Swyddog Cymorth Partneriaeth Natur Leol

2 weeks ago

Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**

Cynhelir Partneriaeth Natur Bro Morgannwg gan y Cyngor, a’i phrif amcan yw hybu cadwraeth, ymwybyddiaeth a gwelliant natur ym Mro Morgannwg.

Nod Partneriaeth Natur Leol Bro Morgannwg yw:

- Atal colli bioamrywiaeth ym Mro Morgannwg
- Diogelu ac adfer cynefinoedd presennol, yn ogystal â chreu cynefinoedd newydd.
- Addysgu a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelu ein bioamrywiaeth leol.
- Cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i bobl ddysgu am fioamrywiaeth leol a chymryd rhan yn y gweithredu dros natur.
- Helpu darpar brosiectau a phrosiectau sy'n bodoli eisoes sy'n seiliedig ar natur drwy gynnig adnoddau ac arbenigedd.
- Cynghori ar gamau priodol ar gyfer cadwraeth ym Mro Morgannwg.
- Hwyluso gweithio mewn partneriaeth i gyrraedd y mwyaf o bobl â phosibl i lywio a thargedu camau gweithredu ar adferiad natur.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion cyflog: Gradd 4: £21,575 - £22,369

Oriau Gwaith/Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos

Prif weithle: Swyddfa'r Dociau, Y Barri/ Gweithio gartref

Ariennir y swydd hon drwy Gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru. Contract cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2025 gyda'r potensial i ymestyn yn amodol ar gyllid allanol.

**Disgrifiad**:
Bydd deiliad y swydd yn:

- Darparu cymorth i'r tîm PNL wrth ddatblygu a darparu rhaglen Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig y prosiect Natur ar garreg eich drws yn Y Barri, Penarth, Y Bont-faen a Llanilltud Fawr.
- Cynorthwyo'r tîm i reoli ymholiadau ynghylch y Cynllun. - Darparu cymorth gweinyddol i’r Cynllun, gan gynnwys gwneud archebion, cefnogi cyflwyniadau hawliadau grant, cadw cofnodion a chefnogi tasgau monitro a gwerthuso prosiectau.
- Hwyluso trefnu cyfarfodydd, cydlynu presenoldeb ynghyd â chadw cofnodion a chynhyrchu nodiadau yn ôl yr angen.
- Diweddaru map prosiect GIS y PNL gyda phrosiectau lleol.
- Bod yn gyfrifol am hwyluso'r Cynllun Grant Bioamrywiaeth, gan gynnwys trefnu paneli grant a gwaith papur, a chysylltu ag ymgeiswyr yn ôl yr angen.
- Hyrwyddo'r grant i bartneriaid newydd sy'n rheoli tir sy'n hygyrch i'r cyhoedd, e.e. cymdeithasau tai, yr Eglwys yng Nghymru, darparwyr llety preswyl, GIG, Colegau ac ati. - Cynorthwyo gwaith marchnata’r Cynllun a'r bartneriaeth ehangach.
- Arwain ar hyrwyddo prosiectau a digwyddiadau trwy'r cyfryngau cymdeithasol a chymryd rhan yn y gwaith o gynnal gwefan y PNL.

**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o weithio mewn amgylchedd sy’n ymwneud â chwsmeriaid.
- Profiad o ddarparu cymorth gweinyddol. Caffael - archebu
- Gallu cyfathrebu a darllen
- Sgiliau TG yn enwedig Excel.
- Brwdfrydig iawn a gallu gweithio’n dda mewn tîm, siriol wrth ymwneud â’r cyhoedd
- Gallu gweithio’n hyblyg a heb oruchwyliaeth.
- Hawdd mynd ato ac yn barod i helpu.
- Parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd a datblygu gwybodaeth am fioamrywiaeth.
- Gallu gyrru ledled y Fro.
- Byddai’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Emily Shaw, Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: PLA00016

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfder wrth wneud Gwaith Cymdeithasol? Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru? Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg. Mae gwasanaethau cymdeithasol oedolion ym Mro Morgannwg yn rhoi ein staff a’n Mae gennym gyfle ar gyfer Swyddog Cymorth Gofalwyr rhan...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cydweithfa Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (VVC) yn un o bum Cydweithrediad rhanbarthol sy’n rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru. Mae'n cyflawni ystod o swyddogaethau'r Asiantaeth Fabwysiadu ar ran CBS Merthyr Tudful, CBC RCT, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg. Mae'r cwmni cydweithredol yn gyfrifol...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn dîm bach o Gynorthwywyr Cymorth Dysgu arbenigol sy'n gweithio gyda phlant â nam ar eu golwg ar draws ysgolion yng Nghyngor Bro Morgannwg. Byddwch yn gweithio 1:1 gyda’r disgyblion i sicrhau eu bod yn cael mynediad i’r cwricwlwm trwy adnoddau cyffyrddol, cymorth gydag anghenion Symudedd, yn ogystal â bywyd ehangach yr ysgol....

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn recriwtio ar gyfer swydd Swyddog Datblygu Taliadau Uniongyrchol, sy’n swyddogaeth allweddol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ystod eang o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol ynghylch amddiffyn a chefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Cyflog: Gradd 7...

  • Cynghorydd Pod

    4 weeks ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn rhan o Dîm Cyflogadwyedd sy’n ehangu sy'n rhan o Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau Cyngor Bro Morgannwg. Mae'r Cynghorydd Pod yn ddatblygiad newydd a chyffrous a ariennir gan Lywodraeth y DU. Bydd y POD Cynghori’n siop un stop o wahanol wasanaethau lleol sy'n ceisio helpu preswylwyr/cwsmeriaid i gael mynediad at rai gwasanaethau...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg yn ceisio rhoi pobl wrth galon eu gofal eu hunain, ni waeth pam mae angen cymorth gofal cymdeithasol arnynt. Rydyn ni am gynnig yr help iawn i bobl ar yr amser iawn i'w helpu i fod yn hapus, yn ddiogel a chael y cyfleoedd gorau mewn bywyd. O fewn Bro Morgannwg gall ymarferwyr wneud...

  • Athro Dosbarth

    4 weeks ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn ofynnol ar gyfer Medi 1af 2023. Mae'r Corff Llywodraethol am benodi athro hynod ysgogol, cydwybodol ac arloesol i fod yn rhan bwysig o'r ysgol. Rydym yn ysgol gynradd wledig fach, sydd wrth galon ein cymuned leol. Rydym yn chwilio am ymgeisydd creadigol, arloesol a brwdfrydig sy’n hyblyg, yn barod i dyfu gyda ni a bob amser yn rhoi...

  • Athro RHan Amser

    4 weeks ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn ofynnol ar gyfer Medi 1af 2023. Mae'r Corff Llywodraethol am benodi athro hynod ysgogol, cydwybodol ac arloesol i fod yn rhan bwysig o'r ysgol. Rydym yn ysgol gynradd wledig fach, sydd wrth galon ein cymuned leol. Rydym yn chwilio am ymgeisydd creadigol, arloesol a brwdfrydig sy’n hyblyg, yn barod i dyfu gyda ni a bob amser yn rhoi...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Adolygu’n rhan o Wasanaeth Gofal Hirdymor Bro Morgannwg sy'n rhoi cymorth i unigolion sy'n derbyn gofal a chymorth, a'u gofalwyr. Mae'r Tîm Adolygu’n gyfrifol am gwblhau adolygiadau wedi'u trefnu a heb eu trefnu i werthuso cynnydd tuag at gyflawni canlyniadau personol, am gadarnhau a yw unrhyw drefniadau gofal a chymorth a...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Corff Llywodraethol, sy'n ofynnol ar gyfer 1 Medi 2024, yn ceisio penodi athro rhagorol, llawn cymhelliant, athro ac uwch arweinydd ysbrydoledig i fod yn ddirprwy bennaeth ein hysgol wych. Rydym yn ysgol gynradd wledig fach sydd wrth wraidd ein cymuned leol. Rydym yn chwilio am ymgeisydd creadigol, arloesol a brwdfrydig sy'n hyblyg, yn...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau o fewn ei Rhaglen Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael mewn ardaloedd penodol i gefnogi pob teulu i roi Dechrau Teg mewn bywyd i blant 0-3 oed Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a’u teuluoedd. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau o fewn ei Rhaglen Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael mewn ardaloedd penodol i gefnogi pob teulu i roi Dechrau'n Deg mewn bywyd i blant 0-3 oed Nod y cynllun yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a’u teuluoedd. Mae’r rhaglen yn...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir yn gweithio gyda’r tri chyngor partner - Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg - dan un strwythur rheoli unigol. Mae’r Gwasanaeth yn bennaf atebol i Gydbwyllgor o Aelodau Etholedig, ond bydd y rôl hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd wasanaethu’r Pwyllgorau Trwyddedu a Diogelu’r...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn rhan o Dîm Cyflogadwyedd sy'n rhan o Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau Cyngor Bro Morgannwg. Mae'r Mentor Cyflogaeth a Gynorthwyir yn ddatblygiad newydd a chyffrous a ariennir gan Lywodraeth y DU, a bydd y rôl yn canolbwyntio ar ddatblygu'r agenda cymorth cyflogadwyedd. Yn rhan o'r tîm cyflogadwyedd byddwch yn gweithio i uwch fentor...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** **Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfder wrth wneud Gwaith Cymdeithasol?** **Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru?** **Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg.** Mae gennym gyfle i Weithwyr Cymdeithasol yn y Tîm Pontio Anableddau Dysgu, a byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Gweledigaeth Ysgol Gynradd Ynys y Barri: 'Cyffroi, Cymell ac Arloesi - Ymdrechu am Ragoriaeth Gyda'n Gilydd.' Mae Ysgol Gynradd Ynys y Barri yn ysgol fywiog sy'n gwasanaethu cymuned Ynys y Barri. Rydym yn awyddus i benodi athrawon deinamig a thalentog i ymuno â thîm hapus a gweithgar. Rydym yn chwilio am athrawon sydd ag angerdd i gefnogi...

    **Amdanom ni** Me’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (GAI) yn wasanaeth i bobl o bob oed gydag ASA/Awtistiaeth sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r gwasanaeth yn cynnig un pwynt mynediad, gan gynnwys opsiynau hunan-atgyfeirio i'r gwasanaeth diagnosteg oedolion ac ymyriadau byr dymor parhaus i oedolion a theuluoedd ar ôl cael diagnosis a...

  • Swyddog Atebion Tai

    7 days ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Y gwasanaeth atebion tai: Mae'r swydd hon wedi'i lleoli o fewn y tîm atebion tai, a'r Prif ddiben yw cyfrannu'n llawn at ddarparu'r holl wasanaethau mewn perthynas â gwasanaethau digartrefedd statudol, atal digartrefedd a chyngor ar dai. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion cyflog: Gradd 5, PCG 8 - 12 £22,777 - £24,496 y.f. Oriau...