Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos

3 weeks ago


Aberdare, United Kingdom Rhondda Cynon Taf Full time

-Math o Swydd
Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Cyfadran
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Adran
Gwasanaethau i Blant
Gradd
Gradd 6
Cyflog Penodol
£24,054 pro rata
Math o Gytundeb
Rhan-amser Parhaol
Testun yr Hysbyseb

Mae gyda ni swydd ar gael ar gyfer Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos. Mae'r swydd yn rhan amser, 18 awr yr wythnos ar gytundeb parhaol. Byddwch chi'n ymuno â'r garfan yng Nghartref Bryndâr i Blant yng Nghwmdâr, Aberdâr.

Byddwch chi'n gweithio gyda phlant a phobl ifainc agored i niwed rhwng 7 ac 18 oed, mewn amgylchedd sy'n ystyriol o drawma, trwy roi cymorth i gynnal trefn arferol mewn amgylchedd meithringar, a chynorthwyo pobl ifainc i ddatblygu sgiliau cymdeithasol yn y gymuned leol ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau.

O'ch penodi, byddwch chi'n atebol i'r Rheolwr Cofrestredig am:

- Trefniadau cynllun gofal o ddydd-i-ddydd y person ifanc.
- Cyfrannu'n gadarnhaol at ddarparu gwasanaeth o safon.
- Gweithio'n rhan o garfan.
- Bod yn frwdfrydig, gofalgar, cyfeillgar a dymunol a chanolbwyntio ar y plentyn.
- Bod yn gyfrifol am eich datblygiad a'ch dysgu eich hunan.
- Gwneud dyletswyddau domestig.
- Hyrwyddo lles preswylwyr drwy annog ffordd iach o fyw, cyraeddiadau addysgol a gweithgareddau hamdden ysgogol.
- Rhaid i chi fod yn barod i fod yn hyblyg gan y bydd y rôl yn cynnwys penwythnosau a Gwyliau'r Banc.
- Yr oriau gweithio fydd 10.15pm i 7.15am gydag opsiwn o weithio oriau ychwanegol.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar (neu fod yn barod i ddilyn cwrs) cymhwyster Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan a FfCCh Lefel 3, Diploma Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai o'ch penodiad neu yn dilyn cyflawni Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r swydd, ffoniwch Carol Booth, Rheolwr Cofrestredig ar (01685) 874365.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

**Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.**

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Oriau gwaith
18
Lleoliad Gwaith
Bryndar Children's Home
Cherry Drive
Cwmdare Aberdare
Lleoliad Gwaith
CF44 8RJ
Dyddiad Cyfweliad Arfaethedig Dyddiad Cyfweliad Arfaethedig - ~~DAY~~ Dyddiad Cyfweliad Arfaethedig - mis Dyddiad Cyfweliad Arfaethedig - blwyddyn
14 Mawrth 2023



  • Aberdare, United Kingdom Rhondda Cynon Taf Full time

    -Math o Swydd Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc Cyfadran Gwasanaethau Cymunedol i Blant Adran Gwasanaethau i Blant Gradd Gradd 7 Cyflog Penodol £26,845 pro rata Math o Gytundeb Rhan-amser Parhaol Testun yr Hysbyseb Mae gyda ni swydd ar gael ar gyfer Ymarferydd Gofal Plant - Preswyl. Mae'r swydd yn rhan amser, 18.5 awr yr wythnos ar gytundeb...


  • Aberdare, United Kingdom Rhondda Cynon Taf Full time

    -Math o Swydd Gofal Cymdeithasol - Oedolion Cyfadran Gwasanaethau Cymunedol i Blant Adran Gwasanaethau Uniongyrchol i Oedolion Gradd Gradd 6 Cyflog Penodol £22,129 Pro Rata Math o Gytundeb Rhan-amser Parhaol Testun yr Hysbyseb 2 swydd 28 awr ar gael. Dyma gyfnod cyffrous yng Ngwasanaethau Llety'r Cyngor, wrth inni barhau i ddarparu gwasanaethau o safon...