Swyddog Gorfodi
7 months ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Rhentu Doeth Cymru yn rheoleiddio'r sector rhentu preifat yng Nghymru. Cafodd y gwasanaeth ei sefydlu ym mis Tachwedd 2015 ar ôl i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 cael ei rhoi ar waith. Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar landlordiaid eiddo rhent preifat i gofrestru ac yn gosod dyletswydd ar landlordiaid ac asiantau gosod sy'n cynnal gweithgareddau gosod neu reoli eiddo i fod wedi’u trwyddedu. Mae Rhentu Doeth Cymru yn cynnig cyngor ar y gofynion hyn; yn cynnig hyfforddiant i landlordiaid ac asiantau gosod; yn prosesu ceisiadau trwyddedau; ac yn sicrhau bod trwyddedigion yn cadw at amodau'r drwydded. Mae peidio â chydymffurfio â gofynion y Ddeddf yn drosedd ac mae Rhentu Doeth Cymru yn cymryd camau gorfodi am beidio â chydymffurfio pan fo angen. Mae’r gwasanaeth yn elwa o systemau gwe, technoleg ffôn canolfan gyswllt, a threfniadau partneriaeth gyda’r 22 awdurdod ledled Cymru.
**Am Y Swydd**
Mae’r rôl yn hanfodol i lwyddiant Rhentu Doeth Cymru ac yn gyfle unigryw i chi fod yn rhan o’r gwaith o wella safonau yn y sector rhent preifat, o fewn tîm llawn cymhelliant a phroffesiynol. Y rôl yw sicrhau bod landlordiaid ac asiantau yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth drwy ddarparu cyngor a hyrwyddo cydymffurfiaeth; ymchwilio i gwynion a phryderon rheoleiddio yn seiliedig ar y risg fwyaf; a'r defnydd effeithlon ac effeithiol o ddulliau gorfodi yn unol â gweithdrefnau sefydledig. Mae ein pwerau gorfodi yn cynnwys cyhoeddi hysbysiadau cyfreithiol, erlyn a Gorchmynion Atal Rhent ac Ad-dalu Rhent. Gallwn wrthod ceisiadau am drwydded gan y rhai nad ystyrir eu bod yn berson 'addas a phriodol' i ddal trwydded; gosod amodau trwydded pwrpasol; a diddymu trwyddedau lle mae amodau'n cael eu torri. Bydd gofyn i chi roi tystiolaeth yn y llys a/neu'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl.
Mae’r rôl yn cynnwys gweithio’n agos gyda 22 Awdurdod Lleol Cymru ac asiantaethau mewnol ac allanol eraill.
Gall ymgeiswyr llwyddiannus gael eu penodi naill ai i:
- y Tîm Gorfodi sy'n gyfrifol am ymchwilio i landlordiaid nad ydynt yn cofrestru, a landlordiaid ac asiantau gosod eiddo sy'n gwneud gwaith rheoli eiddo heb drwydded; neu
- y Tîm Cydymffurfio a Rheoleiddio sy'n gyfrifol am gymeradwyo neu wrthod ceisiadau am drwydded, ymchwilio i achosion o dorri amodau, diddymu trwyddedau ac ymateb i apeliadau i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig sydd â dull proffesiynol. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn:
- ymrwymedig i godi safonau yn y sector tai rhent preifat
- meddu ar gymwysterau priodol, ac yn brofiadol mewn trwyddedu/gorfodi awdurdodau lleol
- rheoli llwyth gwaith heriol a bodloni terfynau amser tynn o dan bwysau
- rhoi sylw i fanylion; cynhyrchu gwaith safonau uchel yn gyson; a chynnal cofnodion achos cynhwysfawr
- ymdrin yn bwyllog ag unigolion / pynciau anodd
- â meddylfryd ymholi ac ymchwiliol
- deall gweithdrefnau a thechnegau ymchwiliol ac yn ddelfrydol ymgyfreitha
- gallu gweithio’n agos ac ar y cyd ag ystod o sefydliadau allanol
- cymryd cyfrifoldeb a pherchnogaeth dros ragoriaeth a chyflawni'r canlyniadau gorau
- croesawu newid a chyfleoedd newydd yn gadarnhaol, a bod yn hyblyg ac yn addasadwy
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Er y bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio mewn swyddfa (gan weithio gartref o bosibl), bydd angen iddynt deithio ledled Cymru. Mae trwydded yrru ddilys lawn yn un o ofynion hanfodol y swyddi. Gallai’r angen i weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol fod yn rhan o’r swydd.
Mae Polisi Amser Hyblyg y Cyngor (Fflecsi) yn berthnasol i'r swydd, yn amodol ar anghenion busnes ac wrth ystyried patrymau gwaith tîm presennol.
Mae’r swyddi hyn yn addas i’w rhannu. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn roi pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy’r post.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
**Wrth lenwi'r ffurflen gais, mae'n hanfodol eich bod yn cwblhau'r rhan Gwybodaeth Gefnogol sy'n dangos sut rydych yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol sydd wedi'u cynnwys gyda’r fanyleb person. Bydd methu â gwneud hyn yn golygu na fydd eich cais yn cael ei roi ar y rhestr fer.**
Job Reference: RES01243
-
Swyddog Gorfodi Traffig Yn Symud
6 hours ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y tîm Gorfodi Traffig sy’n Symud ar gyfer swyddog Gorfodi Traffig sy’n Symud. **Am Y Swydd** Prif swyddogaeth y swydd yw gweithredu offer camerâu gorfodi, monitro a chofnodi yn y swyddfa parcio a cherbydau gorfodi symudol, er mwyn gorfodi rheoliadau parcio a thraffig perthnasol, i wneud...
-
Swyddog Gorfodi Traffig Yn Symud
7 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y tîm Gorfodi Traffig sy’n Symud ar gyfer swyddog Gorfodi Traffig sy’n Symud. **Am Y Swydd** Prif swyddogaeth y swydd yw gweithredu offer camerâu gorfodi, monitro a chofnodi yn y swyddfa parcio a cherbydau gorfodi symudol, er mwyn gorfodi rheoliadau parcio a thraffig perthnasol, i wneud...
-
Swyddog Tenantiaeth
7 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm Rheoli Tenantiaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bwrw ati i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu les, yn cynnig cyngor ac arweiniad i denantiaid a lesddeiliaid ac yn rhoi camau gorfodi ar waith pan fo angen. **Am Y...
-
Swyddog Tenantiaeth
7 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth hygyrch o ansawdd uchel. Mae swydd wag ar gael i Swyddog Tenantiaeth yn y Gwasanaethau Landlord o fewn Tai a Chymunedau. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio mewn tîm prysur o swyddogion tenantiaeth. Byddwch yn gweithio’n rhagweithiol i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid...
-
Rheolwr Gorfodi Dyledion
7 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio darparu gwasanaeth cyllid tai hygyrch o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd mae gan y Gwasanaeth swydd wag lawn amser ar gyfer Swyddog Rheoli Dyledion Gradd 4 yn y Tîm Cyllid Tai. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am adennill dyledion gan gynnwys gordaliadau budd-dal tai, dyledion...
-
Swyddog Gweinyddol
7 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae gan y Cyngor y pwerau dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i gyhoeddi Hysbysiadau Tâl Cosb i gerbydau y canfyddir eu bod yn torri'r Ddeddf hon. Mae dyletswydd ar y Cyngor i sicrhau bod yr holl Hysbysiadau'n cael eu prosesu'n gywir ac yn unol â Deddfwriaeth. Y tîm hwn sy'n gyfrifol am y gwasanaeth hwn. **Am Y Swydd** Bydd deiliad y swydd...
-
Swyddog Cymorth
7 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Bydd deiliad y swydd yn rhan o'r tîm Cyllid o fewn Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd. Mae'r tîm Cyllid yn cefnogi Priffyrdd, Trafnidiaeth a Gorfodi Parcio Sifil, **Am Y Swydd** Bod yn atebol i’r Arweinydd Tîm/Is-adran am: Monitro, dyrannu ac adrodd ar weithgaredd ariannol Trafnidiaeth, Priffyrdd a GPS. Rheoli anghenion...