Swyddog Cwynion Ac Ymgysylltu

3 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Yn sgil ehangu'r tîm, mae cyfle newydd cyffrous i ymuno â'r tîm Perfformiad a Pholisi o fewn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau. Mae'r Gwasanaethau Oedolion yn cefnogi dinasyddion ledled Caerdydd i fyw'n dda ac yn cynnig gwasanaethau gofal, cymorth a chyngor sy'n gweithio gyda thimau ar draws y gyfarwyddiaeth.

**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y Gwasanaethau Oedolion i ymgysylltu â staff ac aelodau o'r cyhoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol y tu allan i'r Cyngor i gefnogi cwynion, datblygu cyfleoedd adborth a cynorthwyo’r Tîm Rheoli. Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus:

- Gwblhau ymatebion amserol i gwynion gan aelodau o'r cyhoedd, Cynghorwyr a'r Ombwdsmon, gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir ac yn adlewyrchu'r sefyllfa. Cefnogir hyn gan Reolwyr o bob rhan o'r gwasanaeth a bydd yn golygu casglu gwybodaeth o sawl ffynhonnell i'w hystyried.
- Gweithio gyda'r rheolwyr i ddatblygu arolygon staff a dinasyddion, coladu adroddiadau o'r ymatebion a rhoi adborth i'r rheolwyr yn seiliedig ar y canfyddiadau. Defnyddir y wybodaeth hon i adnabod cyfleoedd yn y dyfodol i ddatblygu gwasanaethau i'n dinasyddion.
- Gweithio ochr yn ochr â'r rheolwr Sicrhau Ansawdd i baratoi cyfarfodydd, cymryd cofnodion a chefnogi gwiriadau Sicrwydd Ansawdd y Gwasanaethau i Oedolion.
- Trefnu a chymryd cofnodion ar gyfer cyfarfodydd a allai fod o natur sensitif, gan weithio yn unol â'r polisi a'r canllawiau cyfrinachedd, gan gynnwys cyfarfodydd rheolaidd, cyfarfodydd dan arweiniad Adnoddau Dynol a chyfarfodydd gydag asiantaethau allanol ac aelodau o'r cyhoedd.

Cefnogi'r gwaith o ddatblygu adroddiadau chwarterol a blynyddol ar gyfer y Gwasanaethau i Oedolion.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Fel yr ymgeisydd llwyddiannus bydd angen i chi feddu ar ddealltwriaeth o ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i Wasanaethau Cymdeithasol a Rheoli Cwynion yng Nghymru. Bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan gynnwys ysgrifennu adroddiadau ac ymateb, gwrando a sgiliau rhyngbersonol cryf. Bydd gennych hefyd sgiliau TG cryf ac yn gallu defnyddio pecynnau Microsoft lluosog yn hyderus gan gynnwys Outlook, Word ac Excel.

Bydd y rôl yn cynnwys delio ag aelodau o'r cyhoedd a byddai profiad o weithio gydag oedolion sy'n agored i niwed neu reoli cwynion yn ddymunol. Bydd hyn drwy e-bost, ar y ffôn ac ar adegau, wyneb yn wyneb. Byddwch yn rhoi sylw da i fanylion, yn gallu gweithio o fewn terfynau amser tynn; rheoli eich amser eich hun yn effeithiol a meddu ar ddealltwriaeth o brosesau cynllunio i lywio datblygiad a newid sefydliadol.

Byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm profiadol o fewn y Gwasanaethau i Oedolion a fydd wrth law i roi cyngor a chymorth i chi i sicrhau bod eich rôl gyda ni yn llwyddiant.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r rôl yn amodol ar wiriad Datgelu a Gwahardd safonol. Mae’r swydd wag hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03144



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cwynion a Chyfathrebu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cyfathrebu effeithiol, gan ymateb i gwynion ac ymholiadau ar gyfer y Tîm Ansawdd ac Apeliadau. **Ynglŷn â'r Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gallu gweithio i derfynau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i bobl sengl sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Mae ein gwasanaethau'n rhedeg 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn ac oherwydd newidiadau diweddar mae ein gwasanaeth wedi ehangu i ddiwallu anghenion y bobl sy'n defnyddio ein darpariaeth. **Am Y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **About The Service** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i bobl sengl sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Mae ein gwasanaethau'n rhedeg 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn ac oherwydd newidiadau diweddar mae ein gwasanaeth wedi ehangu i ddiwallu anghenion y bobl sy'n defnyddio ein darpariaeth. **About...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** **Am Y Swydd** Bydd y swydd hon yn allweddol wrth yrru ein Strategaeth Ymgysylltu Cymunedol yn ei blaen, strategaeth sy'n ceisio gwneud Prevent yn fusnes i bawb, gan dargedu ein hymgysylltiad â thrawstoriad eang o'n cymunedau i sicrhau bod pobl yn gallu sylwi ar arwyddion radicaleiddio a gwybod sut i wneud atgyfeiriad. Tasg ganolog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Adran Refeniw yn gyfrifol am weinyddu a chasglu'r Dreth Gyngor, Ardrethi Annomestig a Chyfrifon i’w Derbyn yng Nghaerdydd, sy'n helpu i gefnogi gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol y Cyngor yn ariannol. Cyfanswm gwerth y rhain yw mwy na £700 miliwn y flwyddyn. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i sicrhau bod staff yn gallu cyflawni eu...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Trades Union Congress Full time

    Swyddog Cefnogi Polisi a Chyfathrebu£40,892 (pro rata) y flwyddynContract penodol hyd at 31 Mawrth 2025Llawn amser, 35 awr yr wythnos (yn fodlon trafod trefniadau hyblyg)Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â brwdfrydedd i greu cynnwys cyfathrebu digidol ar gyfer TUC Cymru, gan gefnogi ein staff i gyflawni ein nodau.Gofynion y swydd:1. Bydd disgwyl i'r...

  • Swyddog Mynegai

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Integral UK Ltd Full time

    Swydd: Swyddog Cyswllt GweithleMae Integral UK Ltd yn chwilio am ymgeisydd anhygoel i ymuno 'n ein tim yn y sector cyhoeddus. Mae'n adeg gyffrous i ddechrau gyrfa gyda ni, y cwmni mwyaf sy'n tyfu gyflymaf sy'n darparu gwasanaethau peirianegol a chynnal a chadw cynhwysfawr o ansawdd uchel ar gyfer adeiladau masnachol ac adeiladau yn y sector cyhoeddus...

  • Swyddog Gweinyddol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi i ymuno â'r tîm yng Nghastell Caerdydd fel swyddog gweinyddol. Mae Castell Caerdydd, sy’n croesawu miloedd o bobl bob blwyddyn, yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Gweinyddol yn cynnig gwasanaeth cymorth busnes a gweinyddol effeithiol...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Mae'r rôl hwn yn gyfle i chi weithio fel Swyddog Rheoli Cwsmer i Network Rail, gan weithio fel rhyngwyneb allweddol ac arbenigwr gyda'r cwsmer ar gyfer pob mater cytundebol. Byddwch yn datblygu ac yn cynnal perthynas waith effeithiol gyda'r cwsmer i gyflawni amcanion busnes Network Rail a sicrhau'r incwm mwyaf posibl gan gwsmeriaid drwy drefniadau...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Mae'r rôl hwn yn gyfle i chi weithio fel Swyddog Rheoli Cwsmer i Network Rail, gan weithio fel rhyngwyneb allweddol ac arbenigwr gyda'r cwsmer ar gyfer pob mater cytundebol. Byddwch yn datblygu ac yn cynnal perthynas waith effeithiol gyda'r cwsmer i gyflawni amcanion busnes Network Rail a sicrhau'r incwm mwyaf posibl gan gwsmeriaid drwy drefniadau...

  • Grants Officer

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Community Foundation Wales Full time

    Job description ✨ Join Our Team at Community Foundation Wales as a Grants Officer! ✨ Are you passionate about making a positive impact in communities across Wales? Community Foundation Wales is looking for a dedicated Grants Officer to join our dynamic team! ✨ About Us: At Community Foundation Wales, we are committed to supporting local initiatives...

  • Swyddog Pensiynau

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), ac yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd. Mae gan y Gronfa 42 o gyflogwyr cyfranogol a thros 45,000 o aelodau cyfredol, gohiriedig a rhai sy’n bensiynwyr. Ein nod yw darparu gwasanaeth i'n haelodau sy’n gywir ac sy'n canolbwyntio ar...

  • Swyddog Tenantiaeth

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm Rheoli Tenantiaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bwrw ati i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu les, yn cynnig cyngor ac arweiniad i denantiaid a lesddeiliaid ac yn rhoi camau gorfodi ar waith pan fo angen. **Am Y...

  • Swyddog Cymorth Busnes

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Mae Addewid Caerdydd yn chwilio am...

  • Swyddog Gorfodi Sifil

    2 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae dwy rôl barhaol ar gyfer Swyddog Gorfodi Sifil Gradd 5 wedi codi yn y Tîm Gorfodi Parcio Sifil. **Am Y Swydd** Bydd deiliad/deiliaid y swydd yn gyfrifol am y canlynol: - Patrolio’r ardaloedd lle mae mannau parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd ar waith ar draws y ddinas, yn unol â’r Strategaeth Orfodi a’r Rota Waith. - Nodi...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...

  • Swyddog Llety a Reolir

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael yng Nghyngor Caerdydd ac rydym yn recriwtio ar gyfer Swyddog Cymorth i helpu i reoli Systemau Trafnidiaeth Deallus. Defnyddir y rhain fwyfwy i ddatrys problemau trafnidiaeth heddiw. Mae’r systemau hyn yn defnyddio gwybodaeth a thechnoleg gyfathrebu newydd i sicrhau bod y rhwydwaith trafnidiaeth mor...