Cynorthwyydd Gwasanaethau Ymwelwyr

3 weeks ago


Pembroke Dock, United Kingdom Webrecruit Full time

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Cynorthwyydd Gwasanaethau Ymwelwyr - Oriel y Parc
Rhan Amser - Parhaol

A yw’r syniad o weithio ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, un o ardaloedd gwarchodedig mwyaf eiconig gwledydd Prydain, yn apelio i chi? Canolfan y Parc Cenedlaethol yn Oriel y Parc, sydd wedi ennill gwobrau, yw un o’n cyfleusterau ymwelwyr uchaf ei broffil, sydd yma i gynorthwyo ymwelwyr i wneud y gorau o’u hamser yn Sir Benfro.

Mae'r swydd gyffrous hon yn canolbwyntio ar gynnig croeso cynnes i ymwelwyr ac yn codi proffil cadarnhaol Oriel y Parc yn llwyddiannus drwy safonau gwasanaethau cwsmer eithriadol. Mae ein tîm Gwasanaethau Ymwelwyr yn cynghori ac yn cyfeirio ymwelwyr i hyrwyddo cyfleusterau Oriel y Parc yn ogystal â chyfleusterau’r Parc Cenedlaethol drwyddi draw.

**Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r canlynol**:

- Profiad o weithio mewn rôl manwerthu neu wasanaeth cwsmeriaid.
- Dealltwriaeth o'r hyn sy'n gwneud diwrnod allan hynod o dda.
- Y gallu i rannu straeon ein harddangosfeydd, bod â gwybodaeth am y cynnyrch, ac ysbrydoli pobl i gymryd rhan yn ein digwyddiadau, a gweithio i wella mwynhad ymwelwyr.
- Hyder wrth drin arian parod a chadw cofnodion.
- Sgiliau cyfathrebu da ynghyd â'r gallu i gynorthwyo pobl yn bwyllog yn ystod cyfnodau prysur.
- Diddordeb a gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol, a dealltwriaeth wych o'r ardal leol.

Cyfeirier at y disgrifiad swydd (ar gael drwy ei lawrlwytho) am ragor o wybodaeth.

Sylwer bod y swydd hon yn 7.5 awr y mis (ar ddydd Sadwrn) yn ystod tymor yr haf, heb unrhyw oriau gwaith penodol yn ystod tymor y gaeaf. Bydd gan ddeiliad y swydd yr opsiwn i weithio oriau ychwanegol yn ystod y ddau dymor.

**Cyflog a Buddion**:
Cyflog o £12 yr awr (i’w adolygu dan adolygiad cyflogau a graddfeydd), isafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus (pro rata), cynllun pensiwn hael llywodraeth leol.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth yw eu hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

**Dyddiad Cau**: 08 Mai 2024
**Dyddiad Cyfweliad**: 14 neu 16 Mai 2024



  • Pembroke Dock, United Kingdom Webrecruit Full time

    Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Swyddog Cynnal a Chadw Llanion Rhan Amser (14 awr yr wythnos) - Parhaol Oes gennych chi brofiad o fod yn ofalwr, gwneud gwaith cynnal a chadw, goruchwylio adeiladau neu gefndir DIY neu grefft? Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyfle cyffrous newydd i ymuno â’n hadran Gwasanaethau Llanion fel...