Hyfforddwr Bugeiliol

2 weeks ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi dysgwyr mewn ffordd newydd. Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus a phrofiadol i ymuno â Thimoedd Maes Dysgu prysur sy’n darparu gofal bugeiliol i ddysgwyr a chefnogi tiwtoriaid personol.

Eich prif gyfrifoldeb fydd gweithio’n rhagweithiol gyda dysgwyr a thiwtoriaid y coleg er mwyn gwella presenoldeb, cadw a chyrhaeddiad ac i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag ymddygiad cyffredinol. Byddwch hefyd yn gorfod gwirio a chadw cofnod o bresenoldeb myfyrwyr.

Yn ogystal, byddwch yn gweithio â gwasanaethau cymorth eraill er mwyn darparu cynnig uwch-gwricwlaidd hyblyg sydd wedi’i deilwra’n arbennig at anghenion dysgwyr.

Byddwch yn meddu ar, neu’n barod i weithio tuag at ennill cymhwyster gradd neu gymhwyster lefel 4, ac mi fydd gennych 5 TGAU (Gradd C neu uwch) neu gymwysterau cyfatebol. Byddwch hefyd yn barod i weithio tuag at ennill cymhwyster mentora cymheiriaid.

Byddwch yn meddu ar sgiliau trefnu a datrys problemau gwych, a byddwch yn gallu gweithio’n dda o dan bwysau ac yn meddu ar lygad dda am fanylder.

Bydd angen profiad blaenorol o weithio gyda phobl ifanc arnoch chi ar gyfer y rôl, yn ogystal â phrofiad o drefnu gweithgareddau a gallu i gyflwyno.

Yn ogystal, bydd angen ichi arddangos sgiliau rhyngbersonol a TG rhagorol er mwyn cyfathrebu’n fewnol ac yn allanol gyda rhanddeiliaid yn bersonol ac ar-lein.

Rhaid ichi weithio’n hyblyg ar draws gampysau’r Coleg, yn ogystal â gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).


  • Hyfforddwr Bugeiliol

    4 weeks ago


    Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...