Hyfforddwr Bugeiliol

2 weeks ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

**Y rôl**:
Gweithio gyda Meysydd Dysgu penodol mewn modd hyblyg a rhagweithiol, a chyflawni unrhyw ddyletswyddau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau’n cael eu cyflwyno’n effeithiol. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys gweithio gyda’r Tîm Profiad a Lles Dysgwyr.

Prif nodau’r swydd yw sicrhau bod myfyrwyr yn parhau i astudio’u cyrsiau a darparu cefnogaeth i diwtoriaid trwy weithredu fel pwynt cyswllt.
- Cyfnod Penodol tan 30 Mehefin 2024
- Llawn Amser Cyfatebol Cyflog: £24,131 - £26,268 y flwyddyn

**Cyfrifoldebau Allweddol**:

- Cefnogi tiwtoriaid i weithredu gweithdrefnau ‘achos pryder’ a delio â phryderon.
- Cefnogi tiwtoriaid i weithredu gweithdrefnau ‘achos pryder’ a delio â phryderon
- Gweithio gydag Arweinydd CGA Egnïol, swyddogion Cymorth Myfyrwyr a phob gwasanaeth Cymorth er mwyn darparu cymorth ychwanegol yn ôl yr angen i gefnogi anghenion dysgwyr.
- Diweddaru’r tîm Rheoli Maes Dysgu yn rheolaidd ar gadw, cynnydd a lles dysgwyr drwy fynychu cyfarfodydd a llunio adroddiadau wythnosol.

**Amdanoch chi**:

- Gradd neu gymhwyster lefel 4 cyyfatebol
- Profiad o weithio gyda phobl 14-19 oed mewn amgylchedd addysgol
- Bod yn hyderus yn cyfathrebu’n glir ac yn effeithiol gyda gwahanol grwpiau o bobl e.e. pobl ifanc, rhieni, sefydliadau allanol a staff academaidd.
- Bod yn sensitif ac yn broffesiynol wrth ddelio â phobl ifanc

**Buddion**:

- 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Parcio am ddim
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- Disgownt ar gyfer aelodaeth Campfa Chwaraeon - £60 y flwyddyn
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar. _

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).



  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi dysgwyr mewn ffordd newydd. Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus a phrofiadol i ymuno â Thimoedd Maes Dysgu prysur sy’n darparu gofal bugeiliol i ddysgwyr a chefnogi tiwtoriaid personol. Eich prif gyfrifoldeb fydd gweithio’n rhagweithiol gyda dysgwyr a thiwtoriaid y coleg er mwyn gwella presenoldeb, cadw a...