Cydlynydd Prosiectau Cyfalaf Blynyddoedd Cynnar a

2 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**

Mae'r cyfle wedi codi am gydlynydd prosiectau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn Nhîm Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar y Fro i ddarparu rhaglen grantiau cyfalaf Llywodraeth Cymru. Mae tîm Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar a thîm Dechrau'n Deg y Fro yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni rhaglen Gyfalaf Llywodraeth Cymru i gryfhau a chefnogi gofal plant o ansawdd da mewn cysylltiad â’r rhaglenni Cynnig Gofal Plant, Dechrau'n Deg ac Addysg Gynnar.

Nod rhaglen grant cyfalaf Llywodraeth Cymru yw cefnogi'r prosiectau arfaethedig presennol a / neu brosiectau newydd sydd wedi'u nodi o Asesiadau / adolygiadau Digonolrwydd Gofal Plant a / neu’n rhan o gynlluniau ehangu gofal plant Dechrau'n Deg i wella safleoedd ar gyfer darparu gwasanaethau gofal plant. Mae cynlluniau grant bach Cyfalaf yn rhoi'r cyfle i unrhyw ddarparwr gofal plant cofrestredig wneud cais am gyllid i ddisodli / creu newydd, i wella’u safleoedd ar gyfer darparu gofal plant.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid amlasiantaethol o'r Awdurdod Lleol, sefydliadau'r trydydd sector, ysgolion ac ati er mwyn cyflawni canlyniadau effeithiol ac o ansawdd ar gyfer y blynyddoedd cynnar a chyfleoedd gofal plant i blant a'u teuluoedd.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion Tâl: Graddfa 7 pt. 20 - 25 £28,371 - £32,020

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener

Prif Weithle: Y Barri

Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Cyllid gan Lywodraeth Cymru hyd at 31.3.2024, gyda'r posibilrwydd o estyniad tan 31.03.2025

**Disgrifiad**: gweinyddu rhaglen brosiectau grantiau cyfalaf y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant a chynllun grantiau bach gan sicrhau bod datblygu'r prosiectau yn bodloni gofynion y grant a ddyfarnwyd**.**

Rheoli a monitro'r rhaglen ar gyfer datblygu'r prosiectau a'r cynllun grantiau bach gan ymgynghori â'r holl randdeiliaid allweddol drwy gydol y broses.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad perthnasol o arwain prosiectau cyfalaf ar raddfa fawr gan gadw at amodau grant a llunio adroddiadau.
- Arwain datblygiadau'r prosiect gan weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i gyflawni'r rhaglen grantiau Cyfalaf Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
- Gradd neu gyfatebol mewn maes perthnasol, h.y. rheoli prosiectau, gweinyddu busnes.
- Gallu gweithio ar eich pen eich hun ac fel aelod o dîm.
- Gallu gweithio dan bwysau a meddu ar agwedd hyblyg at waith.
- Gallu gweithredu ystod o raglenni Microsoft Office
- Ymrwymiad i Gyfle Cyfartal ac Arferion Gwrthwahaniaethu.
- Brwdfrydedd dros y swydd a dealltwriaeth o’r tasgau gofynnol
- Y gallu i yrru / teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo'n briodol

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Safonol

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: LS00234



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rhaglen Llywodraeth Gymru yw Flying Start ar gyfer teuluoedd â phlant o dan 4 oed ac mae'n darparu ystod o wasanaethau sy'n helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog: Gradd 5, PCG 8 -12 £22,777 - £24,496 y.f. Oriau Gwaith: 37 Prif Waith: Y Barri Dros dro hyd at...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau o fewn ei phrosiect Braenaru’r Blynyddoedd Cynnar. Mae'r Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru wedi bod yn rhan allweddol o Bolisi Llywodraeth Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae blynyddoedd cyntaf bywyd plentyn yn hynod o arwyddocaol pan fo ffenest hanfodol o ddatblygu’n digwydd. Bydd y rôl hon yn...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg yn awyddus i recriwtio Rheolwr Prosiect Cyfalaf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gefnogi'r Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi prosiectau, datblygu briffiau prosiect, cwmpasu gwaith, tendro a darparu ar gyfer prosiectau sy'n gysylltiedig â'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd yn goruchwylio prosiectau...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru i deuluoedd â phlant dan 4 oed ac mae'n darparu amrywiaeth o wasanaethau sy'n helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd. Mae Dechrau'n Deg yn arwain ar y rhaglen gofal plant 2 oed ar draws Bro Morgannwg. Mae’r cynnig yn galluogi teuluoedd â phlant 2-3 oed, mewn ardaloedd targedig, i...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog: Gradd 4, PCG 5, £21,575 y.f. pro rata / £11.18 yr awr Oriau Gwaith: Oriau amrywiol er mwyn cynorthwyo tîm gofal plant Dechrau’n Deg pan fydd aelodau’n absennol - yn ystod y Tymor yn unig (39 wythnos) Prif Waith: Ardaloedd Dechrau’n Deg Y Barri Mae Dechrau'n Deg yn fenter gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'u...

  • Athro Dosbarth

    4 days ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn ofynnol ar gyfer Ionawr 2024: Ymarferydd bywiog a brwdfrydig gyda phrofiad o weithio yn y blynyddoedd cynnar. Mae Ysgol Gynradd Sili yn ysgol gynradd fywiog a hapus sydd wedi’i lleoli ar arfordir Bro Morgannwg. Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn amgylchedd cynhwysol, croesawgar lle mae pawb yn cael eu hannog i ffynnu. Rydym yn cynnig cyfle...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Byddai'r rôl yn golygu gweithio o fewn y tîm Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc i gefnogi pob aelod o staff gyda dyletswyddau gweinyddol a chymorth. Fel Gweinyddwr Atal a Phartneriaethau byddwch yn rhan o dîm aml-sgiliau, gan gefnogi nifer o brosiectau/mentrau presennol a datblygol. Wedi'i leoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau mae'r...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau o fewn ei Rhaglen Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael mewn ardaloedd penodol i gefnogi pob teulu i roi Dechrau'n Deg mewn bywyd i blant 0-3 oed Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a’u teuluoedd. Mae’r rhaglen yn...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Cynhelir Partneriaeth Natur Bro Morgannwg gan y Cyngor, a’i phrif amcan yw hybu cadwraeth, ymwybyddiaeth a gwelliant natur ym Mro Morgannwg. Nod Partneriaeth Natur Leol Bro Morgannwg yw: - Atal colli bioamrywiaeth ym Mro Morgannwg - Diogelu ac adfer cynefinoedd presennol, yn ogystal â chreu cynefinoedd newydd. - Addysgu a chodi...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r rôl o fewn Darpariaeth Arbenigol Bro Morgannwg sy’n rhan o Gyfarwyddiaeth Lles ac ADY Bro Morgannwg. Lleolir y swydd yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol newydd yn Ysgol Gwaun y Nant. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda disgyblion o fewn yr ystod oedran cynradd, yn y Ganolfan Adnoddau ac ar draws Bro Morgannwg trwy allgymorth. Mae'r...