Rheolwr Gwasanaeth Interniaeth  Chymorth

4 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Gwasanaeth Cynhwysiant yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes ac mae'n gyfrifol am sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda, yn cefnogi ac yn cydlynu darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, eu teuluoedd a lleoliadau addysg i sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at eu hawl. Mae hyn yn cynnwys cefnogi trosglwyddiadau llyfn i ystod o leoliadau neu lwybrau yn seiliedig ar eu nodau a'u dyheadau.

**Am Y Swydd**
Mae’r tîm ADY ôl-16 yn rhan o’r gwasanaeth cynhwysiant ac yn gweithio ar y cyd ag Ymrwymiad Caerdydd i fwrw ymlaen â llwybrau cyflogaeth a chanlyniadau i bobl ifanc ag ADY. Yn 2021, fe wnaethom ymuno â Chyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gyflwyno rhaglen interniaeth â chymorth yn Ysbyty’r Mynydd Bychan a oedd yn darparu llwybr llwyddiannus i gyflogaeth i bobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Yn sgil ehangu’r rhaglen, mae cyfle cyffrous wedi codi i Reolwr Gwasanaeth Interniaeth â Chymorth Pobl Ifanc weithio gyda’r Tîm ADY ôl-16 ac Ymrwymiad Caerdydd. Mae’r rôl hon yn cynnwys:

- Chwarae rhan ganolog mewn grymuso pobl ifanc ag anableddau dysgu i gyflawni eu dyheadau gyrfa.
- Cydlynu gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid presennol a newydd (gan gynnwys cyflogwyr lleol a lleoliadau addysg) i greu cyfleoedd interniaeth cynhwysol a chefnogol.
- Goruchwylio a rheoli ystod o interniaethau â chymorth, rhoi prosesau monitro effeithiol ar waith i adolygu eu llwyddiant, a gwneud gwelliannau strategol a gweithredol i gynyddu nifer y bobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sy’n dod i mewn i’r gweithle a chyflawni canlyniadau cyflogaeth cynaliadwy sy’n bodloni a angen busnes.
- Rheoli llinell a darparu arweinyddiaeth effeithiol i dîm o diwtoriaid sy'n cyflwyno cwricwlwm cyflogadwyedd i gefnogi datblygiad pobl ifanc a'r cyfnod pontio tuag at gyflogaeth.
- Cydweithio'n agos â hyfforddwyr swyddi a'u rheolwyr i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cymorth a'r mentora dwys sydd eu hangen i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a chael mynediad at gyflogaeth gynaliadwy.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolyn hynod drefnus, llawn cymhelliant ac angerddol sydd â dyheadau uchel ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu a chred gref yn eu gallu a’u hawl i weithio. Byddwch yn gallu sefydlu perthnasoedd ymddiriedus gyda phobl ifanc a'u teuluoedd a'u hysbrydoli i anelu at waith cyflogedig.

Bydd gennych brofiad helaeth a thystiolaeth o arfer gweithio cynhwysol llwyddiannus gyda phobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth a'u rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd hyn ynghyd â gwybodaeth ymarferol ragorol am fodelau interniaeth â chymorth a hanes profedig o weithio'n effeithiol gyda chyflogwyr ac asiantaethau partner, gyda phrofiad o gyfathrebu â chyflogwyr ar bob lefel.

Bydd angen lefel uchel o sgiliau dylanwadu, negodi ac eirioli arnoch i allu dylanwadu ac ymgysylltu â busnesau i gynnig a darparu interniaethau â chymorth, a’r gallu i ddatrys problemau, ac i ymgysylltu ag amrywiaeth o bartneriaid mewn camau gweithredu i ddatrys problemau.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer rhannu post.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion bregus i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad pob plentyn ac oedolyn agored i niwed, a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu llesiant, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog enwebedig ar raddfa heb fod yn is na OM2 neu'r Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff mewn ysgolion all gymeradwyo ceisiadau.

Mae'r swydd hon yn llawn amser a bydd yn 37 awr yr wythnos ar draws 52 wythnos (heblaw yn ystod y tymor).

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: EDU00693



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Rydym wedi ehangu'n gyflym yn ddiweddar ac mae ein gwasanaeth wedi gorfod gwneud newidiadau mawr, felly rydym yn recriwtio...

  • Rheolwr Gwasanaeth

    4 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu taliad atodol ar sail y farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol. Bydd lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro rata) hefyd yn cael ei dalu os yw'r meini prawf cywir yn cael eu bodloni. Mae cyfle cyffrous wedi codi i Reolwr Gwasanaeth cymwys addas weithio ar...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **About The Service** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i bobl sengl sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Mae ein gwasanaethau'n rhedeg 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn ac oherwydd newidiadau diweddar mae ein gwasanaeth wedi ehangu i ddiwallu anghenion y bobl sy'n defnyddio ein darpariaeth. **About...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i bobl sengl sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Mae ein gwasanaethau'n rhedeg 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn ac oherwydd newidiadau diweddar mae ein gwasanaeth wedi ehangu i ddiwallu anghenion y bobl sy'n defnyddio ein darpariaeth. **Am Y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **YNGLŶN Â'R GWASANAETH** Mae gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol sy'n darparu llety, cyngor a chymorth i bobl sengl agored i niwed sy'n wynebu digartrefedd ac sydd ag ystod o anghenion cymorth. Mae hyn yn cael ei ddarparu trwy nifer o safleoedd ledled y ddinas. Trwy weithio ar y cyd â gwasanaethau tai a MDT...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol. ***Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm â chymwysterau addas weithio yng Ngwasanaethau Oedolion Caerdydd. Mae hon yn rôl Rheolwr Tîm sydd ar gael yn y Gwasanaeth Cyswllt ac Asesu sy'n gweithio gyda phobl dros...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm sydd â chymwysterau addas weithio o fewn Gwasanaethau Oedolion Caerdydd. Mae dwy rôl Rheolwr Tîm ar gael yn y Gwasanaeth Cyswllt ac Asesu sy'n gweithio gyda phobl dros...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cymorth a Llety Cynghorau Caerdydd yn darparu llety, cyngor a chefnogaeth i bobol ddiamddiffyn sengl sydd mewn tai mewn angen.** **Mae'r gwasanaeth yn rhedeg 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.** **Ers Covid-19, mae'r gwasanaeth wedi gorfod creu llawer o newidiadau.Fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu tuag at yr...

  • Gweithiwr Cymorth

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i ymuno â'r Tîm Byw â Chymorth Caerdydd. Rydym yn chwilio am weithwyr cymorth i roi cymorth i unigolion ag anabledd dysgu. Rydym yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth o safon uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion yn cynnig gwaith prysur a diddorol y byddech yn ei ddisgwyl mewn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm cymwys addas weithio o fewn Gwasanaethau Oedolion Caerdydd. Bydd y rôl hon yn rheoli timau gwaith cymdeithasol yn y gymuned, gan weithio gyda phobl dros ddeunaw oed sydd ag anghenion gofal a chymorth cymwys. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i ddatblygu a llunio'r gwasanaeth ochr yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol swydd wag gyffrous ar gyfer Rheolwr Trydanol Cymwys; byddwch yn gyfrifol i sicrhau bod y gofynion trydanol statudol ar gyfer stoc ddomestig y cyngor yn cael eu bodloni yn ogystal â bod yn rheolwr llinell o ddydd i ddydd i drydanwyr tai. **Am Y Swydd** Yn ychwanegol, bod yn gyfrifol am sicrhau bod...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd ar gyfer Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm o syrfëwr meintiol. Mae'r Tîm newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni amrywiaeth eang o brosiectau sy’n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd yn chwilio am Reolwr Sicrwydd Ansawdd i arwain ar y gwaith gweithredu: Strategaeth Sicrwydd Ansawdd ac Archwilio ar gyfer Gwasanaethau Plant ac Oedolion Prosesau Sicrwydd Ansawdd cadarn ar draws y Gyfarwyddiaeth. **Am Y Swydd** Yn y rôl o Reolwr Sicrwydd Ansawdd byddwch yn ymuno â thîm ymroddgar...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...

  • Rheolwr Technegol

    4 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth hygyrch o ansawdd uchel wrth gyflawni ei swyddogaethau i gynnal a chadw 13,808 eiddo domestig y Cyngor a thua 9 adeilad llety â chymorth. Mae hefyd yn gyfrifol am 9 bloc fflatiau uchel, yn ogystal â Chyfadeiladau Byw yn y Gymuned. **Am Y Swydd** Prif swyddogaeth y rôl yw cynorthwyo'r Rheolwyr...

  • Rheolwr Tim

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu taliad atodol ar sail y farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol. Bydd lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro rata) hefyd yn cael ei dalu os yw'r meini prawf cywir yn cael eu bodloni. Mae cyfleoedd cyffrous wedi codi ar gyfer Rheolwyr Tîm â chymwysterau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'r Tîm Ystadegau a Chymorth yn darparu ystadegau ar gyfer pob maes o fewn y timau gwasanaethau cwsmeriaid a digidol, yn amrywio o brif ganolfan gyswllt Cyngor Caerdydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous ar gael i unigolyn ymroddedig ymuno â’n Gwasanaeth Byw’n Annibynnol. Mae'r Gwasanaeth yn dîm amlddisgyblaeth sy'n cefnogi oedolion i aros yn annibynnol gartref ac aros yn rhan o’u cymuned, gan alluogi pobl i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. **Am Y Swydd** Y Rheolwr Sicrwydd Ansawdd sy'n gyfrifol am...