Ymarferydd Gofal Plant

2 weeks ago


Aberdare, United Kingdom Rhondda Cynon Taf Full time

-Math o Swydd
Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Cyfadran
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Adran
Gwasanaethau i Blant
Gradd
Gradd 7
Cyflog Penodol
£26,845 pro rata
Math o Gytundeb
Rhan-amser Parhaol
Testun yr Hysbyseb

Mae gyda ni swydd ar gael ar gyfer Ymarferydd Gofal Plant - Preswyl. Mae'r swydd yn rhan amser, 18.5 awr yr wythnos ar gytundeb parhaol. Byddwch chi'n ymuno â'r garfan yng Nghartref Bryndâr i Blant yng Nghwmdâr, Aberdâr.

Byddwch chi'n gweithio gyda phlant a phobl ifainc agored i niwed rhwng 7 ac 18 oed, mewn amgylchedd sy'n ystyriol o drawma, trwy roi cymorth i gynnal trefn arferol mewn amgylchedd meithringar, a chynorthwyo pobl ifainc i ddatblygu sgiliau cymdeithasol yn y gymuned leol ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau.

O'ch penodi, byddwch chi'n atebol i'r Rheolwr Cofrestredig am:

- Trefniadau cynllun gofal o ddydd-i-ddydd y person ifanc
- Cyfrannu'n gadarnhaol at ddarparu gwasanaeth o safon
- Gweithio'n rhan o garfan
- Bod yn frwdfrydig, gofalgar, cyfeillgar a dymunol a chanolbwyntio ar y plentyn.
- Bod yn gyfrifol am eich datblygiad a'ch dysgu eich hunan
- Gwneud dyletswyddau domestig
- Cyfrannu at y gweithgareddau ymarferol sy'n hanfodol i gynnal y cartref
- Hyrwyddo lles preswylwyr drwy annog ffordd iach o fyw, cyraeddiadau addysgol a gweithgareddau hamdden ysgogol
- Bydd gofyn ichi fod yn barod i fod yn hyblyg gan y bydd rhaid gweithio rhywfaint o waith sifft, penwythnosau a gwyliau banc

Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar (neu fod yn barod i ddilyn cwrs) cymhwyster Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan a FfCCh Lefel 3, Diploma Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai o'ch penodiad neu yn dilyn cyflawni Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r swydd, ffoniwch Carol Booth, Rheolwr Cofrestredig ar 01685 874365.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

**Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.**

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Oriau gwaith
18.5
Lleoliad Gwaith
Bryndar Children's Home
Cherry Drive
Cwmdare Aberdare
Lleoliad Gwaith
CF44 8RJ
Dyddiad Cyfweliad Arfaethedig Dyddiad Cyfweliad Arfaethedig - ~~DAY~~ Dyddiad Cyfweliad Arfaethedig - mis Dyddiad Cyfweliad Arfaethedig - blwyddyn
15 Mawrth 2023



  • Aberdare, United Kingdom Rhondda Cynon Taf Full time

    -Math o Swydd Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc Cyfadran Gwasanaethau Cymunedol i Blant Adran Gwasanaethau i Blant Gradd Gradd 6 Cyflog Penodol £24,054 pro rata Math o Gytundeb Rhan-amser Parhaol Testun yr Hysbyseb Mae gyda ni swydd ar gael ar gyfer Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos. Mae'r swydd yn rhan amser, 18 awr yr wythnos ar gytundeb...