Cynorthwy-ydd Gweinyddol Contractau

2 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Bro Morgannwg yn recriwtio ar gyfer swydd Cynorthwy-ydd Gweinyddol Contractau Parhaol yn y Tîm Contractau, sy’n swyddogaeth allweddol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ystod eang o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol ynghylch amddiffyn a chefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Gradd 4, PCG 5 -7, £21,575 - £22,369

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr

Prif Weithle: Swyddfeydd y Dociau

Rheswm Dros Dro: dd/b

**Disgrifiad**:
Rhoi cymorth gweinyddol i Dîm Contractau’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd dyletswyddau’n cynnwys coladu a chynnal gwybodaeth am ddarparwyr, archwiliadau blynyddol ar ddarparwyr, prosesu anfonebau, cadw cofnodion ariannol, trefnu cyfarfodydd ac ysgrifennu cofnodion.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Blwyddyn o brofiad mewn amgylchedd Gofal Cymdeithasol.
- Profiad o weithio mewn modd sensitif ag unigolion a gwahanol asiantaethau cynrychiadol.
- Profiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft gan gynnwys cronfeydd data a thaenlenni.
- Profiad o gasglu a chynhyrchu adroddiadau gwybodaeth.
- Profiad o weithio â systemau Cyngor Bro Morgannwg.
- Gwybodaeth am wasanaethau Gofal Cymdeithasol.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Sgiliau trefnu
- Sgiliau TG rhagorol
- Y gallu i weithio’n gywir
- Gallu gweithio'n annibynnol a rheoli ei lwyth gwaith ei hun.
- Sgiliau dadansoddi
- 4 TGAU neu gyfwerth gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C neu uwch, neu sgiliau galwedigaethol sydd â phrofiad amlwg
- Hunan gymhelliant a’r gallu i weithio ar eich liwt eich hun
- Y gallu i weithio’n rhan o dîm.
- Y gallu i weithio i derfynau amser ac o dan bwysau.
- Y gallu i weithio i derfynau amser
- Agwedd datrys problemau
- Gallu bod yn hyblyg a rheoli newid
- Gallu gyrru / teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo’n briodol

**Gwybodaeth Ychwanegol**

A oes angen gwiriad gan y GDG: Dim

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: SS00572


  • Cymorth Busnes Gcichc

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd mewn perygl o, neu sy'n ymwneud ag ymddygiad troseddol drwy gynnig gwasanaethau atal, dargyfeirio a Gorchymyn Llys statudol. Yn rhan annatod o'r tîm, mae’r rolau Cynorthwy-ydd Perfformiad a Chymorth Busnes yn cefnogi aelodau'r tîm i ddarparu...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Rondel House yn darparu Gwasanaeth Dydd i bobl hŷn sy'n byw yn ardaloedd Canol a Dwyrain Bro Morgannwg, a allai ddioddef o eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd a/neu ddementia. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwasanaeth 5 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl...