Rheolwr Tim Cyswllt Ac Asesu

4 weeks ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.

***Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm â chymwysterau addas weithio yng Ngwasanaethau Oedolion Caerdydd. Mae hon yn rôl Rheolwr Tîm sydd ar gael yn y Gwasanaeth Cyswllt ac Asesu sy'n gweithio gyda phobl dros ddeunaw oed sydd ag anghenion gofal a chymorth cymwys. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i ddatblygu a llunio'r gwasanaeth ochr yn ochr â’r Rheolwr Gwasanaeth i gefnogi arfer gorau ac i ddarparu gwasanaethau proffesiynol ac arbenigol i ddinasyddion Caerdydd.

Byddwch yn rheoli tîm blaengar gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau o ran eich ymarfer, gan weithio gyda phobl i hyrwyddo a gwneud y mwyaf o fyw'n annibynnol. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein hymyriadau a'r cymorth a roddwn i'n haelodau staff. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles dinasyddion ac rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy'n rhannu yr un ymrwymiad ac sy'n gallu arwain a rheoli timau i wreiddio'r diwylliant hwn.

Mae ein systemau a'n technoleg yn galluogi ac yn hyrwyddo gweithio ystwyth a hyblyg.
**Am Y Swydd**
Rydym yn chwilio am Reolwr Tîm, a fydd yn rheoli un o'r ddau dîm sy'n ffurfio'r Gwasanaeth Cyswllt ac Asesu. Mae'r tîm hwn yn gyfrifol am y cyswllt cychwynnol a'r gwaith asesu gyda dinasyddion a'r gwasanaeth ymateb dyletswydd parhaus i ddinasyddion. Rhagwelir y bydd y rheolwr yn y swydd hon yn hyblyg ar draws y gwasanaeth ond bydd ganddo gyfrifoldebau penodol am y tîm uchod.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â'r Rheolwr Gwasanaeth a chydweithwyr i lunio'r model cyflenwi yn y dyfodol, a datblygu'r ymarfer gwasanaethau, a'r gweithdrefnau. Bydd y tîm yn defnyddio ymarfer seiliedig ar gryfderau, ac mae ein datblygiad yn cael ei danategu gan ymrwymiad y Cyngor i'w Strategaeth Heneiddio'n Dda ac i weithio'n effeithiol gyda'r rhai â namau corfforol a synhwyraidd. Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ar draws y Cyngor, Iechyd, y sector preifat a'r Trydydd Sector. Fel gwasanaeth rydym yn ffynnu ar waith amlddisgyblaethol, gan ddefnyddio dull cydweithredol gyda dinasyddion, gofalwyr di-dâl, teuluoedd a chydweithwyr. Mae angen profiad amlwg o berthnasoedd cydweithredol â phartneriaethau a chydweithwyr.

Bydd gennych brofiad o reoli timau gofal cymdeithasol, ac arbenigedd wrth sicrhau bod timau'n gweithio'n effeithiol i reoli systemau cymhleth mewn modd amserol a phroffesiynol. Bydd gennych brofiad o arwain a rheoli staff mewn ymarfer Gwaith Cymdeithasol, gan ddarparu goruchwyliaeth gyson ac effeithiol i uwch weithwyr cymdeithasol, a sicrhau bod goruchwyliaeth yn cael ei darparu. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr Rheolwyr Tîm a'r Rheolwr Gwasanaeth gan ddefnyddio data a gwybodaeth ac yn gallu rheoli a chynllunio mewn gwasanaeth eang.

Bydd gennych brofiad o gomisiynu gofal a rheolaeth ariannol o gyllideb tîm ac yn deall pwysigrwydd dull cyson a chlir o ymdrin â gwasanaethau gofal i ddinasyddion.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**

Rydym yn awyddus i recriwtio staff profiadol sydd â phrofiad rheoli i'n gwasanaeth. Rydym yn chwilio am bobl sydd wedi ymrwymo i roi ein dinasyddion wrth wraidd y gwaith a wnawn ac i ddatblygu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar ymateb proffesiynol a thosturiol i'n dinasyddion.
- Byddwch yn weithiwr cymdeithasol cymwys ac wedi'ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd gennych dair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso o leiaf.
- Bydd gennych brofiad helaeth o reoli achosion cymhleth a syml a dealltwriaeth o sut i reoli cydweithwyr drwy waith achos heriol.
- Bydd gennych wybodaeth gadarn o'r fframwaith deddfwriaethol wrth lywodraethu'r arena gofal cymdeithasol a byddwch yn gallu cefnogi ac arwain aelodau'r tîm yn ogystal â rhoi arweiniad i gydweithwyr yn y Cyngor a phartneriaid eraill.
- Byddwch yn gallu deall gwaith y gwasanaeth, defnyddio staff yn briodol a gallu sicrhau bod y gwasanaeth yn y sefyllfa orau i barhau â'i waith gan ragweld a rheoli heriau.
- Byddwch yn deall ac yn defnyddio data i adrodd i'r Rheolwr Gwasanaeth am lif gwaith tîm a'r gwasanaethau a ddarperir i'n dinasyddion. Byddwch wedi datblygu sgiliau trefnu rhagorol i sicrhau bod eich tîm yn gweithredu'n llwyddiannus a'ch bod yn cynnal yr holl ofynion corfforaethol.
- Byddwch yn ymrwymedig i ddull seiliedig ar gryfderau mewn gwaith cymdeithasol a byddwch yn annog ac yn datblygu'r dull hwnnw yn y gwasanaeth gan sicrhau sylfaen a strwythur sy'n cefnogi’r ymarfer hwn.
- Byddwch yn ymrwymedig i annog staff i ymgymryd â hyfforddiant, sesiynau cymorth cyfoedion a goruchwyliaeth a byddwch yn hyrwyddo hyn yn y gwasanaeth.
- Mae eich profiad wedi datblygu eich gallu i fod yn ddigynnwrf a chyfeillgar gyda’r gallu i ymdopi drwy her. Byddwch yn gallu dangos tystiolaeth o brofiad o weithio mewn amgylchedd dan bwysau ac ymateb i heriau.

Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieit

  • Swyddog Cyswllt

    2 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cyswllt o fewn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol. Mae'r Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (GBA) yn cefnogi oedolion agored i niwed i fyw'n annibynnol gartref ac yn gysylltiedig â'u cymunedau, drwy wybodaeth, cyngor a chymorth wedi'u teilwra - gan alluogi pobl i...

  • Swyddog Asesu

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** **Ynglŷn â’r swydd** Bydd Swyddogion Asesu yn cynnal asesiadau digartrefedd ar sail argyfwng, ac yn cwblhau atgyfeiriadau ar gyfer llety fel y bo'n briodol. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gynnal ymchwiliadau ac asesiadau ar gleientiaid sy'n dweud eu bod yn ddigartref ar y diwrnod, a rhoi cyngor ac atebion tai pwrpasol...

  • Swyddog Cyswllt

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Cymunedau a Thai ar gyfer Swyddog Cyswllt o fewn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol. Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw yn annibynnol gartref a bod yn gysylltiedig yn eu cymunedau eu hunain trwy wybodaeth, cyngor a chefnogaeth wedi'i...

  • Swyddog Cyswllt

    2 hours ago

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Tîm ar rota dyletswydd am un o bob tair wythnos, sy’n golygu eich bod yn cael y cyfle i gynllunio a chofnodi eich gwaith mewn ffordd strwythuredig a threfnus. **Am Y Swydd** Mae’r swyddi yn rhai parhaol ac wedi’u lleoli yn y Tîm Ymateb Cychwynnol, yn Derbyn ac Asesu. Gallai Gweithwyr Cymdeithasol fod yn rhan o achosion...

  • Rheolwr y RHaglen

    20 hours ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithredu rhaglen adeiladu newydd ar raddfa fawr a llwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. Gan ddefnyddio atebion arloesol a symud yn gyflym tuag at safon carbon isel rydym yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** **Am Y Swydd** Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd roi cyngor a chymorth ar y pwynt cyswllt cyntaf, i gleientiaid sydd wedi gwneud cais digartrefedd i'r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys ymateb i ymholiadau dros y ffôn ac e-bost ac yn gyffredinol gefnogi rolau Swyddogion Asesu’r Rheng Flaen drwy helpu i ddatblygu ceisiadau digartrefedd drwy...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    Ynglŷn â’r Gwasanaeth Ynglŷn â’r swydd Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd roi cyngor a chymorth ar y pwynt cyswllt cyntaf, i gleientiaid sydd wedi gwneud cais digartrefedd i'r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys ymateb i ymholiadau dros y ffôn ac e-bost ac yn gyffredinol gefnogi rolau Swyddogion Asesu’r Rheng Flaen drwy helpu i ddatblygu ceisiadau...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** **Am Y Swydd** Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd roi cyngor a chymorth ar y pwynt cyswllt cyntaf, i gleientiaid sydd wedi gwneud cais digartrefedd i'r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys ymateb i ymholiadau dros y ffôn ac e-bost ac yn gyffredinol gefnogi rolau Swyddogion Asesu’r Rheng Flaen drwy helpu i ddatblygu ceisiadau digartrefedd drwy...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** **Am Y Swydd** Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd roi cyngor a chymorth ar y pwynt cyswllt cyntaf, i gleientiaid sydd wedi gwneud cais digartrefedd i'r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys ymateb i ymholiadau dros y ffôn ac e-bost ac yn gyffredinol gefnogi rolau Swyddogion Asesu’r Rheng Flaen drwy helpu i ddatblygu ceisiadau digartrefedd drwy...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn wasanaeth o fewn Cyngor Caerdydd, er mwyn gweinyddu gofynion Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rheoleiddio tai sector rhent preifat yng Nghymru drwy ofyn i landlordiaid gofrestru ac un ai ddod yn drwyddedig eu hunain neu roi cyfarwyddyd i asiant trwyddedig i ymgymryd â thasgau gosod a rheoli eiddo. Sefydlwyd...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf ym Mhrydain, wedi ymrwymo i ddod yn '_Ddinas sy’n dda i blant_' sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Rhieni sy’n effeithio’n fwyaf sylweddol ar blant a’u bywydau yn y dyfodol. Yn ein barn ni ceir y canlyniadau gorau ar gyfer plant pan...

    **Am Y Gwasanaeth** Rhieni’n Gyntaf yw’r gwasanaeth a arweinir gan seicoleg o fewn Rhianta Caerdydd 0-18. Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn rhan o Wasanaethau Cymorth Cynnar Cyngor Sir Caerdydd sydd ar gael i bob teulu ar draws Caerdydd sydd a phlentyn neu person ifanc o dan 18. Ariannir Rhianta Caerdydd 0-18 drwy grant Llywodraeth Cymru ac mae’n ategu y...

  • Swyddog Cyswllt Lles

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau gofal cwsmeriaid rhagorol ymuno â'r Tîm Cyswllt Lles, gan ddarparu gwasanaeth budd-dal lles wyneb yn wyneb proffesiynol a chynghori ariannol i Ddeiliaid Contract Cyngor Caerdydd. Mae'r swydd fel arfer wedi'i lleoli'n bennaf o Neuadd y Sir, Caerdydd, ac mae’r rôl yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant bach, plant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gofrestru a sicrhau trwydded neu gyflogi asiant trwyddedig ar eu rhan i gyflawni tasgau gosod a rheoli eiddo. Mae Cyngor Caerdydd wedi’i ddynodi fel yr awdurdod trwyddedu sengl i weinyddu’r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru. Sefydlwyd y gwasanaeth ym mis Tachwedd 2015. Mae’n...

  • Workplace Coordinator

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Integral UK Full time

    **Mae'n adeg gyffrous i ddechrau gyrfa gyda Integral UK LTD gan mai ni yw'r cwmni mwyaf (sy'n tyfu gyflymaf) sy'n darparu gwasanaethau peirianegol a chynnal a chadw cynhwysfawr o ansawdd uchel ar gyfer adeiladau masnachol ac adeiladau yn y sector cyhoeddus ym Mhrydain. Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw ataliol ac adweitheddol i dros 1600 o...