Cynorthwy-ydd Digartrefedd

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

Ynglŷn â’r Gwasanaeth

Ynglŷn â’r swydd

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd roi cyngor a chymorth ar y pwynt cyswllt cyntaf, i gleientiaid sydd wedi gwneud cais digartrefedd i'r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys ymateb i ymholiadau dros y ffôn ac e-bost ac yn gyffredinol gefnogi rolau Swyddogion Asesu’r Rheng Flaen drwy helpu i ddatblygu ceisiadau digartrefedd drwy ymchwiliadau ac ymholiadau.
Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi

Bydd profiad o weithio gyda’r cyhoedd yn y maes tai o fantais. Bydd angen y sgiliau arnoch i ymdopi dan bwysau mewn amgylchedd prysur a heriol.
Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn cyfweliad rhithwir neu am sgwrs anffurfiol am y broses, cysylltwch â Denise Wheten, Rheolwr Asesu Digartrefedd 07791 323266.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais

Gwneud cais am swydd â ni

Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

**Gwybodaeth Ychwanegol**:
- Siarter y Gweithwyr

Recriwtio Cyn-droseddwyr

Nodyn Preifatrwydd

**Job Reference**: PEO02972



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys...