Swyddog Hyb

6 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr ymuno â ni yn un o'n timau ffyniannus.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolion ymrwymedig, gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych i ymuno â’n Tîm Hybiau ledled y ddinas.

Mae ein tîm yn cefnogi cwsmeriaid sy'n defnyddio ein Hybiau a’n Llyfrgelloedd i ddatrys ymholiadau cyngor. Ymfalchïwn yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau Hyb a Llyfrgell sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a darparu gwybodaeth.

Mae'r rôl hon yn gofyn darparu cyngor proffesiynol o ansawdd uchel ar faterion Budd-dal Tai, y Dreth Gyngor, Budd-daliadau Lles, Cyngor am Arian, Diwygiadau Lles, Ymholiadau Tai, Atal Digartrefedd ac amrywiaeth eang o wasanaethau cyffredinol y Cyngor, gan ddatrys ymholiadau ar y cam cyswllt cyntaf lle bynnag y bo’n bosibl.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth Llyfrgell llawn, cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu digwyddiadau Hyb/Llyfrgell a chydweithio â sefydliadau partner amrywiol i ddarparu gwasanaeth cyfannol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gan weithio’n dda mewn tîm, a byddwch yn meddu ar agwedd hyblyg.

Bydd gennych agwedd gadarnhaol at heriau newydd ac yn barod i addasu i newid yn gyflym.

**Gwybodaeth Ychwanegol**- Mae’r swydd hon yn un rhan amser am 18.5 awr yr wythnos. Y cyflog pro-rata yw £11,946 y flwyddyn.
- Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn arbennig Cymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol, o fantais.

Bydd gofyn i chi weithio ar y penwythnos a gyda'r hwyr ar sail rota ac efallai bydd lleoliad y gwaith yn amrywio.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03599


  • Uwch Swyddog Hyb

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ymuno â'n Timau Hybiau’r Dwyrain (Hyb Llaneirwg, Hyb Llanrhymni, Hyb Partneriaeth Tredelerch & Hyb Powerhouse Llanedern) Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gefnogi cwsmeriaid sy’n defnyddio Hybiau a Llyfrgelloedd. Bydd y...

  • Swyddog Hyb

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Dyma gyfle cyffrous i unigolyn ymrwymedig sy’n meddu ar sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â thîm Hybiau’r De yn Hybiau Grangetown / Butetown a STAR. Mae’r hyb yn cynnig cyngor rheng flaen proffesiynol i gwsmeriaid ar y Budd-dal Tai a chynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor; Tai, gan gynnwys y Ddeddf Diwygio Lles, ac ystod eang...

  • Swyddog Hyb

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...

  • Swyddog Hyb

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Dyma gyfle cyffrous i unigolyn ymrwymedig sy’n meddu ar sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â thîm Hybiau’r De yn Hybiau Grangetown / Butetown a STAR. Mae’r hyb yn cynnig cyngor rheng flaen proffesiynol i gwsmeriaid ar y Budd-dal Tai a chynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor; Tai, gan gynnwys y Ddeddf Diwygio Lles, ac ystod eang...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio Swyddog Adolygu Annibynnol/Cadeirydd Cynhadledd Amddiffyn Plant profiadol a pharhaol i ymuno â'n gwasanaethau sy’n tyfu gennym ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc.** Byddwch yn ymuno â thîm deinamig a sefydledig i barhau â'r gwaith da yn y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol. Bydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous yn ein Tîm y Tu Allan i Oriau newydd. **Y buddion a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod...