Uwch Swyddog Asesu a Chymorth

3 weeks ago


Pontypridd, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth ac Adran Asesu Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed y mae angen tai arnynt.

Mae ein gwasanaethau yn rhedeg 24/7 365 diwrnod y flwyddyn.

**Am Y Swydd**
Mae’r swydd Uwch Swyddog Asesu a Chymorth yn gyfle cyffrous i unigolyn ymrwymedig reoli adran o’r Tîm Amlddisgyblaethol.

Prif amcanion y rôl fydd rheoli tîm o Gydlynwyr Achosion a bod yn gyfrifol am reoli a lleihau nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd.

Mae’r Cydlynwyr Achosion yn rhoi cymorth i gleientiaid agored i niwed i sicrhau a chynnal llety â’r nod o baratoi i fyw’n annibynnol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolion dynamig a chreadigol a all feithrin perthnasoedd cadarnhaol. Bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar brofiad o reoli tîm ynghyd â'r gallu i arwain a chynnig cymorth i dîm prysur.

Mae hwn yn gyfle cyffrous ac rydym yn chwilio am amrywiaeth o bobl o gefndiroedd gwaith gwahanol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Byddai profiad o weithio gyda phobl ag ymddygiadau cymhleth a dealltwriaeth o’r problemau a wynebir gan unigolion digartref yn fanteisiol.

Gall y gwaith hwn fod yn heriol felly bydd y gallu i aros yn ddigynnwrf o dan bwysau yn fantais. Bydd y rôl yn gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus roi cymorth i’r tîm rheoli gyda phob agwedd ar y gwasanaeth.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Dylai ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu’r Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2 neu, yn achos staff ysgol, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02828


  • Uwch Beiriannydd

    1 week ago


    Pontypridd, United Kingdom Rhondda Cynon Taf Full time

    -Math o Swydd Traffig, Priffyrdd a Diogelwch ar y Ffyrdd Cyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen Adran Priffyrdd a Gofal y Strydoedd Gradd Gradd 11 Cyflog Penodol £38,296 Math o Gytundeb Amser Llawn Parhaol Testun yr Hysbyseb Rydyn ni'n chwilio am Uwch Beiriannydd i ymuno â'r Garfan Strwythurau yn rhan o Adran Rheoli Asedau Isadeiledd...


  • Pontypridd, United Kingdom Transport for Wales Full time

    **Location : Pontypridd** **Equal Opportunities** At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re...