Dadansoddwr Data

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dadansoddwr Data i gyfrannu at ddatblygu rheolaeth effeithiol o ran perfformiad Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd drwy wella a chynnal systemau gwybodaeth rheoli (_ChildView _Cyfiawnder Ieuenctid).

**Cyfeirnod**: PEO02690

**Swydd**: Dadansoddwr Data (Gradd 5)

**Lleoliad**: Caerdydd - Canolfan John Kane (hybrid)

**Cyflog**: £24,054 - 27,852 (gan ddibynnu ar brofiad a hyd gwasanaeth)

**Oriau**: Llawn-amser

Dyddiad cau: 22 Ebrill 2023

**Am Y Swydd**
Fel Dadansoddwr Data ar gyfer y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid byddwch mewn sefyllfa i sicrhau bod gwybodaeth ynglŷn â pherfformiad gwasanaethau yn cael ei ddarparu i dîm rheoli'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, i reolwyr strategol a gweithredol ar bob lefel ac i sefydliadau sy’n rhanddeiliaid gyda'r nod o wella a chefnogi ansawdd ein gwasanaeth. Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn bartneriaeth amlasiantaethol sydd ar flaen y gad o ran datblygu ymyriadau arloesol ar gyfer plant a phobl ifanc 10-17 oed sydd wedi troseddu neu mewn perygl o droseddu.

**Bydd y prif gyfrifoldebau fel Dadansoddwr Data yn cynnwys**:

- Darparu gwybodaeth ac adroddiadau yn ôl y gofyn gan Lywodraeth Cymru, Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Bwrdd Rheoli’r GCI, y tîm Rheoli a sefydliadau sy’n rhanddeiliaid.
- Ymateb i’r holl Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Cheisiadau Gwrthrych am Wybodaeth perthnasol o fewn terfynau amser deddfwriaethol.
- Cynnig hyfforddiant a chyngor i staff o ran defnyddio'r system rheoli achosion ac ar faterion gwybodaeth/data fel eu bod yn codi.
- Cydgysylltu â darparwyr TG/systemau o ran unrhyw anawsterau sy'n effeithio ar adrodd ar ddata

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych** Rydyn ni’n chwilio am berson sydd â**:

- Gwybodaeth ymarferol o ddefnyddio meddalwedd MS Windows neu debyg
- Profiad o ddadansoddi, gwerthuso ac ymateb i wybodaeth rheoli mewn cyd-destun gwasanaeth cwsmeriaid
- Profiad o ddefnyddio rhaglenni cronfeydd data a thaenlenni
- Byddai dealltwriaeth o’r system cyfiawnder troseddol o ran plant a phobl ifanc yn ogystal â dealltwriaeth uwch o'r fethodoleg Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau (ASG) yn fantais amlwg.

**Bydd angen i chi fod â gallu, sgiliau a gwybodaeth ynghylch**:

- Teclynnau adrodd megis Power BI neu SQL.
- Y gallu i weithio gyda gwybodaeth gymhleth a chynhyrchu adroddiadau dadansoddi ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Y gallu i ddefnyddio Excel i lefel uchel
- Hanes amlwg o alluogi pobl eraill i gyflawni eu nodau
- Dealltwriaeth o egwyddorion rheoli perfformiad a systemau busnes

**Ac fe gewch chi**:
Yn ogystal ag ymuno â thîm bywiog, cyfeillgar a chefnogol, byddwch yn cyfrannu tuag at wneud gwahaniaeth i fywydau'r bobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw. Byddwch hefyd yn derbyn y pecyn buddion canlynol:

- Mae Caerdydd yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith sy’n dda, hyblygrwydd ac ymreolaeth i gefnogi eich cydbwysedd bywyd gwaith /teulu chi eich hun
- Cynnig i weithio’n hybrid
- Cefnogaeth i iechyd a lles gweithwyr
- Credyd o amser fflecsi / toil
- Hawl awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol rhagorol a diogel
- Hawl i wyliau blynyddol hael
- Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus
- Cynllun beicio i’r gwaith
- Gweithio gyda Rheolwyr Tîm a chydweithwyr sy'n rhagorol ac yn angerddol dros sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl ifanc
- Gallai rolau eraill y bydd gennych brofiad ohonynt gynnwys: Swyddog Rheoli Gwybodaeth, Dadansoddwr Systemau, Uwch Ddadansoddwr Ymchwil, Ymchwilydd, Swyddog Mewnwelediad Data, Ymchwil Ansoddol / Meintiol, Ymchwil a Gwerthuso, Swyddog Ymchwil a Thystiolaeth, _Rheolwr Data Systemau, Technoleg Systemau Gweithredol_ ayyb_.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
-


  • Dadansoddwr Data

    5 days ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dadansoddwr Data i gyfrannu at ddatblygu rheolaeth effeithiol o ran perfformiad Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd drwy wella a chynnal systemau gwybodaeth rheoli (_ChildView _Cyfiawnder Ieuenctid).**Cyfeirnod**: PEO02690**Swydd**: Dadansoddwr Data (Gradd 5)**Lleoliad**: Caerdydd - Canolfan John...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyfeirnod**: PEO03735 **Swydd**:Swyddog Gwybodaeth Reoli / Dadansoddwr Data (Gradd 5)** **Lleoliad**: Caerdydd - Canolfan John Kane (hybrid) **Cyflog**: £25,979 - £29,777 (gan ddibynnu ar brofiad a hyd gwasanaeth) **Oriau**: Llawn-amser Dyddiad cau: 13 Chwefror 2024 Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dadansoddwr Data i gyfrannu at...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae Tîm Ystadegau Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor yn cynnig y cyfle i ymuno â nhw fel Dadansoddwr Perfformiad Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae Tîm Ystadegau Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor yn cynnig y cyfle i ymuno â nhw fel Dadansoddwr Perfformiad Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy'n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd.Mae Tîm Ystadegau Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor yn cynnig y cyfle i ymuno â nhw fel Dadansoddwr Perfformiad Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau Cwsmeriaid.Mae'r Tîm...

  • Dadansoddwr Busnes

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae Tîm ystadegau Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor yn cynnig cyfle i ymuno â nhw fel Rheolwr Dadansoddi Busnes gyda’r Gwasanaethau Cwsmeriaid. Mae'r Tîm...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'r Tîm Ystadegau a Chymorth yn darparu ystadegau ar gyfer pob maes o fewn y timau gwasanaethau cwsmeriaid a digidol, yn amrywio o brif ganolfan gyswllt Cyngor Caerdydd...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy'n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd.Mae'r Tîm Ystadegau a Chymorth yn darparu ystadegau ar gyfer pob maes o fewn y timau gwasanaethau cwsmeriaid a digidol, yn amrywio o brif ganolfan gyswllt Cyngor Caerdydd (C2C) i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle ar gael o fewn Tîm Perfformiad a Mewnwelediad y Cyngor ar gyfer Dadansoddwr Busnes sydd â diddordeb mewn bod wrth galon agenda perfformiad a gwella'r Cyngor. Mae dwy swydd wag ar gael yn bresennol. Mae un yn swydd barhaol o fewn y tîm a bydd yn cefnogi gwaith parhaus sy'n dod i mewn ar draws amrywiaeth o ffrydiau gwaith a...