Swyddog Cymorth
6 months ago
**Am Y Gwasanaeth**
Bydd deiliad y swydd yn rhan o'r tîm Cyllid o fewn Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd.
Mae'r tîm Cyllid yn cefnogi Priffyrdd, Trafnidiaeth a Gorfodi Parcio Sifil,
**Am Y Swydd**
Bod yn atebol i’r Arweinydd Tîm/Is-adran am:
Monitro, dyrannu ac adrodd ar weithgaredd ariannol Trafnidiaeth, Priffyrdd a GPS.
Rheoli anghenion gweinyddol cyffredinol Cyllid CTA, gan gynnwys codi archebion prynu, biliau allanol a thalu anfonebau, darparu cyngor a chefnogaeth ar weithdrefnau a rheoliadau ariannol y Cyngor.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnig tystiolaeth ei fod wedi gweithio gyda systemau ariannol (SAP yn ddelfrydol) a dealltwriaeth o reolaethau a gweithdrefnau ariannol.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Byddwch yn drefnus ac yn frwdfrydig gydag agwedd o allu gwneud ac yn cael eich gyrru i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, gan arddangos y cymwyseddau ymddygiadol craidd sy'n cefnogi gwerthoedd y Cyngor.
Bydd gennych y gallu i ddadansoddi a byddwch yn drefnus gyda llygad craff am fanylion.
Bydd gennych y gallu i holi gwybodaeth, nodi anghysondebau a bod yn rhagweithiol wrth gael atebion posibl.
Byddwch yn hyderus gyda phobl ac mae gennych ddawn ar gyfer dysgu.
Byddwch yn gyfforddus yn gyrru gwelliannau ac yn defnyddio technoleg i hwyluso hyn.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae datblygu parhaus yn cael ei gydnabod gan y Cyngor fel dull hanfodol er mwyn cynnal safonau uchel o ddarpariaeth gwasanaeth yn ogystal â chyfranogiad cyflogeion.
Cyflog gydag adolygiadau cyflog blynyddol a dilyniant cynyddrannol. Ystod o fanteision i wella’r pecyn cyflog cyffredinol gan gynnwys amser fflecsi, hawl awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Lywodraeth Leol, fel sy'n briodol. Byddwch hefyd yn gallu manteisio ar becyn gwyliau blynyddol helaeth ynghyd â manteision eraill.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Pauline Jefferies ar:
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PLA00364
-
Swyddog Cymorth Trawsnewid Digidol
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau TG rhagorol i ymuno â'r Tîm Trawsnewid Digidol fel Swyddog Cymorth Trawsnewid Digidol. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Cymorth Trawsnewid Digidol yn gyfrifol am oruchwylio tîm o Swyddogion Cymorth Systemau sy'n gyfrifol am ddatblygu a rheoli technolegau newydd yn...
-
Swyddog Cymorth Busnes
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Mae Addewid Caerdydd yn chwilio am...
-
Swyddog Cymorth Gweinyddol
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Bryn y Deryn a Chanolfan Carnegie yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) CA4 ar gyfer 90 o ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol, cymdeithasol ac iechyd meddwl. Rydym yn edrych i benodi Swyddog Cymorth Gweinyddol i'n tîm positif presennol. **Am Y Swydd** Trefnu a goruchwylio systemau gweinyddol yn yr ysgol. Cyfrannu at...
-
Swyddog Cymorth Busnes
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cymorth Busnes Parhaol llawn-amser (37 awr yr wythnos) yn yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. **Mae’r cyflog hwn yn destun yr Ychwanegiad Cyflog Byw sy’n codi’r gyfradd gyflog sylfaenol i £12.00 yr awr. Bydd yr ychwanegiad yn cael ei adolygu bob mis...
-
Swyddog Cymorth Busnes
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yn ymgorffori dwy adran Gwasanaethau Oedolion a Thai a Chymunedau ac mae'n cynnwys llawer o wasanaethau rheng flaen pwysig y cyngor. Mae'r tîm Gwella Gwasanaethau a ffurfiwyd yn ddiweddar yn ymroddedig i ddatblygu arferion gwaith o fewn y gyfarwyddiaeth ac yn rhoi cymorth i'w timau...
-
Swyddog Cymorth Busnes
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n tîm i ddarparu cymorth busnes o ansawdd uchel i Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru. Mae tîm canolog Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn darparu cymorth busnes a galluogi i fabwysiadu ledled Cymru. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm cenedlaethol bach a'i...
-
Swyddog Gweinyddol
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi i ymuno â'r tîm yng Nghastell Caerdydd fel swyddog gweinyddol. Mae Castell Caerdydd, sy’n croesawu miloedd o bobl bob blwyddyn, yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Gweinyddol yn cynnig gwasanaeth cymorth busnes a gweinyddol effeithiol...
-
Swyddog Arweiniol
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi ar gyfer Swyddog Arweiniol, yn gweithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu. **Am Y Swydd** Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae’n allweddol o ran cynllunio a chyflawni prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth technegol ac AutoCad...
-
Uwch Swyddog Llety Wedi'i Reoli
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...
-
Swyddog Cymorth Gweinyddol
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Rheoli Adeiladu yn ddarparwr gwasanaeth cyhoeddus deinamig ac amrywiol sy'n arbenigo mewn Rheoliadau Adeiladu a diogelwch y cyhoedd yn bennaf drwy Ddeddf Adeiladu 1985. Fel aelod gweithgar o LABC Services, mae Rheoli Adeiladu Caerdydd hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau lleol a chenedlaethol ac awdurdodau lleol ledled...
-
Swyddog Cymorth y Gwasanaeth Cynhwysiant
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Cymorth y Gwasanaeth Cynhwysiant, yn y Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg. Bydd y tîm newydd hwn yn gyfrifol am gyflawni ystod o swyddogaethau cymorth busnes ar gyfer y gwahanol dimau o fewn y Gwasanaeth Cynhwysiant. Mae'r Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg yn cynnwys amrywiaeth o wasanaethau sy'n...
-
Uwch Swyddog Llety â Chymorth
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**YNGLŶN Â'R GWASANAETH** Mae gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol sy'n darparu llety, cyngor a chymorth i bobl sengl agored i niwed sy'n wynebu digartrefedd ac sydd ag ystod o anghenion cymorth. Mae hyn yn cael ei ddarparu trwy nifer o safleoedd ledled y ddinas. Trwy weithio ar y cyd â gwasanaethau tai a MDT...
-
Swyddog Llety Wedi'i Reoli
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...
-
Swyddog Cefnogi Busnes X3
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro yn darparu hyfforddiant a gweithgareddau i 190 o ysgolion a lleoliadau sy'n gweithio gyda thua 7000 o blant yr wythnos. Mae ein tîm yn cynnwys athrawon brwdfrydig a medrus, ac yn cael cymorth gan ein tîm cymorth busnes sydd wedi'i leoli yng nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd. Rydym yn...
-
Swyddog Llety â Chymorth
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i bobl sengl sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Mae ein gwasanaethau'n rhedeg 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn ac oherwydd newidiadau diweddar mae ein gwasanaeth wedi ehangu i ddiwallu anghenion y bobl sy'n defnyddio ein darpariaeth. **Am Y...
-
Swyddog Cymorth Byw Yn y Gymuned
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Helpu i hyrwyddo a rheoli'r Hybiau Pobl Hŷn, gan roi cymorth i Reolwyr Cynllun Byw yn y Gymuned i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau'n llwyddiannus, gan ganolbwyntio'n benodol ar iechyd a lles integredig, gan alluogi mwy o gysylltiadau cymdeithasol a lleihau arwahanrwydd ar gyfer pobl hŷn o fewn y gymuned. Cefnogi’r Rheolwyr Cynllun...
-
Swyddog Llety â Chymorth Cynorthwyol
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cymorth a Llety Cynghorau Caerdydd yn darparu llety, cyngor a chefnogaeth i bobol ddiamddiffyn sengl sydd mewn tai mewn angen.** **Mae'r gwasanaeth yn rhedeg 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.** **Ers Covid-19, mae'r gwasanaeth wedi gorfod creu llawer o newidiadau.Fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu tuag at yr...
-
Swyddog Yn y Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...
-
Swyddog Mynegai
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y...
-
Dirprwy Swyddog Diogelu Data
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gyfarwyddiaeth Adnoddau yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau corfforaethol, gan wasanaethu'r cyngor cyfan, ac mae'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi'r Cyfarwyddiaethau gweithredol wrth ddarparu eu gwasanaethau. Mae'r Adran Llywodraethu Gwybodaeth wedi'i lleoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Adnoddau ac mae'n cefnogi...