Hyfforddwr Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
3 weeks ago
**Hyfforddwr Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd**:
**(Cymraeg yn Hanfodol)**:
**Graddfa gyflog 4/5: £21,846- £26,993 y flwyddyn**:
**Llawn Amser a Pharhaol**:
Yn y rôl hon, byddwch yn darparu sesiynau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd am yrfaoedd i fyfyrwyr a chleientiaid o brosiectau allanol eraill e.e. Twf Swyddi Cymru+
Byddwch hefyd yn darparu sesiynau cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr, ac yn cynorthwyo myfyrwyr gyda thasgau cynnydd a gyrfaoedd allweddol, gan gynnwys datganiadau personol UCAS, ceisiadau UCAS, creu CV, datblygu sgiliau personol, gwneud ceisiadau am swyddi, technegau cyfweliad, a chwilio am swyddi.
Os oes gennych brofiad o weithio gyda phobl ifanc mewn rôl gynghorol a phrofiad o ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i ystod eang o unigolion, hoffem glywed gennych
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.