Gweithiwr Cymorth Arbenigol Ymgysylltiad a Gweithg

1 week ago


Rhyl, United Kingdom The Salvation Army Full time

CYFLOG DECHRAU:
£28,179.51 y flwyddyn

ORIAU GWAITH:
40 awr yr wythnos (ROTA a allai gynnwys rhai nosweithiau a phenwythnosau)

CYTUNDEB:
Parhaol

MANYLION:
25 diwrnod o wyliau blynyddol + gwyliau banc (pro rata ar gyfer rhan-amser); cynllun pensiwn cyfrannol; benthyciad tocyn tymor; rhaglen cymorth i weithwyr

DYDDIAD CAU:
26ain Mawrth 2023

DYDDIAD CYFWELIAD:
I’w gadarnhau

Rydym yn chwilio am unigolyn medrus, cadarnhaol a dymunol i ddarparu cyfleoedd cyd-gynhyrchu a gweithgareddau dargyfeiriol yn ein gwasanaeth newydd, y Prosiect Cymorth Llety Brys Dros Dro (TEASP) yn Sir Ddinbych.

Nod y prosiect hwn yw darparu profiad gwell, cyffredinol, o fyw mewn llety dros dro yn Sir Ddinbych, lle mae pobl yn cael eu cefnogi i wella eu lles ac adeiladu ar eu dyfodol.

Bydd TEASP yn cefnogi hyd at 32 o aelwydydd sy’n byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd. Bydd cymorth yn dechrau yn y lle cyntaf mewn lleoliadau dros dro presennol yn y fwrdeistref (Gwely a Brecwast), cyn trosglwyddo i gyfleusterau byw â chymorth pwrpasol, wrth i'r adeiladau hyn ddod ar gael.

Mae TEASP ar ddechrau ei daith ac rydym yn chwilio am berson unigryw a thalentog sy’n awyddus i deithio gyda ni.

**Cyfrifoldebau Allweddol**:

- Dylunio a chyflwyno rhaglen ddeniadol o weithgareddau ystyrlon a chyfleoedd cyd-gynhyrchu, i ddarparu strwythur a diben i deuluoedd a phobl sengl ar draws nifer o leoliadau cymunedol.
- Gweithio mewn partneriaeth â’n tîm ehangach yn cefnogi teuluoedd a phobl sengl sy’n byw mewn llety brys dros dro ar draws sawl safle yn y Rhyl.

**Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu**:

- Arwain mewn amrywiaeth o weithgareddau sy'n helpu i ddatblygu hyder a lles y rhai sy'n cymryd rhan.
- Creu cyfleoedd cyd-gynhyrchu i bawb yn y gwasanaeth, gan alluogi llais pawb i gael ei glywed, harneisio syniadau da a’u defnyddio i ddylanwadu, dylunio a datblygu’r prosiect.
- Arddangos gwerthoedd sefydliadol cadarnhaol, cymhwyso ymarfer sy’n wybodus yn seicolegol ac ymagwedd sy’n seiliedig ar drawma i hwyluso ymgysylltiad.
- Meddu ar y gallu i weithio mewn cydymdeimlad ag egwyddorion ysbrydol Byddin yr Iachawdwriaeth

**Er mwyn cwblhau eich cais, lawrlwythwch a darllenwch y proffil swydd ac unrhyw atodiadau eraill.**

**Ym mhroffil y swydd fe welwch y meini prawf sydd eu hangen ar gyfer y rôl, gwnewch yn siwr eich bod yn mynd i'r afael â hyn yn eich datganiad ategol gan mai hwn yw sail ein rhestr fer.**

**Penodiad yn amodol ar dystlythyrau boddhaol, prawf o hawl i weithio yn y DU, Datgeliad Manwl y DBS**

**Rydym yn cadw'r hawl i gau'r hysbyseb hwn yn gynharach os teimlwn ein bod wedi derbyn digon o geisiadau.**

**Gan hyrwyddo cydraddoldeb yn y gweithle ac fel cyflogwr cynllun hyderus o ran anabledd, rydym yn gwarantu cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd wag.



  • Rhyl, United Kingdom British Red Cross Full time

    **Gweithiwr Cefnogi Gwasanaeth - Adran Achosion Brys** **Lleoliad**:Ysbyty Glan Clwyd Emergency Department, Rhuddlan Rd, Bodelwyddan, Rhyl, Denbighshire, LL18 5UJ** **Math o gontract: Achlysurol** **Oriau'r wythnos: amrywiol** **Cyflog: £10.90 yr awr** Ydych chi wrth eich bodd yn helpu pobl mewn angen? Ydych chi'n chwilio am rôl werth chweil a allai...

  • Gweithiwr Cymorth

    3 days ago


    Rhyl, United Kingdom Anheddau Full time

    **Ennill a Dysgu yn Anheddau** **Dysgu** Dilynwch y llwybr Gofal Cymdeithasol ac ennill cymwysterau a phrofiad galwedigaethol tra yn gael eu talu gan Anheddau. Ar ymuno hefo Anheddau, mae eich gyrfa yn cychwyn gyda rhaglen ymsefydlu pythefnos yn Academi Anheddau sy'n arwain at ddod yn weithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig a'r camau cyntaf ar eich taith...


  • Rhyl, United Kingdom The Salvation Army Full time

    CYFLOG DECHRAU: £22,735.06 y flwyddyn ORIAU GWAITH: 40 awr yr wythnos (ROTA a allai gynnwys rhai nosweithiau a phenwythnosau) CYTUNDEB: Parhaol MANYLION: 25 diwrnod o wyliau blynyddol + gwyliau banc (pro rata ar gyfer rhan-amser); cynllun pensiwn cyfrannol; benthyciad tocyn tymor; rhaglen cymorth i weithwyr DYDDIAD CAU: 20 Mawrth 2023 DYDDIAD...