Cynorthwyydd Dysgu

2 weeks ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

**Y Rôl**:
**Mae Coleg Gwyr am benodi gweithiwr cymorth Ysgolion i gyfrannu at weithrediad effeithlon ac effeithiol y rhaglen gyffrous i Ysgolion 14-16.**
- **Rhan Amser (16 awr yr wythnos)**:

- ** Amser Tymor (36 wythnos yr flywddyn)**:

- ** £7396.35 - £7681.04 y flywddyn**:

- ** Tycoch campws**

**Cyfrifoldebau Allweddol**:

- Cefnogi a mentora pobl ifanc, rhai ag ymddygiad heriol gan eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial
- Cydgysylltu â staff yr ysgol a darlithwyr y Coleg, gan gydweithio i greu amgylchedd effeithiol ar gyfer y dysgwyr

**Amdanoch chi**:

- TGAU Mathemateg a Saesneg: Gradd A - C neu gyfwerth
- Profiad o weithio gyda phobl ifanc mewn swydd debyg
- Dealltwriaeth dda o ddiogelu a chefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol hyderus, gwydn

**Buddion**:

- 28 diwrnod (pro-rata) o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- Parcio am ddim
- Grwpiau cymorth staff: menopos, LGBTQ+, amser i siarad
- Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar_

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).



  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    Byddwch yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth addysgol a phersonol i fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu a/neu gorfforol gan sicrhau bod eu hanghenion cefnogi mewn cyd-destun yn cael eu diwallu’n llwyr. Byddwch yn darparu cefnogaeth un i un neu gefnogaeth grwp o dan gyfarwyddyd y Darlithydd yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein, ac yn helpu gyda datblygu sgiliau...


  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...