Swyddog Hyb
7 months ago
**Am Y Gwasanaeth**
Dyma gyfle cyffrous i unigolyn ymrwymedig sy’n meddu ar sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â thîm Hybiau’r De yn Hybiau Grangetown / Butetown a STAR. Mae’r hyb yn cynnig cyngor rheng flaen proffesiynol i gwsmeriaid ar y Budd-dal Tai a chynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor; Tai, gan gynnwys y Ddeddf Diwygio Lles, ac ystod eang o wasanaethau’r Cyngor, gan gynnwys y gwasanaeth llyfrgelloedd.
Rydym yn cymryd lles ein staff o ddifrif ac yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu gwych i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.
Dyma rai enghreifftiau o sut yr ydym yn ymdrechu i gyflawni hyn:
- Hawl i wyliau blynyddol hael.
- Trefniadau gweithio y gellir eu haddasu, a all gynnwys cynllun fflecsi sy'n eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi ac sy'n bodloni anghenion y gwasanaeth.
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg a dibynadwy.
- Mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu pellach i roi cyfle i chi ddatblygu eich gyrfa gyda ni.
- Mynediad at rwydweithiau cydraddoldeb cyflogeion ar gyfer cymorth, arweiniad a chymdeithasu (mae'r rhwydweithiau hyn yn cynnwys y Rhwydwaith Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig, Rhwydwaith Gofalwyr, Rhwydwaith Anabledd, Rhwydwaith LHDT a’r Rhwydwaith Menywod).
- Cyfleoedd gwaith hybrid.
- Mynediad at gymorth lles gweithwyr cynhwysfawr.
Mynediad at y Llwyfan Manteision i Weithwyr MyAdvantages (sy'n cynnwys mynediad at Gynllun Beicio i'r Gwaith y Cyngor a gostyngiadau
**Am Y Swydd**
Mae'r rôl hon yn gofyn darparu cyngor proffesiynol o ansawdd uchel ar faterion Budd-dal Tai, y Dreth Gyngor, Budd-daliadau Lles, Cyngor am Arian, Diwygiadau Lles, Ymholiadau Tai, Atal Digartrefedd ac amrywiaeth eang o wasanaethau cyffredinol y Cyngor, gan ddatrys ymholiadau ar y cam cyswllt cyntaf lle bynnag y bo’n bosibl.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth Llyfrgell llawn, cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu digwyddiadau Hyb / Llyfrgell a chydweithio â sefydliadau partner amrywiol i ddarparu gwasanaeth cyfannol.
Bydd gennych brofiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, y gallu i weithio’n dda fel aelod o dîm, a bydd gennych agwedd hyblyg.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych agwedd gadarnhaol at heriau newydd a byddwch yn barod i addasu i newid yn gyflym.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a TG da a byddwch yn gallu datrys anghydfod mewn modd cadarnhaol ac adeiladol.
Byddwch yn gweithio’n dda mewn tîm a bydd gofyn i chi fod yn hyblyg, yn enwedig mewn perthynas â lleoliad eich gwaith, a all amrywio.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol o fantais.
Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu
Bydd angen gweithio ar ddydd Sadwrn a chyda’r nos yn ôl rota.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO03934
-
Swyddog Hyb
7 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...
-
Uwch Swyddog Hyb
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ymuno â'n Timau Hybiau’r Dwyrain (Hyb Llaneirwg, Hyb Llanrhymni, Hyb Partneriaeth Tredelerch & Hyb Powerhouse Llanedern) Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gefnogi cwsmeriaid sy’n defnyddio Hybiau a Llyfrgelloedd. Bydd y...
-
Swyddog Hyb
7 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Dyma gyfle cyffrous i unigolyn ymrwymedig sy’n meddu ar sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â thîm Hybiau’r De yn Hybiau Grangetown / Butetown a STAR. Mae’r hyb yn cynnig cyngor rheng flaen proffesiynol i gwsmeriaid ar y Budd-dal Tai a chynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor; Tai, gan gynnwys y Ddeddf Diwygio Lles, ac ystod eang...
-
Swyddog Hyb
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...
-
Uwch Weithiwr Cymorth Ymyriadau
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous yn ein Tîm y Tu Allan i Oriau newydd. **Y buddion a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod...