Cynorthwyydd Gweithgareddau Awyr Agored

3 weeks ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

**Y rôl**:
Hwyluso’r gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm gweithgareddau awyr agored drwy baratoi unrhyw offer perthnasol ar gyfer y sesiwn ddysgu, ynghyd â sicrhau bod yr offer yn ddiogel ac yn barod i’w defnyddio. Yn ogystal, mi fydd deiliad y swydd yn gweithredu fel staff cymorth i’r prif ddarlithydd yn ystod gweithgareddau awyr agored.
- 28 Awr yr Wythnos
- 36 Wythnos y Blwyddyn (Yn Ystod y Tymor)
- Dros Dro 31 Awst 2024
- £13,126 - £13,634 y blwyddyn
- Campws Gorseinon, SA4 6RD

**Cyfrifoldebau Allweddol**:

- Cefnogi’r gwaith o gynllunio a darparu rhaglen gweithgareddau awyr agored o’r radd flaenaf ar gyfer cyrsiau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus, sy’n briodol i oedran, gallu a phrofiad y dysgwyr. Hefyd, fel rhan o’ch dyletswyddau dyddiol, bydd gofyn ichi arwain gweithgareddau ar gyfer grwpiau bach.
- Cynllunio ac arwain gweithgareddau allgyrsiol risg isel megis cyfeiriannu, meithrin tîm a theithiau cerdded arfordirol i grwpiau o ddysgwyr sy’n perthyn i feysydd cwricwlwm gwahanol.
- Sicrhau iechyd a diogelwch personol, aelodau grwp ac eraill wrth ymgymryd â dyletswyddau ar/oddi ar y campws.
- Datblygu perthnasau gweithio proffesiynol gydag unigolion, grwpiau ac athrawon, gan fanteisio i’r eithaf ar ddatblygiad personol a chymdeithasol.

**Amdanoch chi**:

- Hyfforddwr Am-weithgaredd
- Amrywiaeth o gymwysterau gweithgareddau tir/awyr agored
- Cymhwyster Cymorth Cyntaf
- 5 gradd TGAU (A-C) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.

**Buddion**:

- Parcio am ddim
- 5.66 wythnos o wyliau blynyddol
- Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar._

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Llawn Amser Cyfatebol Cyflog - £21,710 - £22,550 y Blwyddyn.



  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...

  • Gweithiwr Cefnogi

    4 weeks ago


    Swansea, United Kingdom Accomplish Full time

    Package Description **SWYDD RÔL**: Gweithiwr Cefnogi **ORIAU**: 37.5 Oriau - Gellir ystyried banc **SHIFTS**: Sifftiau Cylchdroi **LLEOLIAD**: Abertawe SA8 **CYFLOG**: £12.00 - 12.70 Yn dibynnu ar gymwysterau **Siaradwyr Cymraeg Dymunol** Wedi'i leoli yn Abertawe, Pontardawe mae ein gwasanaeth byw â chymorth newydd yn cefnogi hyd at 5 o unigolion ag...


  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...


  • Swansea, United Kingdom Freedom Leisure Full time

    Os ydych chi’n teimlo’r ysfa i ysbrydoli pobl i fod yn fwy actif, gwella eu llesiant ac yr hoffech gael swydd a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl leol yna Freedom Leisure yw’r lle i chi! Ymddiriedolaeth hamdden nid er elw ydym ni â diben ac ymroddiad cryf i gefnogi ein cymunedau lleol a grwpiau lleol anodd cyrraedd atynt, i’w hannog i...


  • Swansea, United Kingdom Freedom Leisure Full time

    Os ydych chi’n teimlo’r ysfa i ysbrydoli pobl i fod yn fwy actif, gwella eu llesiant ac yr hoffech gael swydd a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl leol yna Freedom Leisure yw’r lle i chi! Ymddiriedolaeth hamdden nid er elw ydym ni â diben ac ymroddiad cryf i gefnogi ein cymunedau lleol a grwpiau lleol anodd cyrraedd atynt, i’w hannog i...