Swyddog Apeliadau

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n cynorthwyo â nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau ac yn cynnig cyngor ar gyfer delio â dyledion. Mae prosiect o fewn y Tîm Cyngor Ariannol yn arbenigo mewn cymorth â ffocws i'r rhai sy'n gymwys i gael Budd-daliadau Anabledd. Mae'r prosiect hwn wedi bod yn tyfu mewn llwyddiant dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae'n gobeithio ehangu, gan weithio gyda theuluoedd ac unigolion dros 25 oed.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymrwymedig â sgiliau gofal cwsmeriaid gwych a gwybodaeth am Fudd-daliadau Anabledd i ymuno â’r Tîm Cyngor Ariannol fel Swyddog Apeliadau. Bydd y Swyddog Apeliadau yn helpu unigolion a theuluoedd gyda hawliadau am fudd-daliadau anabledd a lwfans gofalwr, gan gynnwys apeliadau am geisiadau a wrthodwyd yr holl ffordd i'r cam Tribiwnlys. Darperir y gwasanaethau hyn wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu'n ysgrifenedig.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth dda am fudd-daliadau anabledd, yn bennaf Taliadau Annibyniaeth Bersonol a Lwfans Byw i'r Anabl ynghyd â Lwfans Gofalwr. Bydd gennych hefyd brofiad o gwblhau ceisiadau cychwynnol a delio ag Ailystyriaethau Gorfodol. Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnig ar gyfer achosion sy'n cael eu symud i’r cam Tribiwnlys.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd gael gwybodaeth am fudd-daliadau lles er mwyn nodi unrhyw gymorth arall a allai fod ar gael yn ogystal â grantiau a gostyngiadau. Byddai gwybodaeth am gynlluniau a phrosiectau amgen sydd ar gael i gynnig cymorth ychwanegol yn ddymunol.

Mae rôl y cynghorydd hefyd yn cynnwys nodi unrhyw gymorth pellach sydd ei angen ar yr unigolion. Gallai hyn gynnwys nodi unrhyw atgyfeiriadau y gallai fod eu hangen megis;
- Atgyfeiriadau i’r Tîm Cyngor Ariannol am help gyda dyledion
- Atgyfeiriadau at y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith am help gyda chyflogadwyedd
- Atgyfeiriadau at dimau yng Nghyngor Caerdydd am help gyda gwasanaethau plant
- neu unrhyw wasanaethau mewnol neu allanol eraill a all wella statws ariannol a lles yr unigolion hynny

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Swydd dros dro yw hon sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2024.

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn benodol Cymraeg/Saesneg, Somalieg, Arabeg neu Bwyleg, o fantais.

Am mwy o wybodaeth am y swydd, cysylltwch a Carlos Ruiz os gwelwch yn dda ar 02920 871071

**Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw’n is nag RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.**

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03241


  • Swyddog Cwynion a Chyfathrebu

    Found in: Talent UK 2 C2 - 3 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff County Council Full time

    Ynglŷn â'r Gwasanaeth Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cwynion a Chyfathrebu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cyfathrebu effeithiol, gan ymateb i gwynion ac ymholiadau ar gyfer y Tîm Ansawdd ac Apeliadau. Ynglŷn â'r Swydd Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gallu gweithio i derfynau amser...

  • Swyddog Cynghori

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle...

  • Uwch Swyddog Cyngor

    17 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle...