C, gan gynnwys Saesneg neu NVQ
lefel 2 mewn Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Gwybodaeth neu o leiaf 3
blynedd o brofiad o weithio mewn llyfrgell
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: Manwl (Plant)
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.
Job Reference: LS00316
-
Cynorthwy-ydd Gweinyddol Contractau
6 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn recriwtio ar gyfer swydd Cynorthwy-ydd Gweinyddol Contractau Parhaol yn y Tîm Contractau, sy’n swyddogaeth allweddol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ystod eang o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol ynghylch amddiffyn a chefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed. **Ynglŷn â'r...