Arweinydd Gyrfaoedd a Chyflogaeth
2 weeks ago
Arweinydd Gyrfaoedd a Chyflogaeth
Llawn Amser a Pharhaol
Graddfa Gyflog S01: £32,509 - £34,662 y Flwyddyn
Byddwch yn arwain ac yn datblygu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad Cyfleodd ar draws Coleg Penybont. Byddwch yn ceisio gwella recriwtio darpar fyfyrwyr ar y rhaglenni astudio mwyaf addas trwy gyflwyno gwybodaeth, cyngor ac arweiniad rhagorol. O fewn y rôl hon byddwch yn cefnogi gweithgareddau recriwtio myfyrwyr, megis digwyddiadau agored, cofrestru a gweithgareddau sefydlu. Yn ogystal, byddwch yn adeiladu ar, ac yn datblygu perthnasoedd presennol ag ysgolion bwydo i roi cyngor ac arweiniad diduedd i ddarpar fyfyrwyr. Yn ogystal â datblygu a gwella rhaglenni addysg a chyfarwyddyd gyrfaoedd, trwy weithdai grŵp, sesiynau galw heibio ac apwyntiadau gyrfaoedd 1:1. Gan weithio gyda Phennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth a Rheolwr Gwasanaethau Myfyrwyr, byddwch yn arwain ar ddata dilyniant a chyrchfan i fonitro cynnydd ac effaith ar draws holl feysydd y cwricwlwm. Mae hon yn rôl ar y campws gyda disgwyliad i weithio ar draws holl gampysau'r coleg.
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y Pecyn Gwybodaeth Swydd.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgugyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.
£32,509 -£34,662 Per Annum
null
-
Hyfforddwr Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
1 day ago
Bridgend, United Kingdom Bridgend College Full time**Hyfforddwr Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd**: **(Cymraeg yn Hanfodol)**: **Graddfa gyflog 4/5: £21,846- £26,993 y flwyddyn**: **Llawn Amser a Pharhaol**: Yn y rôl hon, byddwch yn darparu sesiynau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd am yrfaoedd i fyfyrwyr a chleientiaid o brosiectau allanol eraill e.e. Twf Swyddi Cymru+ Byddwch hefyd yn darparu sesiynau...