Tiwtor/asesydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Clinigol
3 weeks ago
**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
**Y r**ô**l**:
Darparu hyfforddiant a gwasanaeth asesu o’r radd flaenaf i ddysgwyr yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Gall rhaglenni gynnwys Dysgu Seiliedig ar Waith, Prosiectau a ariennir gan Gyllid Ewropeaidd, rhaglenni pwrpasol a gweithdai.
Meddu ar wybodaeth gyfredol o’r sector/diwydiant ac ymgymryd â dyletswyddau i safon uchel iawn bob amser.
Defnyddio ymagwedd broffesiynol wrth weithio gyda dysgwyr a chyflogwyr, gan greu amgylchedd dysgu cadarnhaol o ansawdd uchel, er mwyn galluogi dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn.
- Amser Llawn
- Parhaol
- £26,621 - £29,297 Per Annum
- Llys Jiwbili, SA5 4HB
**Cyfrifoldebau Allweddol**:
- Cynllunio, paratoi ac addysgu ar draws amrywiaeth o gyrsiau gan sicrhau bod cynlluniau/cofnodion gwaith ac amserlenni aseiniadau yn briodol i gynnwys y maes llafur a safonau'r corff dyfarnu.
- Cynllunio a chyflwyno hyd at 12 awr o hyfforddfiant yr wythnos i ddysgwyr, yn ôl yr angen (pro rata ar gyfer staff ffracsiynol).
- Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau addysgu yn cael eu cynllunio yn ogystal â bod yn hygyrch i ateb anghenion amrywiol yr holl ddysgwyr, a bod themâu trawsbynciol (megis ADCDF, Ethos Cymreig, Sgiliau Hanfodol, Cyflogadwyedd) yn cael eu gwreiddio a’u hasesu yn effeithiol.
- Asesu a monitro cynnydd dysgwyr, gan gynnwys gosod targedau, cadw cofnodion o waith a chyflawniad.
**Amdanoch chi**:
- Cymhwyster QCF Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Clinigol.
- Cymhwyster Asesu A1 a / neu gymhwyster Gwirwyr Mewnol V1 a Chymhwyster TAQA (neu’r cyfwerth), neu barodrwydd i weithio tuag at ennill y cymhwyster
- Profiad a chymhwysedd galwedigaethol i Aseswch Lefel 1- 3 neu gyfwerth
- Lefel 2 (gradd A-C) neu gymhwyster mathemateg a Saesneg cyfwerth.
**Buddion**:
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- Cynllun gweithio hyblyg
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
-
Gweithiwr Cefnogi
1 month ago
Swansea, United Kingdom Accomplish Full timePackage Description **SWYDD RÔL**: Gweithiwr Cefnogi **ORIAU**: 37.5 Oriau - Gellir ystyried banc **SHIFTS**: Sifftiau Cylchdroi **LLEOLIAD**: Abertawe SA8 **CYFLOG**: £12.00 - 12.70 Yn dibynnu ar gymwysterau **Siaradwyr Cymraeg Dymunol** Wedi'i leoli yn Abertawe, Pontardawe mae ein gwasanaeth byw â chymorth newydd yn cefnogi hyd at 5 o unigolion ag...
-
Gweithiwr Cefnogi Gwasanaeth
4 weeks ago
Swansea, United Kingdom British Red Cross Full timeAbout The Role Gweithiwr Cefnogi Gwasanaeth - Prosiect Aros yn Iach - AbertaweLleoliad: Yn cwmpasu ardal Abertawe o'n Swyddfa yn Abertawe, yn y cartref ac yn y gymuned sy'n cwmpasu'r ardal gyfagosContract: Cyfnod penodol i ain Mawrth Oriau: awr llawn amser yr wythnos, am i pm hyblyg gyda rhai penwythnosau a gwyliau banc ar sail rota.Cyflog: £, y...
-
Operational Delivery Manager
5 days ago
Swansea, United Kingdom UK Civil Service Full timeJob summaryPlease refer to Job DescriptionJob descriptionAbout the roleThe Operational Directorate is primarily responsible for delivering the IMA�s monitoring function byGathering timely, relevant and credible data and information from a wide range of sources.Adopting analytical techniques in order to identify potential systemic issues.Using insights...
-
Anogwr Cyflogadwyedd
4 weeks ago
Swansea, United Kingdom Careers Wales Full timeYdych chi’n edrych am swydd lle rydych yn ysbrydoli a chynorthwyo pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? A oes gennych sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol? Os felly, rydym yn edrych am gyfathrebwyr hyblyg ac effeithiol sydd yr un mor gartrefol yn cyfathrebu â chwsmeriaid ar lafar neu wyneb-yn-wyneb ag ydynt yn defnyddio cyfathrebu digidol (dros y...