Swyddog Diogelwch

2 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Cynnig presenoldeb diogelwch i eiddo sy'n berchen i'r Cyngor at y diben o atal lladrad, tresmasu, fandaliaeth a monitro pobl a cherbydau, i sicrhau amgylchedd diogel i'r holl ddefnyddwyr

**Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog**:Grade 2 £21,029 pa

**Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio**:Dydd Llun i ddydd Gwener. Mon 18:50 - 07:10, Thur 06:50 - 19:10 & Sun 18:50 - 07:10

**Amser tymor** 37awr/wythnos

**Prif Waith**:Atlantic Trading Estate & Alps Depot

Disgrifiad:

- Cynnig presenoldeb diogelwch corfforol, yn fewnol ac allanol, mewn eiddo sy’n berchen i’r Cyngor er mwyn atal lladrad, tân, difrod / fandaliaeth a thresmasu.
- Cyflawni patrolau rheolaidd o eiddo, yn fewnol ac allanol, yn ystod shifft a monitro offer teledu cylch cyfyng (lle mae wedi’i osod), adrodd am unrhyw achosion mewn modd amserol i’w Goruchwylydd a’r Adran Cyfleusterau.
- Sicrhau bod systemau larymau eiddo yn cael eu gosod yn unol â chyfarwyddyd ac ymateb i unrhyw larymau a gaiff eu hactifadu ac achosion o amharu ar ddiogelwch.
- Cynorthwyo ag unrhyw waith porthor a mân ddyletswyddau llafur mewn eiddo.
- Cofnodi’n gywir weithgareddau unrhyw staff, cerbydau, ymwelwyr, contractwyr ac aelodau’r cyhoedd yn ôl y gofyn.
- Rhoi egwyddorion Polisi Cyfle Cyfartal y Cyngor ar waith wrth gyflawni'r dyletswyddau uchod
- Cydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch/gweithdrefnau a pholisïau perthnasol y Cyngor a gofalu’n rhesymol am eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch eraill y gallai eich gweithrediadau/esgeulustod effeithio’n negyddol arnynt.
- Rhoi egwyddorion Polisi Amgylcheddol y Cyngor ar waith wrth gyflawni’r dyletswyddau uchod.
- Adrodd wrth y swyddog diogelu am unrhyw bryderon heb oedi.

**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o weithio mewn rôl diogelwch
- Profiad o weithio mewn amgylchedd sy’n ymwneud â gofal cwsmeriaid.
- Gwybodaeth sylfaenol o’r holl ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r Diwydiant Diogelwch
- Gwybodaeth sylfaenol o reoli gwrthdaro
- Gwybodaeth sylfaenol o systemau rheoli diogelwch electronig
- Sgiliau cyfathrebu llafar da a gallu trafod ag aelodau’r cyhoedd a swyddogion cleient.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig da a’r gallu i lunio adroddiadau cryno a chywir
- Gallu cyflawni dyletswyddau codi a chario a llafurio’n gorfforol.
- Trwydded SIA
- Rhaid gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun a chyflawni dyletswyddau’n effeithiol.
- Cadarnhaol a hunan-gymhellol gyda’r gallu i fod yn hyblyg ac ymatebol i newidiadau mewn blaenoriaethau a galw.
- Gallu gyrru/teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel sy'n berthnasol.

Parod i weithio oriau afreolaidd.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Angen Gwiriad DBS: N/A

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Steve Ackerman 07989 446726

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: EHS00480


  • Swyddog Diogelwch

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Cynnig presenoldeb diogelwch i eiddo sy'n berchen i'r Cyngor at y diben o atal lladrad, tresmasu, fandaliaeth a monitro pobl a cherbydau, i sicrhau amgylchedd diogel i'r holl ddefnyddwyr **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog**:Grade 2 £21,029 pa **Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio**:Dydd Llun i ddydd Gwener. **Amser tymor**...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Darparu gwasanaeth glanhau ar gyfer cleientiaid glanhau adeiladau **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog**:Grade 1 £12.00 ya **Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio**:Dydd Llun i ddydd Gwener. **Amser tymor** 11.25awr/wythnos (38 wythnos). **Egwyl** 10.00 awr/wythnos (5 wythnos). **Prif Waith**:Rhws Primary **Disgrifiad**: Cynorthwyo i roi...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg sy’n cyflawni swyddogaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu. Mae gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir swydd wag yn ein Tîm Diwydiant ar hyn o bryd. Rydym yn chwilio am weithiwr Iechyd yr...